1. Y mae'r sawl sy'n byw yn lloches y Goruchaf,ac yn aros yng nghysgod yr Hollalluog,
2. yn dweud wrth yr ARGLWYDD, “Fy noddfa a'm caer,fy Nuw, yr un yr ymddiriedaf ynddo.”
3. Oherwydd bydd ef yn dy waredu o fagl heliwr,ac oddi wrth bla difaol;
4. bydd yn cysgodi drosot â'i esgyll,a chei nodded dan ei adenydd;bydd ei wirionedd yn darian a bwcled.
5. Ni fyddi'n ofni rhag dychryn y nos,na rhag saeth yn hedfan yn y dydd,
6. rhag pla sy'n tramwyo yn y tywyllwch,na rhag dinistr sy'n difetha ganol dydd.
7. Er i fil syrthio wrth dy ochr,a deng mil ar dy ddeheulaw,eto ni chyffyrddir â thi.
8. Ni fyddi ond yn edrych â'th lygaidac yn gweld tâl y drygionus.
9. Ond i ti, bydd yr ARGLWYDD yn noddfa;gwnaethost y Goruchaf yn amddiffynfa;
10. ni ddigwydd niwed i ti,ac ni ddaw pla yn agos i'th babell.
11. Oherwydd rhydd orchymyn i'w angylioni'th gadw yn dy holl ffyrdd;
12. byddant yn dy godi ar eu dwylorhag iti daro dy droed yn erbyn carreg.
13. Byddi'n troedio ar y llew a'r asb,ac yn sathru'r llew ifanc a'r sarff.
14. “Am iddo lynu wrthyf, fe'i gwaredaf;fe'i diogelaf am ei fod yn adnabod fy enw.
15. Pan fydd yn galw arnaf, fe'i hatebaf;byddaf fi gydag ef mewn cyfyngder,gwaredaf ef a'i anrhydeddu.
16. Digonaf ef â hir ddyddiau,a gwnaf iddo fwynhau fy iachawdwriaeth.”