1. Ac yr ydoedd anifeiliaid lawer i feibion Reuben, a llawer iawn i feibion Gad: a gwelsant dir Jaser, a thir Gilead; ac wele y lle yn lle da i anifeiliaid.
2. A meibion Gad a meibion Reuben a ddaethant, ac a ddywedasant wrth Moses, ac wrth Eleasar yr offeiriad, ac wrth benaduriaid y gynulleidfa, gan ddywedyd,
3. Atoroth, a Dibon, a Jaser, a Nimra, a Hesbon, ac Eleale, a Sebam, a Nebo, a Beon,
4. Sef y tir a drawodd yr Arglwydd o flaen cynulleidfa Israel, tir i anifeiliaid yw efe; ac y mae i'th weision anifeiliaid.
5. A dywedasant, Os cawsom ffafr yn dy olwg, rhodder y tir hwn i'th weision yn feddiant: na phâr i ni fyned dros yr Iorddonen.
6. A dywedodd Moses wrth feibion Gad, ac wrth feibion Reuben, A â eich brodyr i'r rhyfel, ac a eisteddwch chwithau yma?
7. A phaham y digalonnwch feibion Israel rhag myned trosodd i'r tir a roddodd yr Arglwydd iddynt?
8. Felly y gwnaeth eich tadau, pan anfonais hwynt o Cades‐Barnea i edrych y tir.
9. Canys aethant i fyny hyd ddyffryn Escol, a gwelsant y tir; a digalonasant feibion Israel rhag myned i'r tir a roddasai yr Arglwydd iddynt.
10. Ac enynnodd dicllonedd yr Arglwydd y dydd hwnnw; ac efe a dyngodd, gan ddywedyd,
11. Diau na chaiff yr un o'r dynion a ddaethant i fyny o'r Aifft, o fab ugain mlwydd ac uchod, weled y tir a addewais trwy lw i Abraham, i Isaac, ac i Jacob: am na chyflawnasant wneuthur ar fy ôl i:
12. Ond Caleb mab Jeffunne y Cenesiad, a Josua mab Nun; canys cyflawnasant wneuthur ar ôl yr Arglwydd.
13. Ac enynnodd dicllonedd yr Arglwydd yn erbyn Israel; a gwnaeth iddynt grwydro yn yr anialwch ddeugain mlynedd, nes darfod yr holl oes a wnaethai ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd.
14. Ac wele, chwi a godasoch yn lle eich tadau, yn gynnyrch dynion pechadurus, i chwanegu ar angerdd llid yr Arglwydd wrth Israel.
15. Os dychwelwch oddi ar ei ôl ef; yna efe a ad y bobl eto yn yr anialwch, a chwi a ddinistriwch yr holl bobl hyn.
16. A hwy a ddaethant ato ef, ac a ddywedasant, Corlannau defaid a adeiladwn ni yma i'n hanifeiliaid, a dinasoedd i'n plant.
17. A ni a ymarfogwn yn fuan o flaen meibion Israel, hyd oni ddygom hwynt i'w lle eu hun; a'n plant a arhosant yn y dinasoedd caerog, rhag trigolion y tir.
18. Ni ddychwelwn ni i'n tai, nes i feibion Israel berchenogi bob un ei etifeddiaeth.
19. Hefyd nid etifeddwn ni gyda hwynt o'r tu hwnt i'r Iorddonen, ac oddi yno allan; am ddyfod ein hetifeddiaeth i ni o'r tu yma i'r Iorddonen, tua'r dwyrain.
20. A dywedodd Moses wrthynt, Os gwnewch y peth hyn, os ymarfogwch i'r rhyfel o flaen yr Arglwydd,
21. Os â pob un ohonoch dros yr Iorddonen yn arfog o flaen yr Arglwydd, nes iddo yrru ymaith ei elynion o'i flaen,
22. A darostwng y wlad o flaen yr Arglwydd; yna wedi hynny y cewch ddychwelyd ac y byddwch dieuog gerbron yr Arglwydd, a cherbron Israel; a bydd y tir hwn yn etifeddiaeth i chwi o flaen yr Arglwydd.
23. Ond os chwi ni wna fel hyn; wele, pechu yr ydych yn erbyn yr Arglwydd: a gwybyddwch y goddiwedda eich pechod chwi.
24. Adeiledwch i chwi ddinasoedd i'ch plant, a chorlannau i'ch defaid; a gwnewch yr hyn a ddaeth allan o'ch genau.
25. A llefarodd meibion Gad a meibion Reuben wrth Moses, gan ddywedyd, Dy weision a wnânt megis y mae fy arglwydd yn gorchymyn.
26. Ein plant, ein gwragedd, ein hanifeiliaid a'n holl ysgrubliaid, fyddant yma yn ninasoedd Gilead.
27. A'th weision a ânt drosodd o flaen yr Arglwydd i'r rhyfel, pob un yn arfog i'r filwriaeth, megis y mae fy arglwydd yn llefaru.
28. A gorchmynnodd Moses i Eleasar yr offeiriad, ac i Josua mab Nun, ac i bennau‐cenedl llwythau meibion Israel, o'u plegid hwynt:
29. A dywedodd Moses wrthynt, Os meibion Gad a meibion Reuben a ânt dros yr Iorddonen gyda chwi, pob un yn arfog i'r rhyfel o flaen yr Arglwydd, a darostwng y wlad o'ch blaen; yna rhoddwch iddynt wlad Gilead yn berchenogaeth:
30. Ac onid ânt drosodd gyda chwi yn arfogion, cymerant eu hetifeddiaeth yn eich mysg chwi yng ngwlad Canaan.
31. A meibion Gad a meibion Reuben a atebasant, gan ddywedyd, Fel y llefarodd yr Arglwydd wrth dy weision, felly y gwnawn ni.
32. Nyni a awn drosodd i dir Canaan yn arfogion o flaen yr Arglwydd, fel y byddo meddiant ein hetifeddiaeth o'r tu yma i'r Iorddonen gennym ni.
33. A rhoddodd Moses iddynt, sef i feibion Gad, ac i feibion Reuben, ac i hanner llwyth Manasse mab Joseff, frenhiniaeth Sehon brenin yr Amoriaid, a brenhiniaeth Og brenin Basan, y wlad a'i dinasoedd ar hyd y terfynau, sef dinasoedd y wlad oddi amgylch.
34. A meibion Gad a adeiladasant Dibon, ac Ataroth, ac Aroer,
35. Ac Atroth, Soffan, a Jaaser, a Jogbea,
36. A Beth‐nimra, a Beth‐haran,dinasoedd caerog; a chorlannau defaid.
37. A meibion Reuben a adeiladasant Hesbon, Eleale, a Chiriathaim;
38. Nebo hefyd, a Baal‐meon, (wedi troi eu henwau,) a Sibma: ac a enwasant enwau ar y dinasoedd a adeiladasant.
39. A meibion Machir mab Manasse a aethant i Gilead, ac a'i henillasant hi, ac a yrasant ymaith yr Amoriaid oedd ynddi.
40. A rhoddodd Moses Gilead i Machir mab Manasse; ac efe a drigodd ynddi.
41. Ac aeth Jair mab Manasse, ac a enillodd eu pentrefydd hwynt, ac a'u galwodd hwynt Hafoth‐Jair.
42. Ac aeth Noba, ac a enillodd Cenath a'i phentrefydd, ac a'i galwodd ar ei enw ei hun, Noba.