Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36

Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Adywedodd yr Arglwydd wrth Aaron, Tydi a'th feibion, a thylwyth dy dad gyda thi, a ddygwch anwiredd y cysegr: a thi a'th feibion gyda thi a ddygwch anwiredd eich offeiriadaeth.

2. A dwg hefyd gyda thi dy frodyr o lwyth Lefi, sef llwyth dy dad, i lynu wrthyt ti, ac i'th wasanaethu: tithau a'th feibion gyda thi a wasanaethwch gerbron pabell y dystiolaeth.

3. A hwy a gadwant dy gadwraeth di, a chadwraeth yr holl babell: ond na ddeuant yn agos at ddodrefn y cysegr, nac at yr allor, rhag eu marw hwynt, a chwithau hefyd.

4. Ond hwy a lynant wrthyt, ac a oruchwyliant babell y cyfarfod, yn holl wasanaeth y babell: ac na ddeued y dieithr yn agos atoch.

5. Eithr cedwch chwi oruchwyliaeth y cysegr, a goruchwyliaeth yr allor; fel na byddo digofaint mwy yn erbyn meibion Israel.

6. Ac wele, mi a gymerais dy frodyr di, y Lefiaid, o fysg meibion Israel: i ti y rhoddwyd hwynt, megis rhodd i'r Arglwydd, i wasanaethu gwasanaeth pabell y cyfarfod.

7. Tithau a'th feibion gyda thi a gedwch eich offeiriadaeth; ynghylch pob peth a berthyn i'r allor, ac o fewn y llen wahan, y gwasanaethwch: yn wasanaeth rhodd y rhoddais eich offeiriadaeth i chwi; a'r dieithr a ddelo yn agos, a leddir.

8. A llefarodd yr Arglwydd wrth Aaron, Wele, mi a roddais i ti hefyd oruchwyliaeth fy offrymau dyrchafael, o holl gysegredig bethau meibion Israel; rhoddais hwynt i ti, oherwydd yr eneiniad, ac i'th feibion, trwy ddeddf dragwyddol.

9. Hyn fydd i ti o'r pethau sancteiddiolaf a gedwir allan o'r tân: eu holl offrymau hwynt, eu holl fwyd‐offrwm, a'u holl aberthau dros bechod, a'u holl aberthau dros gamwedd, y rhai a dalant i mi, fyddant sancteiddiolaf i ti, ac i'th feibion.

10. O fewn y cysegr sanctaidd y bwytei ef; pob gwryw a'i bwyty ef: cysegredig fydd efe i ti.

11. Hyn hefyd fydd i ti; offrwm dyrchafael eu rhoddion hwynt, ynghyd â holl offrymau cyhwfan meibion Israel: i ti y rhoddais hwynt, ac i'th feibion, ac i'th ferched gyda thi, trwy ddeddf dragwyddol pob un glân yn dy dŷ a gaiff fwyta ohono.

12. Holl oreuon yr olew, a holl oreuon y gwin a'r ŷd, sef eu blaenffrwyth hwynt yr hwn a roddant i'r Arglwydd, a roddais i ti.

13. Blaenffrwyth pob dim yn eu tir hwynt yr hwn a ddygant i'r Arglwydd, fydd eiddot ti: pob un glân yn dy dŷ a fwyty ohono.

14. Pob diofryd‐beth yn Israel fydd eiddot ti.

15. Pob peth a agoro'r groth o bob cnawd yr hwn a offrymir i'r Arglwydd, o ddyn ac o anifail, fydd eiddot ti: ond gan brynu y pryni bob cyntaf‐anedig i ddyn; a phrŷn y cyntaf‐anedig i'r anifail aflan.

16. A phâr brynu y rhai a bryner ohonot o fab misyriad, yn dy bris di, er pum sicl o arian, wrth sicl y cysegr: ugain gera yw hynny.

17. Ond na phrŷn y cyntaf‐anedig o eidion, neu gyntaf‐anedig dafad, neu gyntaf‐anedig gafr; sanctaidd ydynt hwy: eu gwaed a daenelli ar yr allor, a'u gwêr a losgi yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i'r Arglwydd.

18. Ond eu cig fydd eiddot ti; fel parwyden y cyhwfan, ac fel yr ysgwyddog ddeau, y mae yn eiddot ti.

19. Holl offrymau dyrchafael y pethau sanctaidd, y rhai a offrymo meibion Israel i'r Arglwydd, a roddais i ti, ac i'th feibion, ac i'th ferched gyda thi, trwy ddeddf dragwyddol: cyfamod halen tragwyddol fydd hyn, gerbron yr Arglwydd, i ti, ac i'th had gyda thi.

20. A dywedodd yr Arglwydd wrth Aaron, Na fydded i ti etifeddiaeth yn eu tir hwynt, ac na fydded i ti ran yn eu mysg hwynt: myfi yw dy ran di, a'th etifeddiaeth, ymysg meibion Israel.

21. Ac wele, mi a roddais i feibion Lefi bob degwm yn Israel, yn etifeddiaeth, am eu gwasanaeth y maent yn ei wasanaethu sef gwasanaeth pabell y cyfarfod.

22. Ac na ddeued meibion Israel mwyach yn agos i babell y cyfarfod; rhag iddynt ddwyn pechod, a marw.

23. Ond gwasanaethed y Lefiaid wasanaeth pabell y cyfarfod, a dygant eu hanwiredd: deddf dragwyddol fydd hyn trwy eich cenedlaethau, nad etifeddant hwy etifeddiaeth ymysg meibion Israel.

24. Canys degwm meibion Israel, yr hwn a offrymant yn offrwm dyrchafael i'r Arglwydd, a roddais i'r Lefiaid yn etifeddiaeth: am hynny y dywedais wrthynt, nad etifeddent etifeddiaeth ymysg meibion Israel.

25. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

26. Llefara hefyd wrth y Lefiaid, a dywed wrthynt, Pan gymeroch gan feibion Israel y degwm a roddais i chwi yn etifeddiaeth oddi wrthynt; yna offrymwch o hynny offrwm dyrchafael i'r Arglwydd, sef degwm o'r degwm.

27. A chyfrifir i chwi eich offrwm dyrchafael, fel yr ŷd o'r ysgubor, ac fel cyflawnder o'r gwinwryf.

28. Felly yr offrymwch chwithau hefyd offrwm dyrchafael i'r Arglwydd, o'ch holl ddegymau a gymeroch gan feibion Israel; a rhoddwch o hynny ddyrchafael‐offrwm yr Arglwydd i Aaron yr offeiriad.

29. O'ch holl roddion offrymwch bob offrwm dyrchafael yr Arglwydd o bob gorau ohono, sef y rhan gysegredig, allan ohono ef.

30. A dywed wrthynt, Pan ddyrchafoch ei oreuon allan ohono, cyfrifir i'r Lefiaid fel toreth yr ysgubor, a thoreth y gwinwryf.

31. A bwytewch ef ym mhob lle, chwi a'ch tylwyth: canys gwobr yw efe i chwi, am eich gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod.

32. Ac ni ddygwch bechod o'i herwydd, gwedi y dyrchafoch ei oreuon ohono: na halogwch chwithau bethau sanctaidd meibion Israel; fel na byddoch feirw.