1. Molwch yr ARGLWYDD.Gwyn ei fyd y sawl sy'n ofni'r ARGLWYDD,ac yn ymhyfrydu'n llwyr yn ei orchmynion.
2. Bydd ei ddisgynyddion yn gedyrn ar y ddaear,yn genhedlaeth uniawn wedi ei bendithio.
3. Bydd golud a chyfoeth yn ei dŷ,a bydd ei gyfiawnder yn para am byth.
4. Fe lewyrcha goleuni mewn tywyllwch i'r uniawn;y mae'r cyfiawn yn raslon a thrugarog.
5. Da yw i bob un drugarhau a rhoi benthyg,a threfnu ei orchwylion yn onest;
6. oherwydd ni symudir ef o gwbl,a chofir y cyfiawn dros byth.
7. Nid yw'n ofni newyddion drwg;y mae ei galon yn ddi-gryn, yn ymddiried yn yr ARGLWYDD.
8. Y mae ei galon yn ddisigl, ac nid ofnanes iddo weld diwedd ar ei elynion.
9. Y mae wedi rhoi'n hael i'r tlodion;y mae ei gyfiawnder yn para am byth,a'i gorn wedi ei ddyrchafu mewn anrhydedd.