Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36

Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yna yr holl gynulleidfa a ddyrchafodd ei llef, ac a waeddodd; a'r bobl a wylasant y nos honno.

2. A holl feibion Israel a duchanasant yn erbyn Moses, ac yn erbyn Aaron: a'r holl gynulleidfa a ddywedasant wrthynt, O na buasem feirw yn nhir yr Aifft! neu, O na buasem feirw yn y diffeithwch hwn!

3. A phaham y mae yr Arglwydd yn ein dwyn ni i'r tir hwn, i gwympo ar y cleddyf? ein gwragedd a'n plant fyddant yn ysbail. Onid gwell i ni ddychwelyd i'r Aifft?

4. A dywedasant bawb wrth ei gilydd, Gosodwn ben arnom, a dychwelwn i'r Aifft.

5. Yna y syrthiodd Moses ac Aaron ar eu hwynebau gerbron holl gynulleidfa tyrfa meibion Israel.

6. Josua hefyd mab Nun, a Chaleb mab Jeffunne, dau o ysbiwyr y tir, a rwygasant eu dillad;

7. Ac a ddywedasant wrth holl dorf meibion Israel, gan ddywedyd, Y tir yr aethom drosto i'w chwilio, sydd dir da odiaeth.

8. Os yr Arglwydd sydd fodlon i ni, efe a'n dwg ni i'r tir hwn, ac a'i rhydd i ni; sef y tir sydd yn llifeirio o laeth a mêl.

9. Yn unig na wrthryfelwch yn erbyn yr Arglwydd, ac nac ofnwch bobl y tir; canys bara i ni ydynt: ciliodd eu hamddiffyn oddi wrthynt, a'r Arglwydd sydd gyda ni: nac ofnwch hwynt.

10. A'r holl dorf a ddywedasant am eu llabyddio hwynt â meini. A gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd ym mhabell y cyfarfod i holl feibion Israel.

11. A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Pa hyd y digia'r bobl yma fi? a pha hyd y byddant heb gredu i mi, am yr holl arwyddion a wneuthum yn eu plith?

12. Trawaf hwynt â haint, a gwasgaraf hwy, a gwnaf di yn genhedlaeth fwy, a chryfach na hwynt‐hwy.

13. A dywedodd Moses wrth yr Arglwydd, Felly yr Eifftiaid a glyw, (canys o'u mysg hwynt y dygaist y bobl yma i fyny yn dy nerth,)

14. Ac a ddywedant i breswylwyr y tir hwn, (canys clywsant dy fod di, Arglwydd, ymysg y bobl yma, a'th fod di, Arglwydd, yn ymddangos iddynt wyneb yn wyneb, a bod dy gwmwl di yn aros arnynt, a'th fod di yn myned o'u blaen hwynt mewn colofn o gwmwl y dydd, ac mewn colofn dân y nos;)

15. Os lleddi y bobl yma fel un gŵr; yna y dywed y cenhedloedd y rhai a glywsant sôn amdanat, gan ddywedyd,

16. O eisiau gallu o'r Arglwydd ddwyn y bobl yma i'r tir y tyngodd efe iddynt, am hynny y lladdodd efe hwynt yn y diffeithwch.

17. Yr awr hon, gan hynny, mawrhaer, atolwg, nerth yr Arglwydd, fel y lleferaist, gan ddywedyd,

18. Yr Arglwydd sydd hwyrfrydig i ddig, ac aml o drugaredd, yn maddau anwiredd a chamwedd, a chan gyfiawnhau ni chyfiawnha efe yr euog; ymweled y mae ag anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth.

19. Maddau, atolwg, anwiredd y bobl yma, yn ôl dy fawr drugaredd, ac megis y maddeuaist i'r bobl hyn, o'r Aifft hyd yma.

20. A dywedodd yr Arglwydd, Maddeuais, yn ôl dy air:

21. Ond os byw fi, yr holl dir a lenwir o ogoniant yr Arglwydd.

22. Canys yr holl ddynion y rhai a welsant fy ngogoniant, a'm harwyddion a wneuthum yn yr Aifft, ac yn y diffeithwch ac a'm temtiasant y dengwaith hyn, ac ni wrandawsant ar fy llais,

23. Ni welant y tir y tyngais wrth eu tadau hwynt; sef y rhai oll a'm digiasant, nis gwelant ef:

24. Ond fy ngwas Caleb, am fod ysbryd arall gydag ef, ac iddo fy nghyflawn ddilyn, dygaf ef i'r tir y daeth iddo: a'i had a'i hetifedda ef.

25. (Ond y mae'r Amaleciaid a'r Canaaneaid yn trigo yn y dyffryn;) yfory trowch, ac ewch i'r diffeithwch, ar hyd ffordd y môr coch.

26. A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, ac wrth Aaron, gan ddywedyd,

27. Pa hyd y cyd‐ddygaf â'r gynulleidfa ddrygionus hon sydd yn tuchan i'm herbyn? clywais duchan meibion Israel, y rhai sydd yn tuchan i'm herbyn.

28. Dywed wrthynt, Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd, fel y llefarasoch yn fy nghlustiau, felly y gwnaf i chwi.

29. Yn y diffeithwch hwn y cwymp eich celaneddau: a'ch holl rifedigion trwy eich holl rif, o fab ugain mlwydd ac uchod, y rhai a duchanasoch yn fy erbyn,

30. Diau ni ddeuwch chwi i'r tir am yr hwn y codais fy llaw, am wneuthur i chwi breswylio ynddo, ond Caleb mab Jeffunne, a Josua mab Nun.

31. Ond eich plant chwi, y rhai y dywedasoch y byddent yn ysbail,hwynt‐hwy a ddygaf i'r wlad, a hwy a gânt adnabod y tir a ddirmygasoch chwi.

32. A'ch celaneddau chwi a gwympant yn y diffeithwch hwn.

33. A'ch plant chwi a fugeilia yn y diffeithwch ddeugain mlynedd, ac a ddygant gosb eich puteindra chwi, nes darfod eich celaneddau chwi yn y diffeithwch.

34. Yn ôl rhifedi'r dyddiau y chwiliasoch y tir, sef deugain niwrnod, (pob diwrnod am flwyddyn,) y dygwch eich anwireddau, sef deugain mlynedd; a chewch wybod toriad fy ngair i.

35. Myfi yr Arglwydd a leferais, diau y gwnaf hyn i'r holl gynulleidfa ddrygionus yma, sydd wedi ymgynnull i'm herbyn i: yn y diffeithwch hwn y darfyddant, ac yno y byddant feirw.

36. A'r dynion a anfonodd Moses i chwilio'r tir, y rhai a ddychwelasant, ac a wnaethant i'r holl dorf duchan yn ei erbyn ef, gan roddi allan anair am y tir;

37. Y dynion, meddaf, y rhai a roddasant allan anair drwg i'r tir, a fuant feirw o'r pla, gerbron yr Arglwydd.

38. Ond Josua mab Nun, a Chaleb mab Jeffunne, a fuant fyw o'r gwŷr hyn a aethant i chwilio y tir.

39. A Moses a lefarodd y geiriau hyn wrth holl feibion Israel: a'r bobl a alarodd yn ddirfawr.

40. A chodasant yn fore i fyned i ben y mynydd, gan ddywedyd, Wele ni, a ni a awn i fyny i'r lle am yr hwn y dywedodd yr Arglwydd: canys ni a bechasom.

41. A dywedodd Moses, Paham yr ydych fel hyn yn troseddu gair yr Arglwydd? a hyn ni lwydda.

42. Nac ewch i fyny; canys nid yw yr Arglwydd yn eich plith: rhag eich taro o flaen eich gelynion.

43. Canys yr Amaleciaid a'r Canaaneaid ydynt yno o'ch blaen chwi, a chwi a syrthiwch ar y cleddyf: canys am i chwi ddychwelyd oddi ar ôl yr Arglwydd, ni bydd yr Arglwydd gyda chwi.

44. Eto rhyfygasant fyned i ben y mynydd: ond arch cyfamod yr Arglwydd, a Moses, ni symudasant o ganol y gwersyll.

45. Yna y disgynnodd yr Amaleciaid a'r Canaaneaid, y rhai oedd yn preswylio yn y mynydd hwnnw, ac a'u trawsant, ac a'u difethasant hyd Horma.