Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50

Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A bu yn nyddiau Amraffel brenin Sinar, Arioch brenin Elasar, Cedorlaomer brenin Elam, a Thidal brenin y cenhedloedd;

2. Wneuthur ohonynt ryfel â Bera brenin Sodom, ac â Birsa brenin Gomorra, â Sinab brenin Adma, ac â Semeber brenin Seboim, ac â brenin Bela, hon yw Soar.

3. Y rhai hyn oll a ymgyfarfuant yn nyffryn Sidim: hwnnw yw'r môr heli.

4. Deuddeng mlynedd y gwasanaethasant Cedorlaomer, a'r drydedd flwyddyn ar ddeg y gwrthryfelasant.

5. A'r bedwaredd flwyddyn ar ddeg y daeth Cedorlaomer, a'r brenhinoedd y rhai oedd gydag ef, ac a drawsant y Reffaimiaid yn Asteroth‐Carnaim, a'r Susiaid yn Ham, a'r Emiaid yn Safe-Ciriathaim,

6. A'r Horiaid yn eu mynydd Seir, hyd wastadedd Paran, yr hwn sydd wrth yr anialwch.

7. Yna y dychwelasant, ac y daethant i Enmispat, honno yw Cades, ac a drawsant holl wlad yr Amaleciaid, a'r Amoriaid hefyd, y rhai oedd yn trigo yn Haseson‐tamar.

8. Allan hefyd yr aeth brenin Sodom, a brenin Gomorra, a brenin Adma, a brenin Seboim, a brenin Bela, honno yw Soar: ac yn nyffryn Sidim y lluniaethasant ryfel â hwynt;

9. A Chedorlaomer brenin Elam, a Thidal brenin y cenhedloedd, ac Amraffel brenin Sinar, ac Arioch brenin Elasar: pedwar brenin yn erbyn pump.

10. A dyffryn Sidim oedd lawn o byllau clai; a brenhinoedd Sodom a Gomorra a ffoesant, ac a syrthiasant yno: a'r lleill a ffoesant i'r mynydd.

11. A hwy a gymerasant holl gyfoeth Sodom a Gomorra, a'u holl luniaeth hwynt, ac a aethant ymaith.

12. Cymerasant hefyd Lot nai fab brawd Abram, a'i gyfoeth, ac a aethant ymaith; oherwydd yn Sodom yr ydoedd efe yn trigo.

13. A daeth un a ddianghasai, ac a fynegodd i Abram yr Hebread, ac efe yn trigo yng ngwastadedd Mamre yr Amoriad, brawd Escol, a brawd Aner; a'r rhai hyn oedd mewn cynghrair ag Abram.

14. A phan glybu Abram gaethgludo ei frawd, efe a arfogodd o'i hyfforddus weision a anesid yn ei dŷ ef, ddeunaw a thri chant, ac a ymlidiodd hyd Dan.

15. As efe a ymrannodd yn eu herbyn hwy liw nos, efe a'i weision, ac a'u trawodd hwynt, ac a'u hymlidiodd hyd Hoba, yr hon sydd o'r tu aswy i Damascus.

16. Ac efe a ddug drachefn yr holl gyfoeth, a'i frawd Lot hefyd, a'i gyfoeth, a ddug efe drachefn, a'r gwragedd hefyd, a'r bobl.

17. A brenin Sodom a aeth allan i'w gyfarfod ef, (wedi ei ddychwelyd o daro Cedorlaomer, a'r brenhinoedd oedd gydag ef,) i ddyffryn Safe, hwn yw dyffryn y brenin.

18. Melchisedec hefyd, brenin Salem, a ddug allan fara a gwin; ac efe oedd offeiriad i Dduw goruchaf:

19. Ac a'i bendithiodd ef, ac a ddywedodd, Bendigedig fyddo Abram gan Dduw goruchaf, meddiannydd nefoedd a daear:

20. A bendigedig fyddo Duw goruchaf, yr hwn a roddes dy elynion yn dy law. Ac efe a roddes iddo ddegwm o'r cwbl.

21. A dywedodd brenin Sodom wrth Abram, Dod i mi y dynion, a chymer i ti y cyfoeth.

22. Ac Abram a ddywedodd wrth frenin Sodom, Dyrchefais fy llaw at yr Arglwydd Dduw goruchaf, meddiannydd nefoedd a daear,

23. Na chymerwn o edau hyd garrai esgid, nac o'r hyn oll sydd eiddot ti; rhag dywedyd ohonot, Myfi a gyfoethogais Abram:

24. Ond yn unig yr hyn a fwytaodd y llanciau, a rhan y gwŷr a aethant gyda mi, Aner, Escol, a Mamre: cymerant hwy eu rhan.