Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36

Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Allefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

2. Anfon i ti wŷr i edrych tir Canaan, yr hwn yr ydwyf fi yn ei roddi i feibion Israel: gŵr dros bob un o lwythau eu tadau a anfonwch; pob un yn bennaeth yn eu mysg hwynt.

3. A Moses a'u hanfonodd hwynt o anialwch Paran, wrth orchymyn yr Arglwydd: penaethiaid meibion Israel oedd y gwŷr hynny oll.

4. A dyma eu henwau hwynt. Dros lwyth Reuben, Sammua mab Saccur.

5. Dros lwyth Simeon, Saffat mab Hori.

6. Dros lwyth Jwda, Caleb mab Jeffunne.

7. Dros lwyth Issachar, Igal mab Joseff.

8. Dros lwyth Effraim, Osea mab Nun.

9. Dros lwyth Benjamin, Palti mab Raffu.

10. Dros lwyth Sabulon, Gadiel mab Sodi.

11. O lwyth Joseff, dros lwyth Manasse, Gadi mab Susi.

12. Dros lwyth Dan, Amiel mab Gemali.

13. Dros lwyth Aser, Sethur mab Michael.

14. Dros lwyth Nafftali, Nahbi mab Foffsi.

15. Dros lwyth Gad, Geuel mab Maci.

16. Dyma enwau y gwŷr a anfonodd Moses i edrych ansawdd y wlad. A Moses a enwodd Osea mab Nun, Josua.

17. A Moses a'u hanfonodd hwynt i edrych ansawdd gwlad Canaan; ac a ddywedodd wrthynt, Ewch yma tua'r deau, a dringwch i'r mynydd.

18. Ac edrychwch y wlad beth yw hi, a'r bobl sydd yn trigo ynddi, pa un ai cryf ai gwan, ai ychydig ai llawer ydynt:

19. A pheth yw y tir y maent yn trigo ynddo, ai da ai drwg; ac ym mha ddinasoedd y maent yn preswylio, ai mewn pebyll, ai mewn amddiffynfeydd;

20. A pha dir, ai bras yw efe ai cul; a oes coed ynddo, ai nad oes. Ac ymwrolwch, a dygwch o ffrwyth y tir. A'r dyddiau oeddynt ddyddiau blaenffrwyth grawnwin.

21. A hwy a aethant i fyny, ac a chwiliasant y tir, o anialwch Sin hyd Rehob, ffordd y deuir i Hamath.

22. Ac a aethant i fyny i'r deau, ac a ddaethant hyd Hebron: ac yno yr oedd Ahiman, Sesai, a Thalmai, meibion Anac. (A Hebron a adeiladasid saith mlynedd o flaen Soan yn yr Aifft.)

23. A daethant hyd ddyffryn Escol; a thorasant oddi yno gangen ag un swp o rawnwin, ac a'i dygasant ar drosol rhwng dau: dygasant rai o'r pomgranadau hefyd, ac o'r ffigys.

24. A'r lle hwnnw a alwasant dyffryn Escol; o achos y swp grawnwin a dorrodd meibion Israel oddi yno.

25. A hwy a ddychwelasant o chwilio'r wlad ar ôl deugain niwrnod.

26. A myned a wnaethant, a dyfod at Moses ac at Aaron, ac at holl gynulleidfa meibion Israel, i Cades, yn anialwch Paran; a dygasant yn eu hôl air iddynt, ac i'r holl gynulleidfa, ac a ddangosasant iddynt ffrwyth y tir.

27. A mynegasant iddo, a dywedasant, Daethom i'r tir lle yr anfonaist ni; ac yn ddiau llifeirio y mae o laeth a mêl: a dyma ei ffrwyth ef.

28. Ond y mae y bobl sydd yn trigo yn y tir yn gryfion, a'r dinasoedd yn gaerog ac yn fawrion iawn; a gwelsom yno hefyd feibion Anac.

29. Yr Amaleciaid sydd yn trigo yn nhir y deau; a'r Hethiaid, a'r Jebusiaid, a'r Amoriaid, yn gwladychu yn y mynydd‐dir; a'r Canaaneaid yn preswylio wrth y môr, a cherllaw yr Iorddonen.

30. A gostegodd Caleb y bobl gerbron Moses, ac a ddywedodd, Gan fyned awn i fyny, a pherchenogwn hi: canys gan orchfygu y gorchfygwn hi.

31. Ond y gwŷr y rhai a aethant i fyny gydag ef a ddywedasant, Ni allwn ni fyned i fyny yn erbyn y bobl; canys cryfach ydynt na nyni.

32. A rhoddasant allan anghlod am y tir a chwiliasent, wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Y tir yr aethom drosto i'w chwilio, tir yn difa ei breswylwyr yw efe; a'r holl bobl a welsom ynddo ydynt wŷr corffol:

33. Ac yno y gwelsom y cewri, meibion Anac, y rhai a ddaethant o'r cewri; ac yr oeddem yn ein golwg ein hunain fel ceiliogod rhedyn, ac felly yr oeddem yn eu golwg hwythau.