Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36

Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 36 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Pennau‐cenedl tylwyth meibion Gilead, mab Machir, mab Manasse, o dylwyth meibion Joseff, a ddaethant hefyd, ac a lefarasant gerbron Moses, a cherbron y penaduriaid, sef pennau‐cenedl meibion Israel;

2. Ac a ddywedasant, Yr Arglwydd a orchmynnodd i'm harglwydd roddi'r tir yn etifeddiaeth i feibion Israel wrth goelbren: a'm harglwydd a orchmynnwyd gan yr Arglwydd, i roddi etifeddiaeth Salffaad ein brawd i'w ferched.

3. Os hwy a fyddant wragedd i rai o feibion llwythau eraill meibion Israel; yna y tynnir ymaith eu hetifeddiaeth hwynt oddi wrth etifeddiaeth ein tadau ni, ac a'i chwanegir at etifeddiaeth y llwyth y byddant hwy eiddynt: a phrinheir ar randir ein hetifeddiaeth ni.

4. A phan fyddo y jiwbili i feibion Israel, yna y chwanegir eu hetifeddiaeth hwynt at etifeddiaeth llwyth y rhai y byddant hwy eiddynt: a thorrir eu hetifeddiaeth hwynt oddi wrth etifeddiaeth llwyth ein tadau ni.

5. A gorchmynnodd Moses i feibion Israel, yn ôl gair yr Arglwydd, gan ddywedyd, Mae llwyth meibion Joseff yn dywedyd yn uniawn.

6. Dyma y gair a orchmynnodd yr Arglwydd am ferched Salffaad, gan ddywedyd, Byddant wragedd i'r rhai y byddo da yn eu golwg eu hun; ond i rai o dylwyth llwyth eu tad eu hun y byddant yn wragedd.

7. Felly ni threigla etifeddiaeth meibion Israel o lwyth i lwyth: canys glynu a wna pob un o feibion Israel yn etifeddiaeth llwyth ei dadau ei hun.

8. A phob merch yn etifeddu etifeddiaeth o lwythau meibion Israel, a fydd wraig i un o dylwyth llwyth ei thad ei hun; fel yr etifeddo meibion Israel bob un etifeddiaeth ei dadau ei hun.

9. Ac na threigled etifeddiaeth o lwyth i lwyth arall; canys llwythau meibion Israel a lynant bob un yn ei etifeddiaeth ei hun.

10. Megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses, felly y gwnaeth merched Salffaad.

11. Canys Mala, Tirsa, a Hogla, a Milca, a Noa, merched Salffaad, fuant yn wragedd i feibion eu hewythredd.

12. I wŷr o dylwyth Manasse fab Joseff y buant yn wragedd; a thrigodd eu hetifeddiaeth hwynt wrth lwyth tylwyth eu tad.

13. Dyma'r gorchmynion a'r barnedigaethau a orchmynnodd yr Arglwydd i feibion Israel, trwy law Moses, yn rhosydd Moab, wrth yr Iorddonen, yn agos i Jericho.