1. ARGLWYDD, yr wyt wedi fy chwilio a'm hadnabod.
2. Gwyddost ti pa bryd y byddaf yn eistedd ac yn codi;yr wyt wedi deall fy meddwl o bell;
3. yr wyt wedi mesur fy ngherdded a'm gorffwys,ac yr wyt yn gyfarwydd â'm holl ffyrdd.
4. Oherwydd nid oes air ar fy nhafodheb i ti, ARGLWYDD, ei wybod i gyd.
5. Yr wyt wedi cau amdanaf yn ôl ac ymlaen,ac wedi gosod dy law drosof.
6. Y mae'r wybodaeth hon yn rhy ryfedd i mi;y mae'n rhy uchel i mi ei chyrraedd.
7. I ble yr af oddi wrth dy ysbryd?I ble y ffoaf o'th bresenoldeb?
8. Os dringaf i'r nefoedd, yr wyt yno;os cyweiriaf wely yn Sheol, yr wyt yno hefyd.
9. Os cymeraf adenydd y wawra thrigo ym mhellafoedd y môr,
10. yno hefyd fe fydd dy law yn fy arwain,a'th ddeheulaw yn fy nghynnal.
11. Os dywedaf, “Yn sicr bydd y tywyllwch yn fy nghuddio,a'r nos yn cau amdanaf”,
12. eto nid yw tywyllwch yn dywyllwch i ti;y mae'r nos yn goleuo fel dydd,a'r un yw tywyllwch a goleuni.
13. Ti a greodd fy ymysgaroedd,a'm llunio yng nghroth fy mam.
14. Clodforaf di, oherwydd yr wyt yn ofnadwy a rhyfeddol,ac y mae dy weithredoedd yn rhyfeddol.Yr wyt yn fy adnabod mor dda;
15. ni chuddiwyd fy ngwneuthuriad oddi wrthytpan oeddwn yn cael fy ngwneud yn y dirgel,ac yn cael fy llunio yn nyfnderoedd y ddaear.
16. Gwelodd dy lygaid fy nefnydd di-lun;y mae'r cyfan wedi ei ysgrifennu yn dy lyfr;cafodd fy nyddiau eu ffurfiopan nad oedd yr un ohonynt.
17. Mor ddwfn i mi yw dy feddyliau, O Dduw,ac mor lluosog eu nifer!
18. Os cyfrifaf hwy, y maent yn amlach na'r tywod,a phe gorffennwn hynny, byddit ti'n parhau gyda mi.
19. Fy Nuw, O na fyddit ti'n lladd y drygionus,fel y byddai rhai gwaedlyd yn troi oddi wrthyf—
20. y rhai sy'n dy herio di yn ddichellgar,ac yn gwrthryfela'n ofer yn dy erbyn.
21. Onid wyf yn casáu, O ARGLWYDD, y rhai sy'n dy gasáu di,ac yn ffieiddio'r rhai sy'n codi yn dy erbyn?
22. Yr wyf yn eu casáu â chas perffaith,ac y maent fel gelynion i mi.
23. Chwilia fi, O Dduw, iti adnabod fy nghalon;profa fi, iti ddeall fy meddyliau.
24. Edrych a wyf ar ffordd a fydd yn loes i mi,ac arwain fi yn y ffordd dragwyddol.