1. Clyw fy nghri, O Dduw,a gwrando ar fy ngweddi;
2. o eithaf y ddaear yr wyf yn galw arnat,pan yw fy nghalon ar suddo.Arwain fi at graig sy'n uwch na mi;
3. oherwydd buost ti'n gysgod imi,yn dŵr cadarn rhag y gelyn.
4. Gad imi aros yn dy babell am byth,a llochesu dan gysgod dy adenydd.Sela
5. Oherwydd clywaist ti, O Dduw, fy addunedau,a gwnaethost ddymuniad y rhai sy'n ofni dy enw.
6. Estyn ddyddiau lawer at oes y brenin,a bydded ei flynyddoedd fel cenedlaethau;
7. bydded wedi ei orseddu gerbron Duw am byth;bydded cariad a gwirionedd yn gwylio drosto.
8. Felly y canmolaf dy enw byth,a thalu fy addunedau ddydd ar ôl dydd.