Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36

Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 31 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

2. Dial feibion Israel ar y Midianiaid: wedi hynny ti a gesglir at dy bobl.

3. A llefarodd Moses wrth y bobl, gan ddywedyd, Arfogwch ohonoch wŷr i'r rhyfel, ac ânt yn erbyn Midian, i roddi dial yr Arglwydd ar Midian.

4. Mil o bob llwyth, o holl lwythau Israel, a anfonwch i'r rhyfel.

5. A rhoddasant o filoedd Israel fil o bob llwyth, sef deuddeng mil, o rai wedi eu harfogi i'r rhyfel.

6. Ac anfonodd Moses hwynt i'r rhyfel, mil o bob llwyth: hwynt a Phinees mab Eleasar yr offeiriad, a anfonodd efe i'r rhyfel, â dodrefn y cysegr, a'r utgyrn i utganu yn ei law.

7. A hwy a ryfelasant yn erbyn Midian, megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses; ac a laddasant bob gwryw.

8. Brenhinoedd Midian hefyd a laddasant hwy, gyda'u lladdedigion eraill: sef Efi, a Recem, a Sur, a Hur, a Reba, pum brenin Midian: Balaam hefyd mab Beor a laddasant hwy â'r cleddyf.

9. Meibion Israel a ddaliasant hefyd yn garcharorion wragedd Midian, a'u plant; ac a ysbeiliasant eu holl anifeiliaid hwynt, a'u holl dda hwynt, a'u holl olud hwynt.

10. Eu holl ddinasoedd hefyd trwy eu trigfannau, a'u holl dyrau, a losgasant â thân.

11. A chymerasant yr holl ysbail, a'r holl gaffaeliad, o ddyn ac o anifail.

12. Ac a ddygasant at Moses, ac at Eleasar yr offeiriad, ac at gynulleidfa meibion Israel, y carcharorion, a'r caffaeliad, a'r ysbail, i'r gwersyll, yn rhosydd Moab, y rhai ydynt wrth yr Iorddonen, ar gyfer Jericho.

13. Yna Moses ac Eleasar yr offeiriad, a holl benaduriaid y gynulleidfa, a aethant i'w cyfarfod hwynt o'r tu allan i'r gwersyll

14. A digiodd Moses wrth swyddogion y fyddin, capteiniaid y miloedd, a chapteiniaid y cannoedd, y rhai a ddaethant o frwydr y rhyfel.

15. A dywedodd Moses wrthynt, A adawsoch chwi bob benyw yn fyw?

16. Wele, hwynt, trwy air Balaam, a barasant i feibion Israel wneuthur camwedd yn erbyn yr Arglwydd yn achos Peor; a bu pla yng nghynulleidfa yr Arglwydd.

17. Am hynny lleddwch yn awr bob gwryw o blentyn; a lleddwch bob benyw a fu iddi a wnaeth â gŵr, trwy orwedd gydag ef.

18. A phob plentyn o'r benywaid y rhai ni bu iddynt a wnaethant â gŵr, cedwch yn fyw i chwi.

19. Ac arhoswch chwithau o'r tu allan i'r gwersyll saith niwrnod: pob un a laddodd ddyn, a phob un a gyffyrddodd wrth laddedig, ymlanhewch y trydydd dydd, a'r seithfed dydd, chwi a'ch carcharorion.

20. Pob gwisg hefyd, a phob dodrefnyn croen, a phob gwaith o flew geifr, a phob llestr pren, a lanhewch chwi.

21. A dywedodd Eleasar yr offeiriad wrth y rhyfelwyr y rhai a aethant i'r rhyfel, Dyma ddeddf y gyfraith a orchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses:

22. Yn unig yr aur, a'r arian, y pres, yr haearn, yr alcam, a'r plwm;

23. Pob dim a ddioddefo dân, a dynnwch trwy'r tân, a glân fydd; ac eto efe a lanheir â'r dwfr neilltuaeth: a'r hyn oll ni ddioddefo dân, tynnwch trwy y dwfr yn unig.

24. A golchwch eich gwisgoedd ar y seithfed dydd, a glân fyddwch; ac wedi hynny deuwch i'r gwersyll.

25. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

26. Cymer nifer yr ysbail a gaed, o ddyn ac o anifail, ti ac Eleasar yr offeiriad, a phennau‐cenedl y gynulleidfa:

27. A rhanna'r caffaeliad yn ddwy ran; rhwng y rhyfelwyr a aethant i'r filwriaeth, a'r holl gynulleidfa.

28. A chyfod deyrnged i'r Arglwydd gan y rhyfelwyr y rhai a aethant allan i'r filwriaeth; un enaid o bob pum cant o'r dynion, ac o'r eidionau, ac o'r asynnod, ac o'r defaid.

29. Cymerwch hyn o'u hanner hwynt, a dyro i Eleasar yr offeiriad, yn ddyrchafael‐offrwm yr Arglwydd.

30. Ac o hanner meibion Israel y cymeri un rhan o bob deg a deugain, o'r dynion, o'r eidionau, o'r asynnod, ac o'r defaid, ac o bob anifail, a dod hwynt i'r Lefiaid, y rhai ydynt yn cadw cadwraeth tabernacl yr Arglwydd.

31. A gwnaeth Moses ac Eleasar yr offeiriad megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses.

32. A'r caffaeliad, sef gweddill yr ysbail yr hon a ddygasai pobl y filwriaeth, oedd chwe chan mil a phymtheg a thrigain o filoedd o ddefaid,

33. A deuddeg a thrigain mil o eidionau,

34. Ac un fil a thrigain o asynnod,

35. Ac o ddynion, o fenywaid ni buasai iddynt a wnaethant â gŵr, trwy orwedd gydag ef, ddeuddeng mil ar hugain o eneidiau.

36. A'r hanner, sef rhan y rhai a aethant i'r rhyfel, oedd, o rifedi defaid, dri chan mil a dwy ar bymtheg ar hugain o filoedd, a phum cant;

37. A theyrnged yr Arglwydd o'r defaid oedd chwe chant a phymtheg a thrigain.

38. A'r eidionau oedd un fil ar bymtheg ar hugain; a'u teyrnged i'r Arglwydd oedd ddeuddeg a thrigain.

39. A'r asynnod oedd ddeng mil ar hugain a phum cant; a'u teyrnged i'r Arglwydd oedd un a thrigain.

40. A'r dynion oedd un fil ar bymtheg; a'u teyrnged i'r Arglwydd oedd ddeuddeg enaid ar hugain.

41. A Moses a roddodd deyrnged offrwm dyrchafael yr Arglwydd i Eleasar yr offeiriad, megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

42. Ac o ran meibion Israel, yr hon a ranasai Moses oddi wrth y milwyr,

43. Sef rhan y gynulleidfa o'r defaid, oedd dri chan mil a dwy ar bymtheg ar hugain o filoedd, a phum cant;

44. Ac o'r eidionau, un fil ar bymtheg ar hugain;

45. Ac o'r asynnod, deng mil ar hugain a phum cant;

46. Ac o'r dynion, un fil ar bymtheg.

47. Ie, cymerodd Moses o hanner meibion Israel, un rhan o bob deg a deugain, o'r dynion, ac o'r anifeiliaid, ac a'u rhoddes hwynt i'r Lefiaid oedd yn cadw cadwraeth tabernacl yr Arglwydd; megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

48. A'r swyddogion, y rhai oedd ar filoedd y llu, a ddaethant at Moses, sef capteiniaid y miloedd a chapteiniaid y cannoedd:

49. A dywedasant wrth Moses, Dy weision a gymerasant nifer y gwŷr o ryfel a roddaist dan ein dwylo ni; ac nid oes ŵr yn eisiau ohonom.

50. Am hynny yr ydym yn offrymu offrwm i'r Arglwydd, pob un yr hyn a gafodd, yn offerynnau aur, yn gadwynau, yn freichledau, yn fodrwyau, yn glustlysau, ac yn dorchau, i wneuthur cymod dros ein heneidiau gerbron yr Arglwydd.

51. A chymerodd Moses ac Eleasar yr offeiriad yr aur ganddynt, y dodrefn gweithgar oll.

52. Ac yr ydoedd holl aur yr offrwm dyrchafael, yr hwn a offrymasant i'r Arglwydd, oddi wrth gapteiniaid y miloedd, ac oddi wrth gapteiniaid y cannoedd, yn un fil ar bymtheg saith gant a deg a deugain o siclau.

53. (Ysbeiliasai y gwŷr o ryfel bob un iddo ei hun.)

54. A chymerodd Moses ac Eleasar yr offeiriad yr aur gan gapteiniaid y miloedd a'r cannoedd, ac a'i dygasant i babell y cyfarfod, yn goffadwriaeth dros feibion Israel gerbron yr Arglwydd.