1. O'r dyfnderau y gwaeddais arnat, O ARGLWYDD.
2. Arglwydd, clyw fy llef;bydded dy glustiau'n agoredi lef fy ngweddi.
3. Os wyt ti, ARGLWYDD, yn cadw cyfrif o gamweddau,pwy, O Arglwydd, a all sefyll?
4. Ond y mae gyda thi faddeuant,fel y cei dy ofni.
5. Disgwyliaf wrth yr ARGLWYDD; y mae fy enaid yn disgwyl,a gobeithiaf yn ei air;
6. y mae fy enaid yn disgwyl wrth yr Arglwyddyn fwy nag y mae'r gwylwyr am y bore,yn fwy nag y mae'r gwylwyr am y bore.
7. O Israel, gobeithia yn yr ARGLWYDD,oherwydd gyda'r ARGLWYDD y mae ffyddlondeb,a chydag ef y mae gwaredigaeth helaeth.
8. Ef sydd yn gwaredu Israeloddi wrth ei holl gamweddau.