Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36

Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 35 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, yn rhosydd Moab, wrth yr Iorddonen, yn agos i Jericho, gan ddywedyd

2. Gorchymyn i feibion Israel, roddi ohonynt i'r Lefiaid, o etifeddiaeth eu meddiant, ddinasoedd i drigo ynddynt: rhoddwch hefyd i'r Lefiaid faes pentrefol wrth y dinasoedd o'u hamgylch.

3. A'r dinasoedd fyddant iddynt i drigo ynddynt; a'u pentrefol feysydd fyddant i'w hanifeiliaid, ac i'w cyfoeth, ac i'w holl fwystfilod.

4. A meysydd pentrefol y dinasoedd y rhai a roddwch i'r Lefiaid, a gyrhaeddant o fur y ddinas tuag allan, fil o gufyddau o amgylch.

5. A mesurwch o'r tu allan i'r ddinas, o du'r dwyrain ddwy fil o gufyddau, a thua'r deau ddwy fil o gufyddau, a thua'r gorllewin ddwy fil o gufyddau, a thua'r gogledd ddwy fil o gufyddau; a'r ddinas fydd yn y canol: hyn fydd iddynt yn feysydd pentrefol y dinasoedd.

6. Ac o'r dinasoedd a roddwch i'r Lefiaid, bydded chwech yn ddinasoedd noddfa, y rhai a roddwch, fel y gallo'r llawruddiog ffoi yno: a rhoddwch ddwy ddinas a deugain atynt yn ychwaneg.

7. Yr holl ddinasoedd a roddwch i'r Lefiaid, fyddant wyth ddinas a deugain, hwynt a'u pentrefol feysydd.

8. A'r dinasoedd y rhai a roddwch, fydd o feddiant meibion Israel: oddi ar yr aml eu dinasoedd, y rhoddwch yn aml; ac oddi ar y prin, y rhoddwch yn brin: pob un yn ôl ei etifeddiaeth a etifeddant, a rydd i'r Lefiaid o'i ddinasoedd.

9. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

10. Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan eloch dros yr Iorddonen i dir Canaan;

11. Yna gosodwch i chwi ddinasoedd; dinasoedd noddfa fyddant i chwi: ac yno y ffy y llawruddiog a laddo ddyn mewn amryfusedd.

12. A'r dinasoedd fyddant i chwi yn noddfa rhag y dialydd; fel na ladder y llawruddiog, hyd oni safo gerbron y gynulleidfa mewn barn.

13. Ac o'r dinasoedd y rhai a roddwch, chwech fydd i chwi yn ddinasoedd noddfa.

14. Tair dinas a roddwch o'r tu yma i'r Iorddonen, a thair dinas a roddwch yn nhir Canaan: dinasoedd noddfa fyddant hwy.

15. I feibion Israel, ac i'r dieithr, ac i'r ymdeithydd a fyddo yn eu mysg, y bydd y chwe dinas hyn yn noddfa; fel y gallo pob un a laddo ddyn mewn amryfusedd, ffoi yno.

16. Ac os ag offeryn haearn y trawodd ef, fel y bu farw, llawruddiog yw efe: lladder y llawruddiog yn farw.

17. Ac os â charreg law, yr hon y byddai efe farw o'i phlegid, y trawodd ef, a'i farw; llawruddiog yw efe; lladder y llawruddiog yn farw.

18. Neu os efe a'i trawodd ef â llawffon, yr hon y byddai efe farw o'i phlegid, a'i farw; llawruddiog yw efe: lladder y llawruddiog yn farw.

19. Dialydd y gwaed a ladd y llawruddiog pan gyfarfyddo ag ef, efe a'i lladd ef.

20. Ac os mewn cas y gwthia efe ef, neu y teifl ato mewn bwriad, fel y byddo efe farw;

21. Neu ei daro ef â'i law, mewn galanastra, fel y byddo farw: lladder yn farw yr hwn a'i trawodd; llofrudd yw hwnnw: dialydd y gwaed a ladd y llofrudd pan gyfarfyddo ag ef.

22. Ond os yn ddisymwth, heb alanastra, y gwthia efe ef, neu y teifl ato un offeryn yn ddifwriad;

23. Neu ei daro ef â charreg, y byddai efe farw o'i phlegid, heb ei weled ef; a pheri iddi syrthio arno, fel y byddo farw, ac efe heb fod yn elyn, ac heb geisio niwed iddo ef:

24. Yna barned y gynulleidfa rhwng y trawydd a dialydd y gwaed, yn ôl y barnedigaethau hyn.

25. Ac achubed y gynulleidfa y llofrudd o law dialydd y gwaed, a thröed y gynulleidfa ef i ddinas ei noddfa, yr hon y ffodd efe iddi: a thriged yntau ynddi hyd farwolaeth yr archoffeiriad, yr hwn a eneiniwyd â'r olew cysegredig.

26. Ac os y llofrudd gan fyned a â allan o derfyn dinas ei noddfa, yr hon y ffodd efe iddi;

27. A'i gael o ddialydd y gwaed allan o derfyn dinas ei noddfa, a lladd o ddialydd y gwaed y llofrudd; na rodder hawl gwaed yn ei erbyn:

28. Canys o fewn dinas ei noddfa y dyly drigo, hyd farwolaeth yr archoffeiriad ac wedi marwolaeth yr archoffeiriad dychweled y llofrudd i dir ei etifeddiaeth.

29. A hyn fydd i chwi yn ddeddf farnedig trwy eich cenedlaethau, yn eich holl drigfannau.

30. Pwy bynnag a laddo ddyn, wrth a ddywedo tystion y lleddir y llofrudd: ac un tyst ni chaiff dystiolaethu yn erbyn dyn, i beri iddo farw.

31. Hefyd, na chymerwch iawn am einioes y llofrudd, yr hwn sydd euog i farw; ond lladder ef yn farw.

32. Ac na chymerwch iawn gan yr hwn a ffodd i ddinas ei noddfa, er cael dychwelyd i drigo yn y tir, hyd farwolaeth yr offeiriad;

33. Fel na halogoch y tir yr ydych ynddo; canys y gwaed hwn a haloga'r tir: a'r tir ni lanheir oddi wrth y gwaed a dywallter arno, ond â gwaed yr hwn a'i tywalltodd.

34. Am hynny nac aflanha y tir y trigoch ynddo, yr hwn yr ydwyf fi yn preswylio yn ei ganol: canys myfi yr Arglwydd ydwyf yn preswylio yng nghanol meibion Israel.