Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36

Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A bu, wedi'r pla, lefaru o'r Arglwydd wrth Moses, ac wrth Eleasar mab Aaron yr offeiriad, gan ddywedyd,

2. Cymerwch nifer holl gynulleidfa meibion Israel, o fab ugain mlwydd ac uchod, trwy dŷ eu tadau, pob un a allo fyned i ryfel yn Israel.

3. A llefarodd Moses ac Eleasar yr offeiriad wrthynt yn rhosydd Moab, wrth yr Iorddonen, ar gyfer Jericho, gan ddywedyd

4. Rhifwch y bobl, o fab ugain mlwydd ac uchod; megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses, a meibion Israel, y rhai a ddaethant allan o dir yr Aifft.

5. Reuben, cyntaf‐anedig Israel. Meibion Reuben; o Hanoch, tylwyth yr Hanochiaid: o Phalu, tylwyth y Phaluiaid:

6. O Hesron, tylwyth yr Hesroniaid: o Carmi, tylwyth y Carmiaid.

7. Dyma dylwyth y Reubeniaid: a'u rhifedigion oedd dair mil a deugain a saith cant a deg ar hugain.

8. A meibion Phalu oedd Elïab.

9. A meibion Elïab; Nemuel, a Dathan, ac Abiram. Dyma y Dathan ac Abiram, rhai enwog yn y gynulleidfa, y rhai a ymgynenasant yn erbyn Moses ac yn erbyn Aaron yng nghynulleidfa Cora, pan ymgynenasant yn erbyn yr Arglwydd.

10. Ac agorodd y ddaear ei safn, ac a'u llyncodd hwynt, a Cora hefyd, pan fu farw y gynulleidfa, pan ddifaodd y tân ddengwr a deugain a dau cant: a hwy a aethant yn arwydd.

11. Ond meibion Cora ni buant feirw.

12. Meibion Simeon, wrth eu tylwythau. O Nemuel, tylwyth y Nemueliaid: o Jamin, tylwyth y Jaminiaid: o Jachin, tylwyth y Jachiniaid:

13. O Sera, tylwyth y Serahiaid: o Saul, tylwyth y Sauliaid.

14. Dyma dylwyth y Simeoniaid; dwy fil ar hugain a dau cant.

15. Meibion Gad, wrth eu tylwythau. O Seffon, tylwyth y Seffoniaid: o Haggi, tylwyth yr Haggiaid: o Suni, tylwyth y Suniaid:

16. O Osni, tylwyth yr Osniaid: o Eri, tylwyth yr Eriaid:

17. O Arod, tylwyth yr Arodiaid: o Areli, tylwyth yr Areliaid.

18. Dyma deuluoedd meibion Gad, dan eu rhif; deugain mil a phum cant.

19. Meibion Jwda oedd, Er ac Onan: a bu farw Er ac Onan yn nhir Canaan.

20. A meibion Jwda, wrth eu teuluoedd. O Sela, tylwyth y Selaniaid: o Phares, tylwyth y Pharesiaid: o Sera, tylwyth y Serahiaid.

21. A meibion Phares oedd; o Hesron, tylwyth yr Hesroniaid: o Hamul, tylwyth yr Hamuliaid.

22. Dyma dylwyth Jwda, dan eu rhif; onid pedair mil pedwar ugain mil a phum cant.

23. Meibion Issachar, wrth eu tylwythau oedd; o Tola, tylwyth y Tolaiaid: o Pua, tylwyth y Puhiaid:

24. O Jasub, tylwyth y Jasubiaid: o Simron, tylwyth y Simroniaid.

25. Dyma deuluoedd Issachar, dan eu rhif; pedair mil a thrigain mil a thri chant.

26. Meibion Sabulon, wrth eu teuluoedd oedd; o Sered, tylwyth y Sardiaid: o Elon, tylwyth yr Eloniaid: o Jahleel, tylwyth y Jahleeliaid.

27. Dyma deuluoedd y Sabuloniaid, dan eu rhif; trigain mil a phum cant.

28. Meibion Joseff, wrth eu teuluoedd oedd; Manasse ac Effraim.

29. Meibion Manasse oedd; o Machir, tylwyth y Machiriaid: a Machir a genhedlodd Gilead: o Gilead y mae tylwyth y Gileadiaid.

30. Dyma feibion Gilead. O Jeeser, tylwyth Jeeseriaid: o Helec, tylwyth yr Heleciaid:

31. Ac o Asriel, tylwyth yr Asrieliaid: ac o Sechem, tylwyth y Sechemiaid:

32. Ac o Semida, tylwyth y Semidiaid: ac o Heffer, tylwyth yr Hefferiaid.

33. A Salffaad mab Heffer nid oedd iddo feibion, ond merched: ac enwau merched Salffaad oedd, Mala, a Noa, Hogla, Milca, a Tirsa.

34. Dyma dylwyth Manasse: a'u rhifedigion oedd ddeuddeng mil a deugain a saith cant.

35. Dyma feibion Effraim, wrth eu teuluoedd. O Suthela, tylwyth y Sutheliaid; o Becher, tylwyth y Becheriaid: o Tahan, tylwyth y Tahaniaid.

36. A dyma feibion Suthela: o Eran, tylwyth yr Eraniaid.

37. Dyma dylwyth meibion Effraim, trwy eu rhifedigion; deuddeng mil ar hugain a phum cant. Dyma feibion Joseff, wrth eu teuluoedd.

38. Meibion Benjamin, wrth eu teuluoedd oedd; o Bela, tylwyth y Belaiaid: o Asbel, tylwyth yr Asbeliaid: o Ahiram, tylwyth yr Ahiramiaid:

39. O Seffuffam, tylwyth y Seffuffamiaid: o Huffam, tylwyth yr Huffamiaid.

40. A meibion Bela oedd, Ard a Naaman: o Ard yr ydoedd tylwyth yr Ardiaid: o Naaman, tylwyth y Naamaniaid.

41. Dyma feibion Benjamin, yn ôl eu teuluoedd: dan eu rhif yr oeddynt yn bum mil a deugain a chwe chant.

42. Dyma feibion Dan, yn ôl eu teuluoedd. O Suham, tylwyth y Suhamiaid. Dyma dylwyth Dan, yn ôl eu teuluoedd.

43. A holl dylwyth y Suhamiaid oedd, yn ôl eu rhifedigion, bedair mil a thrigain a phedwar cant.

44. Meibion Aser, wrth eu teuluoedd, oedd; o Jimna, tylwyth y Jimniaid: o Jesui, tylwyth y Jesuiaid: o Bereia tylwyth y Bereiaid.

45. O feibion Bereia, yr oedd; o Heber, tylwyth yr Heberiaid: o Malciel, tylwyth y Malcieliaid.

46. Ac enw merch Aser ydoedd Sara.

47. Dyma deuluoedd meibion Aser, yn ôl eu rhifedigion; tair mil ar ddeg a deugain a phedwar cant.

48. Meibion Nafftali, wrth eu teuluoedd oedd; o Jahseel, tylwyth y Jahseeliaid: o Guni, tylwyth y Guniaid:

49. O Jeser, tylwyth y Jeseriaid: o Silem, tylwyth y Silemiaid.

50. Dyma dylwyth Nafftali, yn ôl eu teuluoedd, dan eu rhif; pum mil a deugain a phedwar cant.

51. Dyma rifedigion meibion Israel; chwe chan mil, a mil saith gant a deg ar hugain.

52. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

53. I'r rhai hyn y rhennir y tir yn etifeddiaeth, yn ôl rhifedi yr enwau.

54. I lawer y chwanegi yr etifeddiaeth, ac i ychydig prinha yr etifeddiaeth: rhodder i bob un ei etifeddiaeth yn ôl ei rifedigion.

55. Eto wrth goelbren y rhennir y tir: wrth enwau llwythau eu tadau yr etifeddant

56. Wrth farn y coelbren y rhennir ei etifeddiaeth, rhwng llawer ac ychydig.

57. A dyma rifedigion y Lefiaid, wrth eu teuluoedd. O Gerson, tylwyth y Gersoniaid: o Cohath, tylwyth y Cohathiaid: o Merari, tylwyth y Merariaid.

58. Dyma dylwythau y Lefiaid. Tylwyth y Libniaid, tylwyth yr Hebroniaid, tylwyth y Mahliaid, tylwyth y Musiaid, tylwyth y Corathiaid: Cohath hefyd a genhedlodd Amram.

59. Ac enw gwraig Amram oedd Jochebed, merch Lefi, yr hon a aned i Lefi yn yr Aifft: a hi a ddug i Amram, Aaron a Moses, a Miriam eu chwaer hwynt.

60. A ganed i Aaron, Nadab ac Abihu, Eleasar ac Ithamar.

61. A bu farw Nadab ac Abihu, pan offrymasant dân dieithr gerbron yr Arglwydd.

62. A'u rhifedigion oedd dair mil ar hugain; sef pob gwryw o fab misyriad ac uchod: canys ni chyfrifwyd hwynt ymysg meibion Israel, am na roddwyd iddynt etifeddiaeth ymhlith meibion Israel.

63. Dyma rifedigion Moses ac Eleasar yr offeiriad, y rhai a rifasant feibion Israel yn rhosydd Moab, wrth yr Iorddonen, ar gyfer Jericho.

64. Ac yn y rhai hyn nid oedd un o rifedigion Moses ac Aaron yr offeiriad, pan rifasant feibion Israel yn anialwch Sinai.

65. Canys dywedasai yr Arglwydd amdanynt, Gan farw y byddant feirw yn yr anialwch. Ac ni adawsid ohonynt un, ond Caleb mab Jeffunne, a Josua mab Nun.