Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36

Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A'r bobl, fel tuchanwyr, oeddynt flin yng nghlustiau yr Arglwydd: a chlywodd yr Arglwydd hyn; a'i ddig a enynnodd; a thân yr Arglwydd a gyneuodd yn eu mysg hwynt, ac a ysodd gwr y gwersyll.

2. A llefodd y bobl ar Moses: a gweddïodd Moses ar yr Arglwydd; a'r tân a ddiffoddodd.

3. Ac efe a alwodd enw y lle hwnnw, Tabera: am gynnau o dân yr Arglwydd yn eu mysg hwy.

4. A'r lliaws cymysg yr hwn ydoedd yn eu mysg a flysiasant yn ddirfawr: a meibion Israel hefyd a ddychwelasant, ac a wylasant, ac a ddywedasant, Pwy a rydd i ni gig i'w fwyta?

5. Cof yw gennym y pysgod yr oeddem yn ei fwyta yn yr Aifft yn rhad, y cucumerau, a'r pompionau, a'r cennin, a'r winwyn, a'r garlleg:

6. Ond yr awr hon y mae ein heneidiau ni yn gwywo, heb ddim ond y manna yn ein golwg.

7. A'r manna hwnnw oedd fel had coriander, a'i liw fel lliw bdeliwm.

8. Y bobl a aethant o amgylch, ac a'i casglasant ac a'i malasant mewn melinau, neu a'i curasant mewn morter, ac a'i berwasant mewn peiriau, ac a'i gwnaethant yn deisennau: a'i flas ydoedd fel blas olew ir.

9. A phan ddisgynnai'r gwlith y nos ar y gwersyll, disgynnai'r manna arno ef.

10. A chlybu Moses y bobl yn wylo trwy eu tylwythau, bob un yn nrws ei babell: ac enynnodd dig yr Arglwydd yn fawr; a drwg oedd gan Moses.

11. Dywedodd Moses hefyd wrth yr Arglwydd, Paham y drygaist dy was? a phaham na chawn ffafr yn dy olwg, gan i ti roddi baich yr holl bobl hyn arnaf?

12. Ai myfi a feichiogais ar yr holl bobl hyn? ai myfi a'u cenhedlais, fel y dywedech wrthyf, Dwg hwynt yn dy fynwes, (megis y dwg tadmaeth y plentyn sugno,) i'r tir a addewaist trwy lw i'w tadau?

13. O ba le y byddai gennyf fi gig i'w roddi i'r holl bobl hyn? canys wylo y maent wrthyf, gan ddywedyd, Dod i ni gig i'w fwyta.

14. Ni allaf fi fy hunan arwain yr holl bobl hyn; canys rhy drwm ydyw i mi.

15. Ac os felly y gwnei i mi, atolwg, gan ladd lladd fi, os cefais ffafr yn dy olwg di; fel na welwyf fy nrygfyd.

16. A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Casgl i mi ddengwr a thrigain o henuriaid Israel, y rhai a wyddost eu bod yn henuriaid y bobl, ac yn swyddogion arnynt; a dwg hwynt i babell y cyfarfod, a safant yno gyda thi.

17. Canys disgynnaf, a llefaraf wrthyt yno: a mi a gymeraf o'r ysbryd sydd arnat ti, ac a'i gosodaf arnynt hwy; felly y dygant gyda thi faich y bobl, fel na ddygech di ef yn unig.

18. Am hynny dywed wrth y bobl, Ymsancteiddiwch erbyn yfory, a chewch fwyta cig: canys wylasoch yng nghlustiau yr Arglwydd, gan ddywedyd, Pwy a ddyry i ni gig i'w fwyta? canys yr ydoedd yn dda arnom yn yr Aifft: am hynny y rhydd yr Arglwydd i chwi gig, a chwi a fwytewch.

19. Nid un dydd y bwytewch, ac nid dau, ac nid pump o ddyddiau, ac nid deg diwrnod, ac nid ugain diwrnod;

20. Ond hyd fis o ddyddiau, hyd oni ddêl allan o'ch ffroenau, a'i fod yn ffiaidd gennych: am i chwi ddirmygu'r Arglwydd yr hwn sydd yn eich plith, ac wylo ohonoch yn ei ŵydd ef, gan ddywedyd Paham y daethom allan o'r Aifft?

21. A dywedodd Moses, Chwe chan mil o wŷr traed yw y bobl yr ydwyf fi yn eu plith; a thi a ddywedi, Rhoddaf gig iddynt i'w fwyta fis o ddyddiau.

22. Ai y defaid a'r gwartheg a leddir iddynt, fel y byddo digon iddynt? ai holl bysg y môr a gesglir ynghyd iddynt, fel y byddo digon iddynt?

23. A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, A gwtogwyd llaw yr Arglwydd? yr awr hon y cei di weled a ddigwydd fy ngair i ti, ai na ddigwydd.

24. A Moses a aeth allan ac a draethodd eiriau yr Arglwydd wrth y bobl, ac a gasglodd y dengwr a thrigain o henuriaid y bobl, ac a'u gosododd hwynt o amgylch y babell.

25. Yna y disgynnodd yr Arglwydd mewn cwmwl, ac a lefarodd wrtho; ac a gymerodd o'r ysbryd oedd arno, ac a'i rhoddes i'r deg hynafgwr a thrigain. A thra y gorffwysai'r ysbryd arnynt, y proffwydent, ac ychwaneg ni wnaent.

26. A dau o'r gwŷr a drigasant yn y gwersyll, (enw un ydoedd Eldad, enw y llall Medad:) a gorffwysodd yr ysbryd arnynt hwy, am eu bod hwy o'r rhai a ysgrifenasid; ond nid aethant i'r babell, eto proffwydasant yn y gwersyll.

27. A rhedodd llanc, a mynegodd i Moses, ac a ddywedodd, Y mae Eldad a Medad yn proffwydo yn y gwersyll.

28. A Josua mab Nun, gweinidog Moses o'i ieuenctid, a atebodd ac a ddywedodd Moses, fy arglwydd, gwahardd iddynt.

29. A dywedodd Moses wrtho, Ai cenfigennu yr ydwyt ti drosof fi? O na byddai holl bobl yr Arglwydd yn broffwydi, a rhoddi o'r Arglwydd ei ysbryd arnynt!

30. A Moses a aeth i'r gwersyll, efe a henuriaid Israel.

31. Ac fe aeth gwynt oddi wrth yr Arglwydd, ac a ddug soflieir oddi wrth y môr, ac a'u taenodd wrth y gwersyll, megis taith diwrnod ar y naill du, a thaith diwrnod ar y tu arall o amgylch y gwersyll, a hynny ynghylch dau gufydd, ar wyneb y ddaear.

32. Yna y cododd y bobl y dydd hwnnw oll, a'r nos oll, a'r holl ddydd drannoeth, ac a gasglasant y soflieir: yr hwn a gasglodd leiaf, a gasglodd ddeg homer: a chan daenu y taenasant hwynt iddynt eu hunain o amgylch y gwersyll.

33. A'r cig oedd eto rhwng eu dannedd hwynt heb ei gnoi, pan enynnodddigofaintyr Arglwydd yn erbyn y bobl; a'r Arglwydd a drawodd y bobl â phla mawr iawn.

34. Ac efe a alwodd enw y lle hwnnw Cibroth‐Hattaafa; am iddynt gladdu yno y bobl a flysiasent.

35. O Feddau y blys yr aeth y bobl i Haseroth; ac arosasant yn Haseroth.