Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24

Hen Destament

Testament Newydd

Josua 23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Darfu, ar ôl dyddiau lawer, wedi i'r Arglwydd roddi llonyddwch i Israel gan eu holl elynion o amgylch, i Josua heneiddio a myned mewn dyddiau.

2. A Josua a alwodd am holl Israel, am eu henuriaid, ac am eu penaethiaid, ac am eu barnwyr, ac am eu swyddogion; ac a ddywedodd wrthynt, Myfi a heneiddiais ac a euthum yn oedrannus:

3. Chwithau hefyd a welsoch yr hyn oll a wnaeth yr Arglwydd eich Duw i'r holl genhedloedd hyn, er eich mwyn chwi: canys yr Arglwydd eich Duw yw yr hwn a ymladdodd drosoch.

4. Gwelwch, rhennais i chwi y cenhedloedd hyn a adawyd, yn etifeddiaeth i'ch llwythau chwi, o'r Iorddonen, a'r holl genhedloedd y rhai a dorrais i ymaith, hyd y môr mawr tua'r gorllewin.

5. A'r Arglwydd eich Duw a'u hymlid hwynt o'ch blaen chwi, ac a'u gyr hwynt ymaith allan o'ch gŵydd chwi; a chwi a feddiennwch eu gwlad hwynt, megis y dywedodd yr Arglwydd eich Duw wrthych.

6. Am hynny ymwrolwch yn lew, i gadw ac i wneuthur y cwbl sydd ysgrifenedig yn llyfr cyfraith Moses; fel na chilioch oddi wrthynt, tua'r llaw ddeau na thua'r llaw aswy;

7. Ac na chydymgyfeilloch â'r cenhedloedd yma, y rhai a adawyd gyda chwi; ac na chofioch enw eu duwiau hwynt, ac na thyngoch iddynt, na wasanaethoch hwynt chwaith, ac nac ymgrymoch iddynt:

8. Ond glynu wrth yr Arglwydd eich Duw, fel y gwnaethoch hyd y dydd hwn.

9. Canys yr Arglwydd a yrrodd allan o'ch blaen chwi genhedloedd mawrion a nerthol: ac amdanoch chwi, ni safodd neb yn eich wynebau chwi hyd y dydd hwn.

10. Un gŵr ohonoch a erlid fil: canys yr Arglwydd eich Duw yw yr hwn sydd yn ymladd drosoch, fel y llefarodd wrthych.

11. Ymgedwch gan hynny yn ddyfal ar eich eneidiau, ar i chwi garu yr Arglwydd eich Duw.

12. Canys, os gan ddychwelyd y dychwelwch, ac yr ymlynwch wrth weddill y cenhedloedd yma, y rhai a adawyd gyda chwi; os ymgyfathrechwch â hwynt, ac os ewch i mewn atynt hwy, a hwythau atoch chwithau:

13. Gan wybod gwybyddwch, na yrr yr Arglwydd eich Duw y cenhedloedd hyn mwyach allan o'ch blaen chwi; ond byddant i chwi yn fagl ac yn dramgwydd, ac yn ffrewyll yn eich ystlysau, ac yn ddrain yn eich llygaid, nes eich difa chwi allan o'r wlad dda yma yr hon a roddodd yr Arglwydd eich Duw i chwi.

14. Ac wele fi yn myned heddiw i ffordd yr holl ddaear: a chwi a wyddoch yn eich holl galonnau, ac yn eich holl eneidiau, na phallodd dim o'r holl bethau daionus a lefarodd yr Arglwydd eich Duw amdanoch chwi; hwy a ddaethant oll i chwi, ac ni phallodd dim ohonynt.

15. Ac fel y daeth i chwi bob peth daionus a addawodd yr Arglwydd eich Duw wrthych; felly y dwg yr Arglwydd arnoch chwi bob peth drygionus, nes eich difa chwi allan o'r wlad dda yma a roddodd yr Arglwydd eich Duw i chwi.

16. Pan droseddoch gyfamod yr Arglwydd eich Duw, a orchmynnodd efe i chwi, a myned a gwasanaethu duwiau dieithr, ac ymgrymu iddynt; yna y llidia digofaint yr Arglwydd yn eich erbyn chwi, ac y cyfrgollir chwi yn ebrwydd o'r wlad dda yma a roddodd efe i chwi.