1. Gwrando, O fugail Israel,sy'n arwain Joseff fel diadell.
2. Ti sydd wedi dy orseddu ar y cerwbiaid,disgleiria i Effraim, Benjamin a Manasse.Gwna i'th nerth gyffroi,a thyrd i'n gwaredu.
3. Adfer ni, O Dduw;bydded llewyrch dy wyneb arnom, a gwareder ni.
4. O ARGLWYDD Dduw y Lluoedd,am ba hyd y byddi'n ddig wrth weddïau dy bobl?
5. Yr wyt wedi eu bwydo â bara dagrau,a'u diodi â mesur llawn o ddagrau.
6. Gwnaethost ni'n ddirmyg i'n cymdogion,ac y mae ein gelynion yn ein gwawdio.
7. O Dduw'r Lluoedd, adfer ni;bydded llewyrch dy wyneb arnom, a gwareder ni.
8. Daethost â gwinwydden o'r Aifft;gyrraist allan genhedloedd er mwyn ei phlannu;
9. cliriaist y tir iddi;magodd hithau wreiddiau a llenwi'r tir.
10. Yr oedd ei chysgod yn gorchuddio'r mynyddoedd,a'i changau fel y cedrwydd cryfion;
11. estynnodd ei brigau at y môr,a'i blagur at yr afon.
12. Pam felly y bylchaist ei chloddiau,fel bod y rhai sy'n mynd heibio yn tynnu ei ffrwyth?
13. Y mae baedd y goedwig yn ei thyrchu,ac anifeiliaid gwyllt yn ei phori.
14. O Dduw'r Lluoedd, tro eto,edrych i lawr o'r nefoedd a gwêl,gofala am y winwydden hon,
15. y planhigyn a blennaist â'th ddeheulaw,y gainc yr wyt yn ei chyfnerthu.
16. Bydded i'r rhai sy'n ei llosgi â thân ac yn ei thorri i lawrgael eu difetha gan gerydd dy wynepryd.
17. Ond bydded dy law ar y sawl sydd ar dy ddeheulaw,ar yr un yr wyt ti'n ei gyfnerthu.
18. Ni thrown oddi wrthyt mwyach;adfywia ni, ac fe alwn ar dy enw.
19. ARGLWYDD Dduw y Lluoedd, adfer ni;bydded llewyrch dy wyneb arnom, a gwareder ni.