Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24

Hen Destament

Testament Newydd

Josua 18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Holl gynulleidfa meibion Israel a ymgynullasant i Seilo, ac a osodasant yno babell y cyfarfod: a'r wlad oedd wedi ei darostwng o'u blaen hwynt.

2. A saith lwyth oedd yn aros ymysg meibion Israel, i'r rhai ni ranasent eu hetifeddiaeth eto.

3. A Josua a ddywedodd wrth feibion Israel, Pa hyd yr ydych yn esgeuluso myned i oresgyn y wlad a roddes Arglwydd Dduw eich tadau i chwi?

4. Moeswch ohonoch driwyr o bob llwyth; fel yr anfonwyf hwynt, ac y cyfodont, ac y rhodiont y wlad, ac y dosbarthont hi yn ôl eu hetifeddiaeth hwynt; ac y delont ataf drachefn.

5. A hwy a'i rhannant hi yn saith ran. Jwda a saif ar ei derfyn o du'r deau, a thŷ Joseff a safant ar eu terfyn o du'r gogledd.

6. A chwi a ddosberthwch y wlad yn saith ran, a dygwch y dosbarthiadau ataf fi yma; fel y bwriwyf goelbren drosoch yma, o flaen yr Arglwydd ein Duw.

7. Ond ni bydd rhan i'r Lefiaid yn eich mysg chwi; oherwydd offeiriadaeth yr Arglwydd fydd eu hetifeddiaeth hwynt. Gad hefyd, a Reuben, a hanner llwyth Manasse, a dderbyniasant eu hetifeddiaeth o'r tu hwnt i'r Iorddonen, o du'r dwyrain, yr hon a roddodd Moses gwas yr Arglwydd iddynt.

8. A'r gwŷr a gyfodasant, ac a aethant: a Josua a orchmynnodd i'r rhai oedd yn myned i rannu'r wlad, gan ddywedyd, Ewch, a rhodiwch trwy'r wlad, a dosberthwch hi, a dychwelwch ataf fi; ac yma y bwriaf drosoch chwi goelbren gerbron yr Arglwydd yn Seilo.

9. A'r gwŷr a aethant ymaith, ac a gerddasant trwy'r wlad, ac a'i dosbarthasant hi bob yn ddinas, yn saith ran, mewn llyfr; a daethant at Josua i'r gwersyll yn Seilo.

10. A Josua a fwriodd goelbren drostynt hwy gerbron yr Arglwydd yn Seilo: a Josua a rannodd yno y wlad i feibion Israel yn ôl eu rhannau.

11. A choelbren llwyth meibion Benjamin a ddaeth i fyny yn ôl eu teuluoedd: a therfyn eu hetifeddiaeth hwynt a aeth allan rhwng meibion Jwda a meibion Joseff.

12. A'r terfyn oedd iddynt hwy tua'r gogledd o'r Iorddonen: y terfyn hefyd oedd yn myned i fyny gan ystlys Jericho, o du'r gogledd, ac yn myned i fyny trwy'r mynydd tua'r gorllewin: a'i gyrrau eithaf oedd yn anialwch Bethafen.

13. Y terfyn hefyd sydd yn myned oddi yno i Lus, gan ystlys Lus, honno yw Bethel, tua'r deau; a'r terfyn sydd yn disgyn i Ataroth‐adar, i'r mynydd sydd o du'r deau i Beth‐horon isaf.

14. A'r terfyn sydd yn tueddu, ac yn amgylchu cilfach y môr tua'r deau, o'r mynydd sydd ar gyfer Beth‐horon tua'r deau; a'i gyrrau eithaf ef sydd wrth Ciriath‐baal, honno yw Ciriath‐jearim, dinas meibion Jwda. Dyma du y gorllewin.

15. A thu y deau sydd o gwr Ciriath‐jearim; a'r terfyn sydd yn myned tua'r gorllewin, ac yn cyrhaeddyd hyd ffynnon dyfroedd Nefftoa.

16. Y terfyn hefyd sydd yn disgyn tua chwr y mynydd sydd ar gyfer glyn mab Hinnom, yr hwn sydd yn nyffryn y cewri tua'r gogledd; ac y mae efe yn disgyn i ddyffryn Hinnom, gan ystlys y Jebusiaid tua'r deau, ac yn dyfod i waered i ffynnon Rogel.

17. Ac y mae yn tueddu o'r gogledd, ac yn myned i En‐semes, ac yn cyrhaeddyd tua Geliloth, yr hon sydd gyferbyn â rhiw Adummim, ac yn disgyn at faen Bohan mab Reuben:

18. Ac y mae efe yn myned ar hyd yr ystlys ar gyfer Araba tua'r gogledd, ac yn disgyn i Araba.

19. Y terfyn hefyd sydd yn myned rhagddo i ystlys Beth‐hogla tua'r gogledd: a chwr eithaf y terfyn oedd wrth lan y môr heli tua'r gogledd, hyd gwr yr Iorddonen tua'r deau. Dyma derfyn y deau.

20. Yr Iorddonen hefyd sydd derfyn iddo o ystlys y dwyrain. Dyma etifeddiaeth meibion Benjamin, trwy eu terfynau o amgylch, yn ôl eu teuluoedd.

21. A dinasoedd llwyth meibion Benjamin, yn ôl eu teuluoedd, oedd, Jericho, a Beth‐hogla, a glyn Cesis,

22. A Beth‐araba, a Semaraim, a Bethel,

23. Ac Afim, a Phara, ac Offra,

24. A Cheffar‐haammonai, ac Offni, a Gaba; deuddeg o ddinasoedd, a'u pentrefydd:

25. Gibeon, a Rama, a Beeroth,

26. A Mispe, a Cheffira, a Mosa,

27. A Recem, ac Irpeel, a Tharala,

28. A Sela, Eleff, a Jebusi, (honno yw Jerwsalem,) Gibeath, a Chiriath; pedair ar ddeg o ddinasoedd, a'u pentrefydd. Dyma etifeddiaeth meibion Benjamin, yn ôl eu teuluoedd.