Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24

Hen Destament

Testament Newydd

Josua 3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Josua a gyfododd yn fore, a chychwynasant o Sittim, a daethant hyd yr Iorddonen, efe a holl feibion Israel: lletyasant yno, cyn iddynt fyned drosodd.

2. Ac ymhen y tridiau, y llywiawdwyr a dramwyasant trwy ganol y llu;

3. Ac a orchmynasant i'r bobl, gan ddywedyd, Pan weloch chwi arch cyfamod yr Arglwydd eich Duw, a'r offeiriaid y Lefiaid yn ei dwyn hi; yna cychwynnwch chwi o'ch lle, ac ewch ar ei hôl hi.

4. Eto bydded ennyd rhyngoch chwi a hithau, ynghylch dwy fil o gufyddau wrth fesur: na nesewch ati, fel y gwypoch y ffordd y rhodioch ynddi: canys ni thramwyasoch y ffordd hon o'r blaen.

5. A Josua a ddywedodd wrth y bobl, Ymsancteiddiwch: canys yfory y gwna'r Arglwydd ryfeddodau yn eich mysg chwi.

6. Josua hefyd a lefarodd wrth yr offeiriaid, gan ddywedyd, Codwch arch y cyfamod, ac ewch drosodd o flaen y bobl. A hwy a godasant arch y cyfamod, ac a aethant o flaen y bobl.

7. A dywedodd yr Arglwydd wrth Josua, Y dydd hwn y dechreuaf dy fawrhau di yng ngŵydd holl Israel: fel y gwypont, mai megis y bûm gyda Moses, y byddaf gyda thithau.

8. Am hynny gorchymyn di i'r offeiriaid sydd yn dwyn arch y cyfamod, gan ddywedyd, Pan ddeloch hyd gwr dyfroedd yr Iorddonen, sefwch yn yr Iorddonen.

9. A Josua a ddywedodd wrth feibion Israel, Nesewch yma, a gwrandewch eiriau yr Arglwydd eich Duw.

10. Josua hefyd a ddywedodd, Wrth hyn y cewch wybod fod y Duw byw yn eich mysg chwi; a chan yrru y gyr efe allan y Canaaneaid, a'r Hethiaid, a'r Hefiaid, a'r Pheresiaid, a'r Girgasiaid, yr Amoriaid hefyd, a'r Jebusiaid, o'ch blaen chwi.

11. Wele arch cyfamod Arglwydd yr holl ddaear yn myned o'ch blaen chwi i'r Iorddonen.

12. Gan hynny cymerwch yn awr ddeuddengwr o lwythau Israel, un gŵr o bob llwyth.

13. A phan orffwyso gwadnau traed yr offeiriaid, sydd yn dwyn arch Arglwydd IOR yr holl fyd, yn nyfroedd yr Iorddonen, yna dyfroedd yr Iorddonen a dorrir ymaith oddi wrth y dyfroedd sydd yn disgyn oddi uchod: hwy a safant yn bentwr.

14. A phan gychwynnodd y bobl o'u pebyll, i fyned dros yr Iorddonen, a'r offeiriaid oedd yn dwyn arch y cyfamod o flaen y bobl;

15. A phan ddaeth y rhai oedd yn dwyn yr arch hyd yr Iorddonen, a gwlychu o draed yr offeiriaid, oedd yn dwyn yr arch, yng nghwr y dyfroedd, (a'r Iorddonen a lanwai dros ei glannau oll holl ddyddiau y cynhaeaf,)

16. Yna y dyfroedd, y rhai oedd yn disgyn oddi uchod, a safasant; cyfodasant yn bentwr ymhell iawn oddi wrth y ddinas Adam, yr hon sydd o ystlys Saretan: a'r dyfroedd y rhai oedd yn disgyn i fôr y rhos, sef i'r môr heli, a ddarfuant ac a dorrwyd ymaith. Felly y bobl a aethant drosodd ar gyfer Jericho.

17. A'r offeiriaid, y rhai oedd yn dwyn arch cyfamod yr Arglwydd, a safasant ar dir sych, yng nghanol yr Iorddonen, yn daclus: a holl Israel oedd yn myned drosodd ar dir sych, nes darfod i'r holl genedl fyned trwy yr Iorddonen.