Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24

Hen Destament

Testament Newydd

Josua 21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yna pennau tadau y Lefiaid a nesasant at Eleasar yr offeiriad, ac at Josua mab Nun, ac at bennau tadau llwythau meibion Israel;

2. Ac a lefarasant wrthynt yn Seilo, o fewn gwlad Canaan, gan ddywedyd, Yr Arglwydd a orchmynnodd, trwy law Moses, roddi i ni ddinasoedd i drigo, a'u meysydd pentrefol i'n hanifeiliaid.

3. A meibion Israel a roddasant i'r Lefiaid o'u hetifeddiaeth, wrth orchymyn yr Arglwydd, y dinasoedd hyn a'u meysydd pentrefol.

4. A daeth y coelbren allan dros deuluoedd y Cohathiaid: ac yr oedd i feibion Aaron yr offeiriad, y rhai oedd o'r Lefiaid, allan o lwyth Jwda, ac o lwyth Simeon, ac o lwyth Benjamin, dair dinas ar ddeg, wrth goelbren.

5. Ac i'r rhan arall o feibion Cohath yr oedd, o deuluoedd llwyth Effraim, ac o lwyth Dan, ac o hanner llwyth Manasse, ddeg dinas, wrth goelbren.

6. Ac i feibion Gerson yr oedd, o deuluoedd llwyth Issachar, ac o lwyth Aser, ac o lwyth Nafftali, ac o hanner llwyth Manasse yn Basan, dair dinas ar ddeg, wrth goelbren.

7. I feibion Merari, wrth eu teuluoedd, yr oedd, o lwyth Reuben, ac o lwyth Gad, ac o lwyth Sabulon, ddeuddeg o ddinasoedd.

8. A meibion Israel a roddasant i'r Lefiaid y dinasoedd hyn, a'u meysydd pentrefol, fel y gorchmynasai yr Arglwydd trwy law Moses, wrth goelbren.

9. A hwy a roddasant, o lwyth meibion Jwda, ac o lwyth meibion Simeon, y dinasoedd hyn a enwir erbyn eu henwau;

10. Fel y byddent i feibion Aaron, o deuluoedd y Cohathiaid, o feibion Lefi: canys iddynt hwy yr oedd y coelbren cyntaf.

11. A rhoddasant iddynt Gaer‐Arba, tad Anac, honno yw Hebron, ym mynydd‐dir Jwda, a'i meysydd pentrefol oddi amgylch.

12. Ond maes y ddinas, a'i phentrefydd, a roddasant i Caleb mab Jeffunne, yn etifeddiaeth iddo ef.

13. Ac i feibion Aaron yr offeiriad y rhoddasant Hebron a'i meysydd pentrefol, yn ddinas nodded i'r llofrudd; a Libna a'i meysydd pentrefol,

14. A Jattir a'i meysydd pentrefol, ac Estemoa a'i meysydd pentrefol,

15. A Holon a'i meysydd pentrefol, a Debir a'i meysydd pentrefol,

16. Ac Ain a'i meysydd pentrefol, a Jwtta a'i meysydd pentrefol, a Beth‐semes a'i meysydd pentrefol: naw dinas o'r ddau lwyth hynny.

17. Ac o lwyth Benjamin, Gibeon a'i meysydd pentrefol, a Geba a'i meysydd pentrefol,

18. Anathoth a'i meysydd pentrefol, ac Almon a'i meysydd pentrefol: pedair dinas.

19. Holl ddinasoedd meibion Aaron yr offeiriaid, oedd dair dinas ar ddeg, a'u meysydd pentrefol.

20. A chan deuluoedd meibion Cohath, y Lefiaid, y rhan arall o feibion Cohath, yr oedd dinasoedd eu coelbren o lwyth Effraim.

21. A hwy a roddasant iddynt yn ddinas nodded y lleiddiad, Sichem a'i meysydd pentrefol, ym mynydd Effraim, a Geser a'i meysydd pentrefol,

22. A Cibsaim a'i meysydd pentrefol, a Beth‐horon a'i meysydd pentrefol: pedair o ddinasoedd.

23. Ac o lwyth Dan, Eltece a'i meysydd pentrefol, Gibbethon a'i meysydd pentrefol.

24. Ajalon a'i meysydd pentrefol, Gath‐Rimmon a'i meysydd pentrefol: pedair o ddinasoedd.

25. Ac o hanner llwyth Manasse, Tanac a'i meysydd pentrefol, a Gath‐Rimmon a'i meysydd pentrefol: dwy ddinas.

26. Yr holl ddinasoedd, y rhai oedd eiddo y rhan arall o deuluoedd meibion Cohath, oedd ddeg, a'u meysydd pentrefol.

27. Ac i feibion Gerson, o deuluoedd y Lefiaid, y rhoddasid, o hanner arall llwyth Manasse, yn ddinas nodded y llofrudd, Golan yn Basan a'i meysydd pentrefol, a Beestera a'i meysydd pentrefol: dwy ddinas.

28. Ac o lwyth Issachar, Cison a'i meysydd pentrefol, Dabareth a'i meysydd pentrefol,

29. Jarmuth a'i meysydd pentrefol, En‐gannim a'i meysydd pentrefol: pedair dinas.

30. Ac o lwyth Aser, Misal a'i meysydd pentrefol, Abdon a'i meysydd pentrefol,

31. Helcath a'i meysydd pentrefol, a Rehob a'i meysydd pentrefol: pedair dinas.

32. Ac o lwyth Nafftali, yn ddinas nodded y lleiddiad, Cedes yn Galilea a'i meysydd pentrefol, a Hammoth‐dor a'i meysydd pentrefol: tair dinas.

33. Holl ddinasoedd y Gersoniaid, yn ôl eu teuluoedd, oedd dair dinas ar ddeg, a'u meysydd pentrefol.

34. Ac i deuluoedd meibion Merari, y rhan arall o'r Lefiaid, y rhoddasid, o lwyth Sabulon, Jocnean a'i meysydd pentrefol, a Carta a'i meysydd pentrefol,

35. Dimna a'i meysydd pentrefol, Nahalal a'i meysydd pentrefol: pedair dinas.

36. Ac o lwyth Reuben, Beser a'i meysydd pentrefol, a Jahasa a'i meysydd pentrefol,

37. Cedemoth a'i meysydd pentrefol, Meffaath a'i meysydd pentrefol: pedair dinas.

38. Ac o lwyth Gad, yn ddinas noddfa y llofrudd, Ramoth yn Gilead a'i meysydd pentrefol, a Mahanaim a'i meysydd pentrefol,

39. Hesbon a'i meysydd pentrefol, Jaser a'i meysydd pentrefol; pedair dinas o gwbl.

40. Holl ddinasoedd meibion Merari, yn ôl eu teuluoedd, sef y rhan arall o deuluoedd y Lefiaid, oedd, wrth eu coelbren, ddeuddeng ninas.

41. Holl ddinasoedd y Lefiaid, ym meddiant meibion Israel, oedd wyth ddinas a deugain, a'u meysydd pentrefol.

42. Y dinasoedd hyn oedd bob un â'u meysydd pentrefol o'u hamgylch. Felly yr oedd yr holl ddinasoedd hyn.

43. A'r Arglwydd a roddodd i Israel yr holl wlad a dyngodd efe ar ei rhoddi wrth eu tadau hwynt: a hwy a'i meddianasant hi, ac a wladychasant ynddi.

44. Yr Arglwydd hefyd a roddodd lonyddwch iddynt hwy o amgylch, yn ôl yr hyn oll a dyngasai efe wrth eu tadau hwynt; ac ni safodd neb yn eu hwyneb hwynt o'u holl elynion; eu holl elynion a roddodd yr Arglwydd yn eu dwylo hwynt.

45. Ni phallodd dim o'r holl bethau da a lefarasai yr Arglwydd wrth dŷ Israel: daeth y cwbl i ben.