1. O Arglwydd, buost drugarog wrth dy dir;adferaist lwyddiant i Jacob.
2. Maddeuaist gamwedd dy bobl,a dileu eu holl bechod.Sela
3. Tynnaist dy holl ddigofaint yn ôl,a throi oddi wrth dy lid mawr.
4. Adfer ni eto, O Dduw ein hiachawdwriaeth,a rho heibio dy ddicter tuag atom.
5. A fyddi'n digio wrthym am byth,ac yn dal dig atom am genedlaethau?
6. Oni fyddi'n ein hadfywio eto,er mwyn i'th bobl lawenhau ynot?
7. Dangos i ni dy ffyddlondeb, O ARGLWYDD,a rho dy waredigaeth inni.
8. Bydded imi glywed yr hyn a lefara'r Arglwydd DDUW,oherwydd bydd yn cyhoeddi heddwchi'w bobl ac i'w ffyddloniaid,rhag iddynt droi drachefn at ffolineb.
9. Yn wir, y mae ei waredigaeth yn agos at y rhai sy'n ei ofni,fel bod gogoniant yn aros yn ein tir.
10. Bydd cariad a gwirionedd yn cyfarfod,a chyfiawnder a heddwch yn cusanu ei gilydd.
11. Bydd ffyddlondeb yn tarddu o'r ddaear,a chyfiawnder yn edrych i lawr o'r nefoedd.
12. Bydd yr ARGLWYDD yn rhoi daioni,a'n tir yn rhoi ei gnwd.
13. Bydd cyfiawnder yn mynd o'i flaen,a heddwch yn dilyn yn ôl ei droed.