Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24

Hen Destament

Testament Newydd

Josua 10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Phan glybu Adonisedec brenin Jerwsalem i Josua ennill Ai, a'i difrodi hi, (fel y gwnaethai efe i Jericho ac i'w brenin, felly y gwnaethai efe i Ai ac i'w brenin,) a heddychu o drigolion Gibeon ag Israel, a'u bod yn eu mysg hwynt:

2. Yna yr ofnasant yn ddirfawr; oblegid dinas fawr oedd Gibeon, fel un o'r dinasoedd brenhinol; ac oherwydd ei bod yn fwy nag Ai; ei holl wŷr hefyd oedd gedyrn.

3. Am hynny Adonisedec brenin Jerwsalem a anfonodd at Hoham brenin Hebron, ac at Piram brenin Jarmuth, ac at Jaffia brenin Lachis, ac at Debir brenin Eglon, gan ddywedyd.

4. Deuwch i fyny ataf fi, a chynorthwywch fi, fel y trawom ni Gibeon: canys hi a heddychodd â Josua, ac â meibion Israel.

5. Am hynny pum brenin yr Amoriaid a ymgynullasant, ac a ddaethant i fyny, sef brenin Jerwsalem, brenin Hebron, brenin Jarmuth, brenin Lachis, a brenin Eglon, hwynt‐hwy a'u holl fyddinoedd, ac a wersyllasant wrth Gibeon, ac a ryfelasant yn ei herbyn hi.

6. A gwŷr Gibeon a anfonasant at Josua i'r gwersyll i Gilgal, gan ddywedyd, Na thyn ymaith dy ddwylo oddi wrth dy weision: tyred i fyny yn fuan atom ni, achub ni hefyd, a chynorthwya ni: canys holl frenhinoedd yr Amoriaid, y rhai sydd yn trigo yn y mynydd‐dir, a ymgynullasant i'n herbyn ni.

7. Felly Josua a esgynnodd o Gilgal, efe a'r holl bobl o ryfel gydag ef, a'r holl gedyrn nerthol.

8. A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Josua, Nac ofna rhagddynt: canys yn dy law di y rhoddais hwynt; ni saif neb ohonynt yn dy wyneb di.

9. Josua gan hynny a ddaeth yn ddiatreg atynt hwy: canys ar hyd y nos yr aeth efe i fyny o Gilgal.

10. A'r Arglwydd a'u drylliodd hwynt o flaen Israel, ac a'u trawodd hwynt â lladdfa fawr yn Gibeon, ac a'u hymlidiodd hwynt ffordd yr eir i fyny i Beth‐horon, ac a'u trawodd hwynt hyd Aseca, ac hyd Macceda.

11. A phan oeddynt yn ffoi o flaen Israel, a hwy yng ngoriwaered Beth‐horon, yr Arglwydd a fwriodd arnynt hwy gerrig mawrion o'r nefoedd hyd Aseca; a buant feirw: amlach oedd y rhai a fu feirw gan y cerrig cenllysg, na'r rhai a laddodd meibion Israel â'r cleddyf.

12. Llefarodd Josua wrth yr Arglwydd y dydd y rhoddodd yr Arglwydd yr Amoriaid o flaen meibion Israel: ac efe a ddywedodd yng ngolwg Israel, O haul, aros yn Gibeon; a thithau, leuad, yn nyffryn Ajalon.

13. A'r haul a arhosodd, a'r lleuad a safodd, nes i'r genedl ddial ar eu gelynion. Onid yw hyn yn ysgrifenedig yn llyfr yr Uniawn? Felly yr haul a safodd yng nghanol y nefoedd, ac ni frysiodd i fachludo dros ddiwrnod cyfan.

14. Ac ni bu y fath ddiwrnod â hwnnw o'i flaen ef, nac ar ei ôl ef, fel y gwrandawai yr Arglwydd ar lef dyn: canys yr Arglwydd a ymladdodd dros Israel.

15. A Josua a ddychwelodd, a holl Israel gydag ef, i'r gwersyll i Gilgal.

16. Ond y pum brenin hynny a ffoesant, ac a ymguddiasant mewn ogof ym Macceda.

17. A mynegwyd i Josua, gan ddywedyd, Y pum brenin a gafwyd ynghudd mewn ogof ym Macceda.

18. A dywedodd Josua, Treiglwch feini mawrion ar enau yr ogof, a gosodwch wrthi wŷr i'w cadw hwynt:

19. Ac na sefwch chwi; erlidiwch ar ôl eich gelynion, a threwch y rhai olaf ohonynt; na adewch iddynt fyned i'w dinasoedd: canys yr Arglwydd eich Duw a'u rhoddodd hwynt yn eich llaw chwi.

20. A phan ddarfu i Josua a meibion Israel eu taro hwynt â lladdfa fawr iawn, nes eu difa; yna y gweddillion a adawsid ohonynt a aethant i'r dinasoedd caerog.

21. A'r holl bobl a ddychwelasant i'r gwersyll at Josua ym Macceda mewn heddwch, heb symud o neb ei dafod yn erbyn meibion Israel.

22. A Josua a ddywedodd, Agorwch enau yr ogof, a dygwch allan y pum brenin hynny ataf fi o'r ogof.

23. A hwy a wnaethant felly, ac a ddygasant allan y pum brenin ato ef o'r ogof; sef brenin Jerwsalem, brenin Hebron, brenin Jarmuth, brenin Lachis, a brenin Eglon.

24. A phan ddygasant hwy y brenhinoedd hynny at Josua, yna Josua a alwodd am holl wŷr Israel, ac a ddywedodd wrth dywysogion y rhyfelwyr, y rhai a aethai gydag ef, Nesewch, gosodwch eich traed ar yddfau y brenhinoedd hyn. A hwy a nesasant, ac a osodasant eu traed ar eu gyddfau hwynt.

25. A Josua a ddywedodd wrthynt, Nac ofnwch, ac nac arswydwch; eithr ymwrolwch, ac ymegnïwch: canys fel hyn y gwna yr Arglwydd i'ch holl elynion yr ydych chwi yn ymladd i'w herbyn.

26. Ac wedi hyn Josua a'u trawodd hwynt, ac a'u rhoddodd i farwolaeth, ac a'u crogodd hwynt ar bum pren: a buant ynghrog ar y prennau hyd yr hwyr.

27. Ac ym mhryd machludo haul, y gorchmynnodd Josua iddynt eu disgyn hwynt oddi ar y prennau, a'u bwrw hwynt i'r ogof yr ymguddiasant ynddi; a bwriasant gerrig mawrion yng ngenau yr ogof, y rhai sydd yno hyd gorff y dydd hwn.

28. Josua hefyd a enillodd Macceda y dwthwn hwnnw, ac a'i trawodd hi â min y cleddyf, ac a ddifrododd ei brenin hi, hwynt‐hwy, a phob enaid ag oedd ynddi; ni adawodd efe un gweddill: canys efe a wnaeth i frenin Macceda, fel y gwnaethai i frenin Jericho.

29. Yna yr aeth Josua a holl Israel gydag ef o Macceda i Libna, ac a ymladdodd yn erbyn Libna.

30. A'r Arglwydd a'i rhoddodd hithau, a'i brenin, yn llaw Israel; ac yntau a'i trawodd hi â min y cleddyf, a phob enaid a'r oedd ynddi; ni adawodd ynddi un yng ngweddill: canys efe a wnaeth i'w brenin hi fel y gwnaethai i frenin Jericho.

31. A Josua a dramwyodd, a holl Israel gydag ef, o Libna i Lachis; ac a wersyllodd wrthi, ac a ymladdodd i'w herbyn.

32. A'r Arglwydd a roddodd Lachis yn llaw Israel; yr hwn a'i henillodd hi yr ail ddydd, ac a'i trawodd hi â min y cleddyf, a phob enaid ag oedd ynddi, yn ôl yr hyn oll a wnaethai efe i Libna.

33. Yna Horam brenin Geser a ddaeth i fyny i gynorthwyo Lachis: a Josua a'i trawodd ef a'i bobl, fel na adawyd iddo ef un yng ngweddill.

34. A Josua a dramwyodd, a holl Israel gydag ef, o Lachis i Eglon: a hwy a wersyllasant wrthi, ac a ymladdasant i'w herbyn.

35. A hwy a'i henillasant hi y diwrnod hwnnw, ac a'i trawsant hi â min y cleddyf; ac efe a ddifrododd bob enaid a'r oedd ynddi y dwthwn hwnnw, yn ôl yr hyn oll a wnaethai efe i Lachis.

36. A Josua a esgynnodd, a holl Israel gydag ef, o Eglon i Hebron; a hwy a ryfelasant i'w herbyn.

37. A hwy a'i henillasant hi, ac a'i trawsant hi â min y cleddyf, a'i brenin, a'i holl ddinasoedd, a phob enaid ag oedd ynddi; ni adawodd efe un yng ngweddill, yn ôl yr hyn oll a wnaethai efe i Eglon: canys efe a'i difrododd hi, a phob enaid ag oedd ynddi.

38. A Josua a ddychwelodd, a holl Israel gydag ef, i Debir; ac a ymladdodd i'w herbyn.

39. Ac efe a'i henillodd hi, ei brenin, a'i holl ddinasoedd; a hwy a'u trawsant hwy â min y cleddyf, ac a ddifrodasant bob enaid ag oedd ynddi; ni adawodd efe un yng ngweddill: fel y gwnaethai efe i Hebron, felly y gwnaeth efe i Debir, ac i'w brenin; megis y gwnaethai efe i Libna, ac i'w brenin.

40. Felly y trawodd Josua yr holl fynydd‐dir, a'r deau, y gwastadedd hefyd, a'r bronnydd, a'u holl frenhinoedd: ni adawodd efe un yng ngweddill; eithr efe a ddifrododd bob perchen anadl, fel y gorchmynasai Arglwydd Dduw Israel.

41. A Josua a'u trawodd hwynt o Cades‐Barnea, hyd Gasa, a holl wlad Gosen, hyd Gibeon.

42. Yr holl frenhinoedd hyn hefyd a'u gwledydd a enillodd Josua ar unwaith: canys Arglwydd Dduw Israel oedd yn ymladd dros Israel.

43. Yna y dychwelodd Josua, a holl Israel gydag ef, i'r gwersyll yn Gilgal.