1. Y mae'r rhai sy'n ymddiried yn yr ARGLWYDD fel Mynydd Seion,na ellir ei symud, ond sy'n aros hyd byth.
2. Fel y mae'r mynyddoedd o amgylch Jerwsalem,felly y mae'r ARGLWYDD o amgylch ei bobl yn awr a hyd byth.
3. Ni chaiff teyrnwialen y drygionus orffwysar y tir sy'n rhan i'r rhai cyfiawn,rhag i'r cyfiawn estyn eu llaw at anghyfiawnder.
4. Gwna ddaioni, O ARGLWYDD, i'r rhai daac i'r rhai uniawn o galon.
5. Ond am y rhai sy'n gwyro i'w ffyrdd troellog,bydded i'r ARGLWYDD eu dinistrio gyda'r gwneuthurwyr drygioni.Bydded heddwch ar Israel!