Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24

Hen Destament

Testament Newydd

Josua 6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Jericho oedd gaeëdig a gwarchaeëdig, oherwydd meibion Israel: nid oedd neb yn myned allan, nac yn dyfod i mewn.

2. A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Josua, Gwêl, rhoddais yn dy law di Jericho a'i brenin, gwŷr grymus o nerth.

3. A chwi a amgylchwch y ddinas, chwi ryfelwyr oll, gan fyned o amgylch y ddinas un waith: gwnewch felly chwe diwrnod.

4. A dyged saith o offeiriaid saith o utgyrn o gyrn hyrddod o flaen yr arch: a'r seithfed dydd yr amgylchwch y ddinas saith waith; a lleisied yr offeiriaid â'r utgyrn.

5. A phan ganer yn hirllaes â chorn yr hwrdd, a phan glywoch sain yr utgorn, bloeddied yr holl bobl â bloedd uchel: a syrth mur y ddinas dani hi, ac eled y bobl i fyny bawb ar ei gyfer.

6. A Josua mab Nun a alwodd yr offeiriaid, ac a ddywedodd wrthynt, Codwch arch y cyfamod, a dyged saith o offeiriaid saith o utgyrn o gyrn hyrddod o flaen arch yr Arglwydd.

7. Ac efe a ddywedodd wrth y bobl, Cerddwch, ac amgylchwch y ddinas; a'r hwn sydd arfog, eled o flaen arch yr Arglwydd.

8. A phan ddywedodd Josua wrth y bobl, yna y saith offeiriad, y rhai oedd yn dwyn y saith utgorn o gyrn hyrddod, a gerddasant o flaen yr Arglwydd, ac a leisiasant â'r utgyrn: ac arch cyfamod yr Arglwydd oedd yn myned ar eu hôl hwynt.

9. A'r rhai arfog oedd yn myned o flaen yr offeiriaid oedd yn lleisio â'r utgyrn; a'r fyddin olaf oedd yn myned ar ôl yr arch, a'r offeiriaid yn myned rhagddynt, ac yn lleisio â'r utgyrn.

10. A Josua a orchmynasai i'r bobl, gan ddywedyd, Na floeddiwch, ac na edwch glywed eich llais, ac nac eled gair allan o'ch genau, hyd y dydd y dywedwyf wrthych, Bloeddiwch; yna y bloeddiwch.

11. Felly arch yr Arglwydd a amgylchodd y ddinas, gan fyned o'i hamgylch un waith: a daethant i'r gwersyll, a lletyasant yn y gwersyll.

12. A Josua a gyfododd yn fore; a'r offeiriaid a ddygasant arch yr Arglwydd.

13. A'r saith offeiriad, yn dwyn saith o utgyrn o gyrn hyrddod o flaen arch yr Arglwydd, oeddynt yn myned dan gerdded, ac yn lleisio â'r utgyrn: a'r rhai arfog oedd yn myned o'u blaen hwynt: a'r fyddin olaf oedd yn myned ar ôl arch yr Arglwydd, a'r offeiriaid yn myned rhagddynt, ac yn lleisio â'r utgyrn.

14. Felly yr amgylchynasant y ddinas un waith yr ail ddydd; a dychwelasant i'r gwersyll: fel hyn y gwnaethant chwe diwrnod.

15. Ac ar y seithfed dydd y cyfodasant yn fore ar godiad y wawr, ac yr amgylchasant y ddinas y modd hwnnw, saith waith: yn unig y dwthwn hwnnw yr amgylchasant y ddinas seithwaith.

16. A phan leisiodd yr offeiriaid yn eu hutgyrn y seithfed waith, yna Josua a ddywedodd wrth y bobl, Bloeddiwch; canys rhoddodd yr Arglwydd y ddinas i chwi.

17. A'r ddinas fydd yn ddiofryd‐beth, hi, a'r hyn oll sydd ynddi, i'r Arglwydd: yn unig Rahab y buteinwraig fydd byw, hi a chwbl ag sydd gyda hi yn tŷ; canys hi a guddiodd y cenhadau a anfonasom ni.

18. Ac ymgedwch chwithau oddi wrth y diofryd‐beth, rhag eich gwneuthur eich hun yn ddiofryd‐beth, os cymerwch o'r diofryd‐beth; felly y gwnaech wersyll Israel yn ddiofryd‐beth, ac y trallodech hi.

19. Ond yr holl arian a'r aur, a'r llestri pres a haearn, fyddant gysegredig i'r Arglwydd: deled y rhai hynny i mewn i drysor yr Arglwydd.

20. A bloeddiodd y bobl, pan leisiasant â'r utgyrn. A phan glybu y bobl lais yr utgyrn, yna y bobl a waeddasant â bloedd uchel; a'r mur a syrthiodd i lawr oddi tanodd. Felly y bobl a aethant i fyny i'r ddinas, pob un ar ei gyfer, ac a enillasant y ddinas.

21. A hwy a ddifrodasant yr hyn oll oedd yn y ddinas, yn ŵr ac yn wraig, yn fachgen ac yn hynafgwr, yn eidion, ac yn ddafad, ac yn asyn, â min y cleddyf.

22. A Josua a ddywedodd wrth y ddau ŵr a fuasai yn edrych ansawdd y wlad, Ewch i dŷ y buteinwraig, a dygwch allan oddi yno y wraig, a'r hyn oll sydd iddi, fel y tyngasoch wrthi.

23. Felly y llanciau a fuasai yn edrych ansawdd y wlad, a aethant i mewn, ac a ddygasant allan Rahab, a'i thad, a'i mam, a'i brodyr, a chwbl a'r a feddai hi: dygasant allan hefyd ei holl dylwyth hi, a gosodasant hwynt o'r tu allan i wersyll Israel.

24. A llosgasant y ddinas â thân, a'r hyn oll oedd ynddi: yn unig yr arian a'r aur, a'r llestri pres a haearn, a roddasant hwy yn nhrysor yr Arglwydd.

25. A Josua a gadwodd yn fyw Rahab y buteinwraig, a thylwyth ei thad, a'r hyn oll oedd ganddi; a hi a drigodd ymysg Israel hyd y dydd hwn: am iddi guddio'r cenhadau a anfonasai Josua i chwilio Jericho.

26. A Josua a'u tynghedodd hwy y pryd hwnnw, gan ddywedyd, Melltigedig gerbron yr Arglwydd fyddo y gŵr a gyfyd ac a adeilado y ddinas hon Jericho: yn ei gyntaf‐anedig y seilia efe hi, ac yn ei fab ieuangaf y gesyd efe ei phyrth hi.

27. Felly yr Arglwydd oedd gyda Josua; ac aeth ei glod ef trwy'r holl wlad.