Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24

Hen Destament

Testament Newydd

Josua 5 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Pan glybu holl frenhinoedd yr Amoriaid, y rhai oedd o'r tu hwnt i'r Iorddonen tua'r gorllewin, a holl frenhinoedd y Canaaneaid, y rhai oedd wrth y môr, sychu o'r Arglwydd ddyfroedd yr Iorddonen o flaen meibion Israel, nes eu myned hwy drwodd; yna y digalonnwyd hwynt, fel nad oedd ysbryd mwyach ynddynt, rhag ofn meibion Israel.

2. Y pryd hwnnw y dywedodd yr Arglwydd wrth Josua, Gwna i ti gyllyll llymion, ac enwaeda ar feibion Israel drachefn yr ail waith.

3. A Josua a wnaeth iddo gyllyll llymion, ac a enwaedodd ar feibion Israel, ym mryn y blaengrwyn.

4. A dyma'r achos a wnaeth i Josua enwaedu: Yr holl bobl, sef y gwrywiaid y rhai a ddaethent o'r Aifft, yr holl ryfelwyr, a fuasent feirw yn yr anialwch ar y ffordd, wedi eu dyfod allan o'r Aifft.

5. Canys yr holl bobl a'r a ddaethent allan, oedd enwaededig; ond y bobl oll y rhai a anesid yn yr anialwch, ar y ffordd, wedi eu dyfod hwy allan o'r Aifft, nid enwaedasent arnynt.

6. Canys deugain mlynedd y rhodiasai meibion Israel yn yr anialwch, nes darfod yr holl bobl o'r rhyfelwyr a ddaethent o'r Aifft, y rhai ni wrandawsent ar lef yr Arglwydd: y rhai y tyngasai yr Arglwydd wrthynt, na ddangosai efe iddynt y wlad a dyngasai yr Arglwydd wrth eu tadau y rhoddai efe i ni; sef gwlad yn llifeirio o laeth a mêl.

7. A Josua a enwaedodd ar eu meibion hwy, y rhai a gododd yn eu lle hwynt: canys dienwaededig oeddynt hwy, am nad enwaedasid arnynt ar y ffordd.

8. A phan ddarfu enwaedu ar yr holl bobl; yna yr arosasant yn eu hunlle, yn y gwersyll, nes eu hiacháu.

9. A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Josua, Heddiw y treiglais ymaith waradwydd yr Aifft oddi arnoch: am hynny efe a alwodd enw y lle hwnnw Gilgal, hyd y dydd heddiw.

10. A meibion Israel a wersyllasant yn Gilgal: a hwy a gynaliasant y Pasg, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis, brynhawn, yn rhosydd Jericho.

11. A hwy a fwytasant o hen ŷd y wlad, drannoeth wedi'r Pasg, fara croyw, a chras ŷd, o fewn corff y dydd hwnnw.

12. A'r manna a beidiodd drannoeth wedi iddynt fwyta o hen ŷd y wlad; a manna ni chafodd meibion Israel mwyach, eithr bwytasant o gynnyrch gwlad y Canaaneaid y flwyddyn honno.

13. A phan oedd Josua wrth Jericho, yna efe a ddyrchafodd ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele ŵr yn sefyll gyferbyn ag ef, â'i gleddyf noeth yn ei law. A Josua a aeth ato ef, ac a ddywedodd wrtho, Ai gyda ni yr ydwyt ti, ai gyda'n gwrthwynebwyr?

14. Dywedodd yntau, Nage; eithr yn dywysog llu yr Arglwydd yn awr y deuthum. A Josua a syrthiodd i lawr ar ei wyneb, ac a addolodd; ac a ddywedodd wrtho ef, Beth y mae fy Arglwydd yn ei ddywedyd wrth ei was?

15. A thywysog llu yr Arglwydd a ddywedodd wrth Josua, Datod dy esgidiau oddi am dy draed: canys y lle yr wyt ti yn sefyll arno, sydd sanctaidd. A Josua a wnaeth felly.