Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50

Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 1 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yn y dechreuad y creodd Duw y nefoedd a'r ddaear.

2. A'r ddaear oedd afluniaidd a gwag, a thywyllwch oedd ar wyneb y dyfnder, ac Ysbryd Duw yn ymsymud ar wyneb y dyfroedd.

3. A Duw a ddywedodd, Bydded goleuni, a goleuni a fu.

4. A Duw a welodd y goleuni, mai da oedd: a Duw a wahanodd rhwng y goleuni a'r tywyllwch.

5. A Duw a alwodd y goleuni yn Ddydd, a'r tywyllwch a alwodd efe yn Nos: a'r hwyr a fu, a'r bore a fu, y dydd cyntaf.

6. Duw hefyd a ddywedodd, Bydded ffurfafen yng nghanol y dyfroedd, a bydded hi yn gwahanu rhwng y dyfroedd a'r dyfroedd.

7. A Duw a wnaeth y ffurfafen, ac a wahanodd rhwng y dyfroedd oddi tan y ffurfafen, a'r dyfroedd oddi ar y ffurfafen: ac felly y bu.

8. A'r ffurfafen a alwodd Duw yn Nefoedd: a'r hwyr a fu, a'r bore a fu, yr ail ddydd.

9. Duw hefyd a ddywedodd, Casgler y dyfroedd oddi tan y nefoedd i'r un lle, ac ymddangosed y sychdir: ac felly y bu.

10. A'r sychdir a alwodd Duw yn Ddaear, a chasgliad y dyfroedd a alwodd efe yn Foroedd: a Duw a welodd mai da oedd.

11. A Duw a ddywedodd, Egined y ddaear egin, sef llysiau yn hadu had, a phrennau ffrwythlon yn dwyn ffrwyth, wrth eu rhywogaeth, y rhai y mae eu had ynddynt ar y ddaear: ac felly y bu.

12. A'r ddaear a ddug egin, sef llysiau yn hadu had wrth eu rhywogaeth, a phrennau yn dwyn ffrwyth, y rhai y mae eu had ynddynt wrth eu rhywogaeth: a Duw a welodd mai da oedd.

13. A'r hwyr a fu, a'r bore a fu, y trydydd dydd.

14. Duw hefyd a ddywedodd, Bydded goleuadau yn ffurfafen y nefoedd, i wahanu rhwng y dydd a'r nos; a byddant yn arwyddion, ac yn dymhorau, ac yn ddyddiau, a blynyddoedd.

15. A byddant yn oleuadau yn ffurfafen y nefoedd, i oleuo ar y ddaear: ac felly y bu.

16. A Duw a wnaeth ddau oleuad mawrion; y goleuad mwyaf i lywodraethu'r dydd, a'r goleuad lleiaf i lywodraethu'r nos: a'r sêr hefyd a wnaeth efe.

17. Ac yn ffurfafen y nefoedd y rhoddes Duw hwynt, i oleuo ar y ddaear,

18. Ac i lywodraethu'r dydd a'r nos, ac i wahanu rhwng y goleuni a'r tywyllwch: a gwelodd Duw mai da oedd.

19. A'r hwyr a fu, a'r bore a fu, y pedwerydd dydd.

20. Duw hefyd a ddywedodd, Heigied y dyfroedd ymlusgiaid byw, ac eheded ehediaid uwch y ddaear, yn wyneb ffurfafen y nefoedd.

21. A Duw a greodd y morfeirch mawrion, a phob ymlusgiad byw, y rhai a heigiodd y dyfroedd yn eu rhywogaeth, a phob ehediad asgellog yn ei rywogaeth: a gwelodd Duw mai da oedd.

22. A Duw a'u bendigodd hwynt, gan ddywedyd, Ffrwythwch, ac amlhewch, a llenwch y dyfroedd yn y moroedd, a lluosoged yr ehediaid ar y ddaear,

23. A'r hwyr a fu, a'r bore a fu, y pumed dydd.

24. Duw hefyd a ddywedodd, Dyged y ddaear bob peth byw wrth ei rywogaeth, yr anifail, a'r ymlusgiad, a bwystfil y ddaear wrth ei rywogaeth: ac felly y bu.

25. A Duw a wnaeth fwystfil y ddaear wrth ei rywogaeth, a'r anifail wrth ei rywogaeth, a phob ymlusgiad y ddaear wrth ei rywogaeth: a gwelodd Duw mai da oedd.

26. Duw hefyd a ddywedodd, Gwnawn ddyn ar ein delw ni, wrth ein llun ein hunain: ac arglwyddiaethant ar bysg y môr, ac ar ehediad y nefoedd, ac ar yr anifail, ac ar yr holl ddaear, ac ar bob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear.

27. Felly Duw a greodd y dyn ar ei ddelw ei hun, ar ddelw Duw y creodd efe ef: yn wryw ac yn fenyw y creodd efe hwynt.

28. Duw hefyd a'u bendigodd hwynt, a Duw a ddywedodd wrthynt, Ffrwythwch, ac amlhewch, a llenwch y ddaear, a darostyngwch hi; ac arglwyddiaethwch ar bysg y môr, ac ar ehediad y nefoedd, ac ar bob peth byw a ymsymudo ar y ddaear.

29. A Duw a ddywedodd, Wele, mi a roddais i chwi bob llysieuyn yn hadu had, yr hwn sydd ar wyneb yr holl ddaear, a phob pren yr hwn y mae ynddo ffrwyth pren yn hadu had, i fod yn fwyd i chwi.

30. Hefyd i bob bwystfil y ddaear, ac i bob ehediad y nefoedd, ac i bob peth a ymsymudo ar y ddaear, yr hwn y mae einioes ynddo, y bydd pob llysieuyn gwyrdd yn fwyd: ac felly y bu.

31. A gwelodd Duw yr hyn oll a wnaethai, ac wele da iawn ydoedd: felly yr hwyr a fu, a'r bore a fu, y chweched dydd.