Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36

Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yna Cora, mab Ishar, mab Cohath, mab Lefi; a Dathan ac Abiram, meibion Elïab, ac On mab Peleth, meibion Reuben, a gymerasant wŷr:

2. A hwy a godasant o flaen Moses, ynghyd â dau cant a deg a deugain o wŷr eraill o feibion Israel, penaethiaid y gynulleidfa, pendefigion y gymanfa, gwŷr enwog.

3. Ac ymgasglasant yn erbyn Moses, ac yn erbyn Aaron, ac a ddywedasant wrthynt, Gormod i chwi hyn; canys y mae yr holl gynulleidfa yn sanctaidd bob un ohonynt, ac y mae yr Arglwydd yn eu mysg: paham yr ymgodwch goruwch cynulleidfa yr Arglwydd?

4. A phan glybu Moses, efe a syrthiodd ar ei wyneb.

5. Ac efe a lefarodd wrth Cora, ac wrth ei holl gynulleidfa ef, gan ddywedyd, Y bore y dengys yr Arglwydd yr hwn sydd eiddo ef, a'r sanctaidd; a phwy a ddylai nesáu ato ef: canys yr hwn a ddewisodd efe, a nesâ efe ato.

6. Hyn a wnewch: Cymerwch i chwi, sef Cora a'i holl gynulleidfa, thuserau;

7. A rhoddwch ynddynt dân, agosodwcharnynt arogl‐darth yfory gerbron yr Arglwydd: yna bydd i'r gŵr hwnnw fod yn sanctaidd, yr hwn a ddewiso yr Arglwydd: gormod i chwi hyn, meibion Lefi.

8. A dywedodd Moses wrth Cora, Gwrandewch, atolwg, meibion Lefi.

9. Ai bychan gennych neilltuo o Dduw Israel chwi oddi wrth gynulleidfa Israel, gan eich nesáu chwi ato ei hun, i wasanaethu gwasanaeth tabernacl yr Arglwydd, ac i sefyll gerbron y gynulleidfa, i'w gwasanaethu hwynt?

10. Canys efe a'th nesaodd di, a'th holl frodyr, meibion Lefi, gyda thi: ac a geisiwch chwi yr offeiriadaeth hefyd?

11. Am hynny tydi a'th holl gynulleidfa ydych yn ymgynnull yn erbyn yr Arglwydd: ond Aaron, beth yw efe, i chwi i duchan yn ei erbyn?

12. A Moses a anfonodd i alw am Dathan ac Abiram, meibion Elïab. Hwythau a ddywedasant, Ni ddeuwn ni ddim i fyny.

13. Ai bychan yw dwyn ohonot ti ni i fyny o dir yn llifeirio o laeth a mêl, i'n lladd ni yn y diffeithwch, oddieithr hefyd arglwyddiaethu ohonot yn dost arnom ni?

14. Eto ni ddygaist ni i dir yn llifeirio o laeth a mêl, ac ni roddaist i ni feddiant mewn maes na gwinllan: a dynni di lygaid y gwŷr hyn? ni ddeuwn ni i fyny ddim.

15. Yna y digiodd Moses yn ddirfawr, ac y dywedodd wrth yr Arglwydd, Nac edrych ar eu hoffrwm hwy: ni chymerais un asyn oddi arnynt, ac ni ddrygais un ohonynt.

16. A dywedodd Moses wrth Cora, Bydd di a'th holl gynulleidfa gerbron yr Arglwydd, ti, a hwynt, ac Aaron, yfory.

17. A chymerwch bob un ei thuser, a rhoddwch arnynt arogl‐darth; a dyged pob un ei thuser gerbron yr Arglwydd, sef dau cant a deg a deugain o thuserau: dwg dithau hefyd, ac Aaron, bob un ei thuser.

18. A chymerasant bob un ei thuser, a rhoddasant dân ynddynt, a gosodasant arogl‐darth arnynt; a safasant wrth ddrws pabell y cyfarfod, ynghyd â Moses ac Aaron.

19. Yna Cora a gasglodd yr holl gynulleidfa yn eu herbyn hwynt, i ddrws pabell y cyfarfod: a gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd i'r holl gynulleidfa

20. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, ac wrth Aaron, gan ddywedyd,

21. Ymneilltuwch o fysg y gynulleidfa hon, a mi a'u difâf hwynt ar unwaith.

22. A hwy a syrthiasant ar eu hwynebau, ac a ddywedasant, O Dduw, Duw ysbrydion pob cnawd, un dyn a bechodd, ac a ddigi di wrth yr holl gynulleidfa.

23. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd.

24. Llefara wrth y gynulleidfa, gan ddywedyd, Ewch ymaith o gylch pabell Cora, Dathan, ac Abiram.

25. A chyfododd Moses, ac a aeth at Dathan ac Abiram: a henuriaid Israel a aethant ar ei ôl ef.

26. Ac efe a lefarodd wrth y gynulleidfa, gan ddywedyd, Ciliwch, atolwg, oddi wrth bebyll y dynion drygionus hyn, ac na chyffyrddwch â dim o'r eiddynt; rhag eich difetha yn eu holl bechodau hwynt.

27. Yna yr aethant oddi wrth babell Cora, Dathan, ac Abiram, o amgylch: a Dathan ac Abiram, eu gwragedd hefyd, a'u meibion, a'u plant, a ddaethant allan, gan sefyll wrth ddrws eu pebyll.

28. A dywedodd Moses, Wrth hyn y cewch wybod mai yr Arglwydd a'm hanfonodd i wneuthur yr holl weithredoedd hyn; ac nad o'm meddwl fy hun y gwneuthum hwynt.

29. Os bydd y rhai hyn feirw fel y bydd marw pob dyn, ac os ymwelir â hwynt ag ymwelediad pob dyn; nid yr Arglwydd a'm hanfonodd i.

30. Ond os yr Arglwydd a wna newyddbeth, fel yr agoro'r ddaear ei safn, a'u llyncu hwynt, a'r hyn oll sydd eiddynt, fel y disgynnont yn fyw i uffern; yna y cewch wybod ddigio o'r gwŷr hyn yr Arglwydd.

31. A bu, wrth orffen ohono lefaru yr holl eiriau hyn, hollti o'r ddaear oedd danynt hwy.

32. Agorodd y ddaear hefyd ei safn, a llyncodd hwynt, a'u tai hefyd, a'r holl ddynion oedd gan Cora, a'u holl gyfoeth.

33. A hwynt, a'r rhai oll a'r a oedd gyda hwynt, a ddisgynasant yn fyw i uffern; a'r ddaear a gaeodd arnynt: a difethwyd hwynt o blith y gynulleidfa.

34. A holl Israel, y rhai oedd o'u hamgylch hwynt, a ffoesant wrth eu gwaedd hwynt: canys dywedasant, Ciliwn, rhag i'r ddaear ein llyncu ninnau.

35. Tân hefyd a aeth allan oddi wrth yr Arglwydd, ac a ddifaodd y dau cant a'r deg a deugain o wŷr oedd yn offrymu yr arogl‐darth.

36. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

37. Dywed wrth Eleasar, mab Aaron yr offeiriad, am godi ohono efe y thuserau o fysg y llosg; a gwasgara y tân oddi yno allan: canys sanctaidd ydynt:

38. Sef thuserau y rhai hyn a bechasant yn erbyn eu heneidiau eu hun; a gweithier hwynt yn ddalennau llydain, i fod yn gaead i'r allor; canys offrymasant hwynt gerbron yr Arglwydd; am hynny sanctaidd ydynt: a byddant yn arwydd i feibion Israel.

39. A chymerodd Eleasar yr offeiriad y thuserau pres, â'r rhai yr offrymasai y gwŷr a losgasid; ac estynnwyd hwynt yn gaead i'r allor:

40. Yn goffadwriaeth i feibion Israel; fel na nesao gŵr dieithr, yr hwn ni byddo o had Aaron, i losgi arogl‐darth gerbron yr Arglwydd; ac na byddo fel Cora a'i gynulleidfa: megis y llefarasai yr Arglwydd trwy law Moses wrtho ef.

41. A holl gynulleidfa meibion Israel a duchanasant drannoeth yn erbyn Moses, ac yn erbyn Aaron, gan ddywedyd Chwi a laddasoch bobl yr Arglwydd.

42. A bu, wedi ymgasglu o'r gynulleidfa yn erbyn Moses ac Aaron, edrych ohonynt ar babell y cyfarfod: ac wele, toasai y cwmwl hi, ac ymddangosodd gogoniant yr Arglwydd.

43. Yna y daeth Moses ac Aaron o flaen pabell y cyfarfod.

44. A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

45. Ciliwch o blith y gynulleidfa hon, a mi a'u difâf hwynt yn ddisymwth. A hwy a syrthiasant ar eu hwynebau.

46. Dywedodd Moses hefyd wrth Aaron, Cymer thuser, a dod dân oddi ar yr allor ynddi, a gosod arogl‐darth arni, a dos yn fuan at y gynulleidfa, a gwna gymod drostynt: canys digofaint a aeth allan oddi gerbron yr Arglwydd; dechreuodd y pla.

47. A chymerodd Aaron megis y llefarodd Moses, ac a redodd i ganol y gynulleidfa ac wele, dechreuasai y pla ar y bobl: ac efe a rodd arogl‐darth, ac a wnaeth gymod dros y bobl.

48. Ac efe a safodd rhwng y meirw a'r byw; a'r pla a ataliwyd.

49. A'r rhai a fuant feirw o'r pla oedd bedair mil ar ddeg a saith gant, heblaw y rhai a fuant feirw yn achos Cora.

50. A dychwelodd Aaron at Moses i ddrws pabell y cyfarfod: a'r pla a ataliwyd.