1. Rhowch i'r ARGLWYDD, fodau nefol,rhowch i'r ARGLWYDD ogoniant a nerth.
2. Rhowch i'r ARGLWYDD ogoniant ei enw;ymgrymwch i'r ARGLWYDD yn ysblander ei sancteiddrwydd.
3. Y mae llais yr ARGLWYDD yn uwch na'r dyfroedd;Duw'r gogoniant sy'n taranu;y mae'r ARGLWYDD yn uwch na'r dyfroedd cryfion!
4. Y mae llais yr ARGLWYDD yn nerthol,y mae llais yr ARGLWYDD yn ogoneddus.
5. Y mae llais yr ARGLWYDD yn dryllio cedrwydd;dryllia'r ARGLWYDD gedrwydd Lebanon.
6. Gwna i Lebanon lamu fel llo,a Sirion fel ych ifanc.
7. Y mae llais yr ARGLWYDD yn fflachio'n fflamau tân.
8. Y mae llais yr ARGLWYDD yn gwneud i'r anialwch grynu;gwna'r ARGLWYDD i anialwch Cades grynu.
9. Y mae llais yr ARGLWYDD yn gwneud i'r ewigod lydnu,ac yn prysuro geni'r llwdn;yn ei deml dywed pawb, “Gogoniant.”
10. Y mae'r ARGLWYDD wedi ei orseddu uwch y llifeiriant,y mae'r ARGLWYDD wedi ei orseddu'n frenin byth.
11. Rhodded yr ARGLWYDD nerth i'w bobl!Bendithied yr ARGLWYDD ei bobl â heddwch!