1. Yr oeddwn yn llawen pan ddywedasant wrthyf,“Gadewch inni fynd i dŷ'r ARGLWYDD.”
2. Y mae ein traed bellach yn sefyllo fewn dy byrth, O Jerwsalem.
3. Adeiladwyd Jerwsalem yn ddinaslle'r unir y bobl â'i gilydd.
4. Yno yr esgyn y llwythau,llwythau'r ARGLWYDD,fel y gorchmynnwyd i Israel,i roi diolch i enw'r ARGLWYDD.
5. Yno y gosodwyd gorseddfeinciau barn,gorseddfeinciau tŷ Dafydd.
6. Gweddïwch am heddwch i Jerwsalem,“Bydded llwyddiant i'r rhai sy'n dy garu;
7. bydded heddwch o fewn dy furiau,a diogelwch o fewn dy geyrydd.”
8. Er mwyn fy nghydnabod a'm cyfeillion,dywedaf, “Bydded heddwch i ti.”
9. Er mwyn tŷ yr ARGLWYDD ein Duw,ceisiaf ddaioni i ti.