Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36

Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,

2. Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan ymneilltuo gŵr neu wraig i addo adduned Nasaread, i ymneilltuo i'r Arglwydd:

3. Ymneilltued oddi wrth win a diod gref; nac yfed finegr gwin, na finegr diod gref; nac yfed chwaith ddim sugn grawnwin, ac na fwytaed rawnwin irion, na sychion.

4. Holl ddyddiau ei Nasareaeth ni chaiff fwyta o ddim oll a wneir o winwydden y gwin, o'r dincod hyd y bilionen.

5. Holl ddyddiau adduned ei Nasareaeth ni chaiff ellyn fyned ar ei ben: nes cyflawni'r dyddiau yr ymneilltuodd efe i'r Arglwydd, sanctaidd fydd; gadawed i gudynnau gwallt ei ben dyfu.

6. Holl ddyddiau ei ymneilltuaeth i'r Arglwydd, na ddeued at gorff marw.

7. Nac ymhaloged wrth ei dad, neu wrth ei fam, wrth ei frawd, neu wrth ei chwaer, pan fyddant feirw; am fod Nasareaeth ei Dduw ar ei ben ef.

8. Holl ddyddiau ei Nasareaeth,sanctaidd fydd efe i'r Arglwydd.

9. Ond os marw fydd un yn ei ymyl ef yn ddisymwth, a halogi pen ei Nasareaeth; yna eillied ei ben ar ddydd ei buredigaeth, ar y seithfed dydd yr eillia efe ef.

10. Ac ar yr wythfed dydd y dwg ddwy durtur neu ddau gyw colomen, at yr offeiriad, i ddrws pabell y cyfarfod.

11. Ac offrymed yr offeiriad un yn bech‐aberth, ac un yn boethoffrwm, a gwnaed gymod drosto, am yr hyn a becho wrth y marw; a sancteiddied ei ben ef y dydd hwnnw.

12. A neilltued i'r Arglwydd ddyddiau ei Nasareaeth, a dyged oen blwydd yn offrwm dros gamwedd; ac aed y dyddiau cyntaf yn ofer, am halogi ei Nasareaeth ef.

13. A dyma gyfraith y Nasaread: pan gyflawner dyddiau ei Nasareaeth, dyger ef i ddrws pabell y cyfarfod.

14. A dyged yn offrwm drosto i'r Arglwydd, un hesbwrn blwydd,perffaith‐gwbl yn boethoffrwm; ac un hesbin flwydd, berffaith‐gwbl, yn bech‐aberth; ac un hwrdd perffaith‐gwbl, yn aberth hedd;

15. Cawellaid o fara croyw hefyd, sef teisennau peilliaid wedi eu tylino trwy olew, ac afrllad croyw wedi eu heneinio ag olew, a'u bwyd‐offrwm, a'u diod‐offrwm hwy.

16. A dyged yr offeiriad hwynt gerbron yr Arglwydd, ac offrymed ei bech‐aberth a'i boethoffrwm ef.

17. Offrymed hefyd yr hwrdd yn aberth hedd i'r Arglwydd, ynghyd â'r cawellaid bara croyw; ac offrymed yr offeiriad ei fwyd‐offrwm a'i ddiod‐offrwm ef.

18. Ac eillied y Nasaread wrth ddrws pabell y cyfarfod ben ei Nasareaeth; a chymered flew pen ei Nasareaeth, a rhodded ar y tân a fyddo dan yr aberth hedd.

19. Cymered yr offeiriad hefyd balfais o'r hwrdd wedi ei berwi, ac un deisen groyw o'r cawell, ac un afrlladen groyw; a rhodded ar ddwylo'r Nasaread, wedi eillio ohono ei Nasareaeth;

20. A chyhwfaned yr offeiriad hwynt yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd: sanctaidd yw hyn i'r offeiriad, heblaw parwyden y cyhwfan, a phalfais y dyrchafael. Ac wedi hyn y caiff y Nasaread yfed gwin.

21. Dyma gyfraith y Nasaread a addunedodd, a'i offrwm i'r Arglwydd am ei Nasareaeth, heblaw yr hyn a gyrhaeddo ei law ef: fel y byddo ei adduned a addunedo, felly gwnaed, heblaw cyfraith ei Nasareaeth.

22. Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,

23. Llefara wrth Aaron ac wrth ei feibion, gan ddywedyd, Fel hyn y bendithiwch feibion Israel, gan ddywedyd wrthynt,

24. Bendithied yr Arglwydd di, a chadwed di:

25. A llewyrched yr Arglwydd ei wyneb arnat, a thrugarhaed wrthyt:

26. Dyrchafed yr Arglwydd ei wyneb arnat, a rhodded i ti dangnefedd.

27. Felly y gosodant fy enw ar feibion Israel, a mi a'u bendithiaf hwynt.