1. Y mae'r ARGLWYDD yn frenin, cryna'r bobloedd;y mae wedi ei orseddu uwch y cerwbiaid, ysgydwa'r ddaear.
2. Y mae'r ARGLWYDD yn fawr yn Seion,y mae'n ddyrchafedig uwch yr holl bobloedd.
3. Bydded iddynt foli dy enw mawr ac ofnadwy—sanctaidd yw ef.
4. Un cryf sydd frenin; y mae'n caru cyfiawnder.Ti sydd wedi sefydlu uniondeb;gwnaethost farn a chyfiawnder yn Jacob.
5. Dyrchafwch yr ARGLWYDD ein Duw;ymgrymwch o flaen ei droedfainc—sanctaidd yw ef.
6. Yr oedd Moses ac Aaron ymhlith ei offeiriaid,a Samuel ymhlith y rhai a alwodd ar ei enw;galwasant ar yr ARGLWYDD, ac atebodd hwy.
7. Llefarodd wrthynt mewn colofn gwmwl;cadwasant ei dystiolaethau a'r ddeddf a roddodd iddynt.
8. O ARGLWYDD, ein Duw, atebaist hwy;Duw yn maddau fuost iddynt,ond yn dial eu camweddau.
9. Dyrchafwch yr ARGLWYDD ein Duw,ymgrymwch yn ei fynydd sanctaidd—sanctaidd yw'r ARGLWYDD ein Duw.