Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50

Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 32 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Jacob a gerddodd i'w daith yntau: ac angylion Duw a gyfarfu ag ef.

2. A Jacob a ddywedodd, pan welodd hwynt, Dyma wersyll Duw: ac a alwodd enw y lle hwnnw Mahanaim.

3. A Jacob a anfonodd genhadau o'i flaen at ei frawd Esau, i wlad Seir, i wlad Edom:

4. Ac a orchmynnodd iddynt, gan ddywedyd, Fel hyn y dywedwch wrth fy arglwydd Esau; Fel hyn y dywed dy was di Jacob; Gyda Laban yr ymdeithiais, ac y trigais hyd yn hyn.

5. Ac y mae i mi eidionau, ac asynnod, defaid, a gweision, a morynion: ac anfon a wneuthum i fynegi i'm harglwydd, i gael ffafr yn dy olwg.

6. A'r cenhadau a ddychwelasant at Jacob, gan ddywedyd, Daethom at dy frawd Esau; ac y mae efe yn dyfod i'th gyfarfod di, a phedwar cant o wŷr gydag ef.

7. Yna Jacob a ofnodd yn fawr, a chyfyng oedd arno: ac efe a rannodd y bobl oedd gydag ef, a'r defaid, a'r eidionau, a'r camelod, yn ddwy fintai;

8. Ac a ddywedodd, Os daw Esau at y naill fintai, a tharo honno, yna y fintai arall a fydd ddihangol.

9. A dywedodd Jacob, O Dduw fy nhad Abraham, a Duw fy nhad Isaac, O Arglwydd, yr hwn a ddywedaist wrthyf, Dychwel i'th wlad, ac at dy genedl, a mi a wnaf ddaioni i ti!

10. Ni ryglyddais y lleiaf o'th holl drugareddau di, nac o'r holl wirionedd a wnaethost â'th was: oblegid â'm ffon y deuthum dros yr Iorddonen hon; ond yn awr yr ydwyf yn ddwy fintai.

11. Achub fi, atolwg, o law fy mrawd, o law Esau: oblegid yr ydwyf fi yn ei ofni ef, rhag dyfod ohono a'm taro, a'r fam gyda'r plant.

12. A thydi a ddywedaist, Gwnaf ddaioni i ti yn ddiau; a'th had di a wnaf fel tywod y môr, yr hwn o amlder ni ellir ei rifo.

13. Ac yno y lletyodd efe y noson honno: ac o'r hyn a ddaeth i'w law ef y cymerth efe anrheg i'w frawd Esau;

14. Dau gant o eifr, ac ugain o fychod, dau gant o ddefaid, ac ugain o hyrddod,

15. Deg ar hugain o gamelod blithion a'u llydnod, deugain o wartheg, a deg o deirw, ugain o asennod, a deg o ebolion.

16. Ac efe a roddes yn llaw ei weision bob gyr o'r neilltu; ac a ddywedodd wrth ei weision, Ewch trosodd o'm blaen i, a gosodwch encyd rhwng pob gyr a'i gilydd.

17. Ac efe a orchmynnodd i'r blaenaf, gan ddywedyd, Os Esau fy mrawd a'th gyferfydd di, ac a ymofyn â thydi, gan ddywedyd, I bwy y perthyni di? ac i ba le yr ei? ac eiddo pwy yw y rhai hyn o'th flaen di?

18. Yna y dywedi, Eiddo dy was Jacob; anrheg yw wedi ei hanfon i'm harglwydd Esau: ac wele yntau hefyd ar ein hôl ni.

19. Felly y gorchmynnodd hefyd i'r ail, ac i'r trydydd, ac i'r rhai oll oedd yn canlyn y gyrroedd, gan ddywedyd, Yn y modd hwn y dywedwch wrth Esau, pan gaffoch afael arno.

20. A dywedwch hefyd, Wele dy was Jacob ar ein hôl ni. Oblegid (eb efe) bodlonaf ei wyneb ef â'r anrheg sydd yn myned o'm blaen: ac wedi hynny edrychaf yn ei wyneb ef; ond antur efe a dderbyn fy wyneb innau.

21. Felly yr anrheg a aeth trosodd o'i flaen ef: ac efe a letyodd y noson honno yn y gwersyll.

22. Ac efe a gyfododd y noson honno, ac a gymerth ei ddwy wraig, a'i ddwy lawforwyn, a'i un mab ar ddeg, ac a aeth dros ryd Jabboc.

23. Ac a'u cymerth hwynt, ac a'u trosglwyddodd trwy'r afon: felly efe a drosglwyddodd yr hyn oedd ganddo.

24. A Jacob a adawyd ei hunan: yna yr ymdrechodd gŵr ag ef nes codi'r wawr.

25. A phan welodd na byddai drech nag ef, efe a gyffyrddodd â chyswllt ei forddwyd ef; fel y llaesodd cyswllt morddwyd Jacob, wrth ymdrech ohono ag ef.

26. A'r angel a ddywedodd, Gollwng fi ymaith; oblegid y wawr a gyfododd. Yntau a atebodd, Ni'th ollyngaf, oni'm bendithi.

27. Hefyd efe a ddywedodd wrtho, Beth yw dy enw? Ac efe a atebodd, Jacob.

28. Yntau a ddywedodd, Mwyach ni elwir dy enw di Jacob, ond Israel: oblegid cefaist nerth gyda Duw fel tywysog, a chyda dynion, ac a orchfygaist.

29. A Jacob a ymofynnodd, ac a ddywedodd, Mynega, atolwg, dy enw. Ac yntau a atebodd, I ba beth y gofynni hyn am fy enw i? Ac yno efe a'i bendithiodd ef.

30. A Jacob a alwodd enw y fan Peniel: oblegid gwelais Dduw wyneb yn wyneb, a dihangodd fy einioes.

31. A'r haul a gyfodasai arno fel yr oedd yn myned dros Penuel, ac yr oedd efe yn gloff o'i glun.

32. Am hynny plant Israel ni fwytânt y gewyn a giliodd, yr hwn sydd o fewn cyswllt y forddwyd, hyd y dydd hwn: oblegid cyffwrdd â chyswllt morddwyd Jacob ar y gewyn a giliodd.