Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50

Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 38 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac yn y cyfamser hwnnw, y darfu i Jwda fyned i waered oddi wrth ei frodyr, a throi at ŵr o Adulam, a'i enw Hira.

2. Ac yno y canfu Jwda ferch gŵr o Ganaan, a'i enw ef oedd Sua; ac a'i cymerodd hi, ac a aeth ati hi.

3. A hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab; ac efe a alwodd ei enw ef Er.

4. A hi a feichiogodd eilwaith, ac a esgorodd ar fab; a hi a alwodd ei enw ef Onan.

5. A thrachefn hi a esgorodd ar fab, ac a alwodd ei enw ef Sela. Ac yn Chesib yr oedd efe pan esgorodd hi ar hwn.

6. A Jwda a gymerth wraig i Er ei gyntaf‐anedig, a'i henw Tamar.

7. Ac yr oedd Er, cyntaf‐anedig Jwda, yn ddrygionus yng ngolwg yr Arglwydd; a'r Arglwydd a'i lladdodd ef.

8. A Jwda a ddywedodd wrth Onan, Dos at wraig dy frawd, a phrioda hi, a chyfod had i'th frawd.

9. Ac Onan a wybu nad iddo ei hun y byddai'r had: a phan elai efe at wraig ei frawd, yna y collai efe ei had ar y llawr, rhag rhoddi ohono had i'w frawd.

10. A drygionus oedd yr hyn a wnaethai efe yng ngolwg yr Arglwydd: am hynny efe a'i lladdodd yntau.

11. Yna Jwda a ddywedodd wrth Tamar ei waudd, Trig yn weddw yn nhŷ dy dad, hyd oni chynyddo fy mab Sela: (oblegid efe a ddywedodd, Rhag ei farw yntau fel ei frodyr.) A Thamar a aeth, ac a drigodd yn nhŷ ei thad.

12. Ac wedi llawer o ddyddiau, marw a wnaeth merch Sua, gwraig Jwda: a Jwda a gymerth gysur, ac a aeth i fyny i Timnath, at gneifwyr ei ddefaid, efe a'i gyfaill Hira yr Adulamiad.

13. Mynegwyd hefyd i Tamar, gan ddywedyd, Wele dy chwegrwn yn myned i fyny i Timnath, i gneifio ei ddefaid.

14. Hithau a ddiosgodd ddillad ei gweddwdod oddi amdani, ac a'i cuddiodd ei hun â gorchudd, ac a ymwisgodd, ac a eisteddodd yn nrws Enaim, yr hwn sydd ar y ffordd i Timnath: oblegid gweled yr oedd hi fyned Sela yn fawr, ac na roddasid hi yn wraig iddo ef.

15. A Jwda a'i canfu hi, ac a dybiodd mai putain ydoedd hi; oblegid gorchuddio ohoni ei hwyneb.

16. Ac efe a drodd ati hi i'r ffordd, ac a ddywedodd, Tyred, atolwg, gad i mi ddyfod atat: (oblegid nid oedd efe yn gwybod mai ei waudd ef ydoedd hi.) Hithau a ddywedodd, Beth a roddi i mi, os cei ddyfod ataf?

17. Yntau a ddywedodd, Mi a hebryngaf fyn gafr o blith y praidd. Hithau a ddywedodd, A roddi di wystl hyd oni hebryngech?

18. Yntau a ddywedodd, Pa wystl a roddaf i ti? Hithau a ddywedodd, Dy sêl, a'th freichledau, a'th ffon sydd yn dy law. Ac efe a'u rhoddes iddi, ac a aeth ati; a hi a feichiogodd ohono ef.

19. Yna y cyfododd hi, ac a aeth ymaith, ac a ddiosgodd ei gorchudd oddi amdani, ac a wisgodd ddillad ei gweddwdod.

20. A Jwda a hebryngodd fyn gafr yn llaw yr Adulamiad ei gyfaill, i gymryd y gwystl o law y wraig: ond ni chafodd hwnnw hi.

21. Ac efe a ymofynnodd â gwŷr y fro honno, gan ddywedyd, Pa le y mae y butain honno a ydoedd yn Enaim wrth y ffordd? A hwythau a ddywedasant, Nid oedd yma un butain.

22. Ac efe a ddychwelodd at Jwda ac a ddywedodd, Ni chefais hi; a gwŷr y fro honno hefyd a ddywedasant, Nid oedd yma un butain.

23. A Jwda a ddywedodd, Cymered iddi hi, rhag i ni gael cywilydd: wele, mi a hebryngais y myn hwn, a thithau ni chefaist hi.

24. Ac ynghylch pen tri mis y mynegwyd i Jwda, gan ddywedyd, Tamar dy waudd di a buteiniodd; ac wele, hi a feichiogodd hefyd mewn godineb. A dywedodd Jwda, Dygwch hi allan, a llosger hi.

25. Yna hi, pan ddygwyd hi allan, a anfonodd at ei chwegrwn, gan ddywedyd, O'r gŵr biau'r rhai hyn yr ydwyf fi yn feichiog: hefyd hi a ddywedodd, Adnebydd, atolwg, eiddo pwy yw y sêl, a'r breichledau, a'r ffon yma.

26. A Jwda a adnabu y pethau hynny, ac a ddywedodd, Cyfiawnach yw hi na myfi; oherwydd na roddais hi i'm mab Sela: ac ni bu iddo ef a wnaeth â hi mwy.

27. Ac yn amser ei hesgoredigaeth hi, wele efeilliaid yn ei chroth hi.

28. Bu hefyd pan esgorodd hi, i un roddi allan ei law: a'r fydwraig a gymerth ac a rwymodd am ei law ef edau goch, gan ddywedyd, Hwn a ddaeth yn gyntaf allan.

29. A phan dynnodd efe ei law yn ei hôl, yna wele, ei frawd ef a ddaeth allan: a hithau a ddywedodd, Pa fodd y torraist allan? bid y toriad hwn arnat ti; am hynny y galwyd ei enw ef Phares.

30. Ac wedi hynny ei frawd ef a ddaeth allan, yr hwn yr oedd yr edau goch am ei law: a galwyd ei enw ef Sera.