Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36

Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

2. Llefara wrth feibion, Israel, a dywed wrthynt, Pan ddeloch i dir eich preswylfod, yr hwn yr ydwyf fi yn ei roddi i chwi,

3. Ac offrymu ohonoch aberth tanllyd i'r Arglwydd, offrwm poeth, neu aberth, wrth dalu adduned, neu mewn offrwm gwirfodd, neu ar eich gwyliau gosodedig, gan wneuthur arogl peraidd i'r Arglwydd, o'r eidionau, neu o'r praidd:

4. Yna offrymed yr hwn a offrymo ei rodd i'r Arglwydd, o beilliaid ddegfed ran, wedi ei gymysgu trwy bedwaredd ran hin o olew, yn fwyd‐offrwm.

5. Ac offrwm di gyda'r offrwm poeth, neu yr aberth, bedwaredd ran hin o win am bob oen, yn ddiod‐offrwm.

6. A thi a offrymi yn fwyd‐offrwm gyda hwrdd, o beilliaid ddwy ddegfed ran, wedi ei gymysgu trwy drydedd ran hin o olew.

7. A thrydedd ran hin o win yn ddiod‐offrwm a offrymi yn arogl peraidd i'r Arglwydd.

8. A phan ddarperych lo buwch yn offrwm poeth, neu yn aberth yn talu adduned, neu aberth hedd i'r Arglwydd;

9. Yna offrymed yn fwyd‐offrwm gyda llo y fuwch, o beilliaid dair degfed ran wedi ei gymysgu trwy hanner hin o olew.

10. Ac offrwm hanner hin o win yn ddiod‐offrwm, yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i'r Arglwydd.

11. Felly y gwneir am bob ych, neu am bob hwrdd, neu am oen, neu am fyn.

12. Yn ôl y rhifedi a ddarparoch, felly y gwnewch i bob un, yn ôl eu rhifedi.

13. Pob priodor a wna'r pethau hyn felly, wrth offrymu aberth tanllyd o arogl peraidd i'r Arglwydd.

14. A phan ymdeithio dieithrddyn, neu yr hwn sydd yn eich plith trwy eich cenedlaethau, a darparu aberth tanllyd o arogl peraidd i'r Arglwydd; fel y gwneloch chwi, felly gwnaed yntau.

15. Yr un ddeddf fydd i chwi o'r dyrfa, ac i'r ymdeithydd dieithr; deddf dragwyddol yw trwy eich cenedlaethau: megis yr ydych chwi, felly y bydd y dieithr gerbron yr Arglwydd.

16. Un gyfraith, ac un ddefod, fydd i chwi, ac i'r ymdeithydd a ymdeithio gyda chwi.

17. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

18. Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan ddeloch i'r tir yr ydwyf yn eich dwyn chwi iddo;

19. Yna pan fwytaoch o fara'r tir, y dyrchefwch offrwm dyrchafael i'r Arglwydd.

20. O flaenion eich toes yr offrymwch deisen yn offrwm dyrchafael: fel offrwm dyrchafael y llawr dyrnu, felly y dyrchefwch hithau.

21. O ddechrau eich toes y rhoddwch i'r Arglwydd offrwm dyrchafael trwy eich cenedlaethau.

22. A phan eloch dros y ffordd, ac na wneloch yr holl orchmynion hyn, y rhai a lefarodd yr Arglwydd wrth Moses,

23. Sef yr hyn oll a orchmynnodd yr Arglwydd i chwi trwy law Moses, o'r dydd y gorchmynnodd yr Arglwydd, ac o hynny allan, trwy eich cenedlaethau;

24. Yna bydded, os allan o olwg y gynulleidfa y gwnaed dim trwy anwybod, i'r holl gynulleidfa ddarparu un bustach ieuanc yn offrwm poeth, i fod yn arogl peraidd i'r Arglwydd, â'i fwyd‐offrwm, a'i ddiod‐offrwm, wrth y ddefod, ac un bwch geifr yn bech‐aberth.

25. A gwnaed yr offeiriad gymod dros holl gynulleidfa meibion Israel, a maddeuir iddynt; canys anwybodaeth yw: a dygant eu hoffrwm, aberth tanllyd i'r Arglwydd, a'u pech‐aberth, gerbron yr Arglwydd, am eu hanwybodaeth.

26. A maddeuir i holl gynulleidfa meibion Israel, ac i'r dieithr a ymdeithio yn eu mysg; canys digwyddodd i'r holl bobl trwy anwybod.

27. Ond os un dyn a becha trwy amryfusedd; yna offrymed afr flwydd yn offrwm dros bechod.

28. A gwnaed yr offeiriad gymod dros y dyn a becho yn amryfus, pan becho trwy amryfusedd gerbron yr Arglwydd, gan wneuthur cymod drosto; a maddeuir iddo.

29. Yr hwn a aned o feibion Israel, a'r dieithr a ymdeithio yn eu mysg, un gyfraith fydd i chwi am wneuthur pechod trwy amryfusedd.

30. Ond y dyn a wnêl bechod mewn rhyfyg, o briodor, neu o ddieithr; cablu yr Arglwydd y mae: torrer ymaith y dyn hwnnw o fysg ei bobl.

31. Oherwydd iddo ddiystyru gair yr Arglwydd, a thorri ei orchymyn ef; llwyr dorrer ymaith y dyn hwnnw: ei anwiredd fydd arno.

32. Fel yr ydoedd meibion Israel yn y diffeithwch, cawsant ŵr yn cynuta ar y dydd Saboth.

33. A'r rhai a'i cawsant ef, a'i dygasant ef, sef y cynutwr, at Moses, ac at Aaron, ac at yr holl gynulleidfa.

34. Ac a'i dodasant ef mewn dalfa, am nad oedd hysbys beth a wneid iddo.

35. A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Lladder y gŵr yn farw: llabyddied yr holl gynulleidfa ef â meini o'r tu allan i'r gwersyll.

36. A'r holl gynulleidfa a'i dygasant ef i'r tu allan i'r gwersyll, ac a'i llabyddiasant ef â meini, fel y bu efe farw; megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses.

37. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

38. Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, am wneuthur iddynt eddi ar odre eu dillad, trwy eu cenedlaethau, a rhoddant bleth o sidan glas ar eddi y godre.

39. A bydded i chwi yn rhidens, i edrych arno, ac i gofio holl orchmynion yr Arglwydd, ac i'w gwneuthur hwynt; ac na chwiliwch yn ôl eich calonnau eich hunain, nac yn ôl eich llygaid eich hunain, y rhai yr ydych yn puteinio ar eu hôl:

40. Fel y cofioch ac y gwneloch fy holl orchmynion i, ac y byddoch sanctaidd i'ch Duw.

41. Myfi ydyw yr Arglwydd eich Duw, yr hwn a'ch dygais chwi allan o dir yr Aifft, i fod i chwi yn Dduw: myfi yw yr Arglwydd eich Duw.