1. A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
2. Llefara wrth Aaron, a dywed wrtho, Pan oleuech y lampau, llewyrched y saith lamp ar gyfer y canhwyllbren.
3. Ac felly y gwnaeth Aaron; ar gyfer y canhwyllbren y goleuodd efe ei lampau ef, megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses.
4. Dyma waith y canhwyllbren: cyfanwaith o aur fydd hyd ei baladr, ie, hyd ei flodau cyfanwaith fydd; yn ôl y dull a ddangosodd yr Arglwydd i Moses, felly y gwnaeth efe y canhwyllbren.
5. Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,
6. Cymer y Lefiaid o fysg meibion Israel, a glanha hwynt.
7. Ac fel hyn y gwnei iddynt i'w glanhau: taenella arnynt ddwfr puredigaeth, a gwnânt i'r ellyn fyned dros eu holl gnawd, a golchant eu gwisgoedd, ac felly ymlanhânt.
8. Yna cymerant fustach ieuanc a'i fwyd‐offrwm o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew; a bustach ieuanc arall a gymeri di yn aberth dros bechod.
9. A phâr i'r Lefiaid ddyfod o flaen pabell y cyfarfod; a chynnull holl gynulleidfa meibion Israel ynghyd.
10. A dwg y Lefiaid gerbron yr Arglwydd; a gosoded meibion Israel eu dwylo ar y Lefiaid.
11. Ac offrymed Aaron y Lefiaid gerbron yr Arglwydd, yn offrwm gan feibion Israel, fel y byddont hwy i wasanaethu gwasanaeth yr Arglwydd.
12. A gosoded y Lefiaid eu dwylo ar ben y bustych: ac offrwm dithau un yn bech‐aberth a'r llall yn offrwm poeth i'r Arglwydd, i wneuthur cymod dros y Lefiaid.
13. A gosod y Lefiaid gerbron Aaron, a cherbron ei feibion, ac offrwm hwynt yn offrwm i'r Arglwydd.
14. A neilltua'r Lefiaid o blith meibion Israel, a bydded y Lefiaid yn eiddof fi.
15. Wedi hynny aed y Lefiaid i mewn i wasanaethu pabell y cyfarfod; a glanha di hwynt, ac offryma hwynt yn offrwm.
16. Canys hwynt a roddwyd yn rhodd i mi o blith meibion Israel: yn lle agorydd pob croth, sef pob cyntaf‐anedig o feibion Israel, y cymerais hwynt i mi.
17. Canys i mi y perthyn pob cyntaf‐anedig ymhlith meibion Israel, o ddyn ac o anifail: er y dydd y trewais bobcyntaf‐anedig yng ngwlad yr Aifft, y sancteiddiais hwynt i mi fy hun.
18. A chymerais y Lefiaid yn lle pob cyntaf‐anedig o feibion Israel.
19. A rhoddais y Lefiaid yn rhodd i Aaron, ac i'w feibion, o blith meibion Israel, i wasanaethu gwasanaeth meibion Israel ym mhabell y cyfarfod, ac i wneuthur cymod dros feibion Israel; fel na byddo pla ar feibion Israel, pan ddelo meibion Israel yn agos at y cysegr.
20. A gwnaeth Moses ac Aaron, a holl gynulleidfa meibion Israel, i'r Lefiaid, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses am y Lefiaid: felly y gwnaeth meibion Israel iddynt.
21. A'r Lefiaid a lanhawyd, ac a olchasant eu dillad: ac Aaron a'u hoffrymodd hwynt yn offrwm gerbron yr Arglwydd: a gwnaeth Aaron gymod drostynt i'w glanhau hwynt.
22. Ac wedi hynny y Lefiaid a ddaethant i wasanaethu gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod, gerbron Aaron a'i feibion; megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses am y Lefiaid, felly y gwnaethant iddynt.
23. A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
24. Dyma'r hyn a berthyn i'r Lefiaid: o fab pum mlwydd ar hugain ac uchod, y deuant i filwrio milwriaeth yng ngwasanaeth pabell y cyfarfod.
25. Ac o fab dengmlwydd a deugain y caiff un ddychwelyd yn ei ôl o filwriaeth y gwasanaeth, fel na wasanaetho mwy.
26. Ond gwasanaethed gyda'i frodyr ym mhabell y cyfarfod, i oruchwylio; ac na wasanaethed wasanaeth: fel hyn y gwnei i'r Lefiaid yn eu goruchwyliaeth.