1. A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, ac wrth Aaron, gan ddywedyd,
2. Meibion Israel a wersyllant bob un wrth ei luman ei hun, dan arwyddion tŷ eu tadau: o amgylch pabell y cyfarfod y gwersyllant o hirbell.
3. A'r rhai a wersyllant o du'r dwyrain tua chodiad haul, fydd gwŷr lluman gwersyll Jwda, yn ôl eu lluoedd: a chapten meibion Jwda fydd Nahson mab Aminadab.
4. A'i lu ef, a'u rhai rhifedig hwynt, fyddant bedair mil ar ddeg a thrigain a chwe chant.
5. A llwyth Issachar a wersyllant yn nesaf ato: a chapten meibion Issachar fydd Nethaneel mab Suar.
6. A'i lu ef, a'i rifedigion, fyddant bedair mil ar ddeg a deugain a phedwar cant.
7. Yna llwyth Sabulon: ac Elïab mab Helon fydd capten meibion Sabulon.
8. A'i lu ef, a'i rifedigion, fyddant ddwy fil ar bymtheg a deugain a phedwar cant.
9. Holl rifedigion gwersyll Jwda fyddant yn ôl eu lluoedd, yn gan mil aphedwarugain mil a chwe mil a phedwar cant. Yn flaenaf y cychwyn y rhai hyn.
10. Lluman gwersyll Reuben fydd tua'r deau, yn ôl eu lluoedd: a chapten meibion Reuben fydd Elisur mab Sedeur.
11. A'i lu ef, a'i rifedigion, fyddant chwe mil a deugain a phum cant.
12. A'r rhai a wersyllant yn ei ymyl ef fydd llwyth Simeon: a chapten meibion Simeon fydd Selumiel mab Surisadai.
13. A'i lu ef, a'u rhifedigion, fydd onid un trigain mil a thri chant.
14. Yna llwyth Gad: a chapten meibion Gad fydd Eliasaff mab Reuel.
15. A'i lu ef, a'u rhifedigion hwynt, fyddant bum mil a deugain a chwe chant a deg a deugain.
16. Holl rifedigion gwersyll Reuben fyddant gan mil ac un ar ddeg a deugain o filoedd, a phedwar cant a deg a deugain, yn ôl eu lluoedd. Ac yn ail y cychwynnant hwy.
17. A phabell y cyfarfod a gychwyn yng nghanol y gwersylloedd, gyda gwersyll y Lefiaid: fel y gwersyllant, felly y symudant, pob un yn ei le, wrth eu llumanau.
18. Lluman gwersyll Effraim fydd tua'r gorllewin, yn ôl eu lluoedd: a chapten meibion Effraim fydd Elisama mab Ammihud.
19. A'i lu ef, a'u rhifedigion, fyddant ddeugain mil a phum cant.
20. Ac yn ei ymyl ef llwyth Manasse; a chapten meibion Manasse fydd Gamaliel mab Pedasur.
21. A'i lu ef, a'u rhifedigion, fyddant ddeuddeng mil ar hugain a dau gant.
22. Yna llwyth Benjamin: a chapten meibion Benjamin fydd Abidan mab Gideoni.
23. A'i lu ef, a'u rhifedigion, fyddant bymtheng mil ar hugain a phedwar cant.
24. Holl rifedigion gwersyll Effraim fyddant, yn ôl eu lluoedd, gan mil ac wyth mil a chant. Ac a gychwynnant yn drydydd.
25. Lluman gwersyll Dan fydd tua'r gogledd, yn ôl eu lluoedd: a chapten meibion Dan fydd Ahieser mab Ammisadai.
26. A'i lu ef, a'u rhifedigion, fyddant ddwy fil a thrigain a saith gant.
27. A'r rhai a wersyllant yn ei ymyl ef fydd llwyth Aser: a chapten meibion Aser fydd Pagiel mab Ocran.
28. A'i lu ef, a'u rhifedigion, fyddant un fil a deugain a phum cant.
29. Yna llwyth Nafftali: a chapten meibion Nafftali fydd Ahira mab Enan.
30. A'i lu ef, a'u rhifedigion, fyddant dair mil ar ddeg a deugain a phedwar cant.
31. Holl rifedigion gwersyll Dan fyddant gan mil ac onid tair mil trigain mil a chwe chant. Yn olaf y cychwynnant â'u llumanau.
32. Dyma rifedigion meibion Israel, wrth dŷ eu tadau. Holl rifedigion y gwersylloedd, yn ôl eu lluoedd, oedd chwe chan mil a thair mil a phum cant a deg a deugain.
33. Ond y Lefiaid ni chyfrifwyd ymysg meibion Israel; megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.
34. A meibion Israel a wnaethant yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses: felly y gwersyllasant wrth eu llumanau, ac felly y cychwynasant, bob un yn ei deuluoedd, yn ôl tŷ eu tadau.