1. A rhandir llwyth meibion Jwda, yn ôl eu teuluoedd, ydoedd tua therfyn Edom: anialwch Sin, tua'r deau, oedd eithaf y terfyn deau.
2. A therfyn y deau oedd iddynt hwy o gwr y môr heli, o'r graig sydd yn wynebu tua'r deau.
3. Ac yr oedd yn myned allan o'r deau hyd riw Acrabbim, ac yr oedd yn myned rhagddo i Sin, ac yn myned i fyny o du y deau i Cades‐Barnea; ac yn myned hefyd i Hesron, ac yn esgyn i Adar, ac yn amgylchynu i Carcaa.
4. Ac yr oedd yn myned tuag Asmon, ac yn myned allan i afon yr Aifft; ac eithafoedd y terfyn hwnnw oedd wrth y môr: hyn fydd i chwi yn derfyn deau.
5. A'r terfyn tua'r dwyrain yw y môr heli, hyd eithaf yr Iorddonen: a'r terfyn o du y gogledd, sydd o graig y môr, yn eithaf yr Iorddonen.
6. A'r terfyn hwn oedd yn myned i fyny i Beth‐Hogla, ac yn myned o'r gogledd hyd Beth‐Araba; a'r terfyn hwn oedd yn myned i fyny at faen Bohan mab Reuben.
7. A'r terfyn hwn oedd yn myned i fyny i Debir o ddyffryn Achor, a thua'r gogledd yn edrych tua Gilgal, o flaen rhiw Adummim, yr hon sydd o du y deau i'r afon: y terfyn hefyd sydd yn myned hyd ddyfroedd En‐semes, a'i gwr eithaf sydd wrth En‐rogel.
8. A'r terfyn sydd yn myned i fyny trwy ddyffryn meibion Hinnom, gan ystlys y Jebusiaid o du y deau, honno yw Jerwsalem: y terfyn hefyd sydd yn myned i fyny i ben y mynydd sydd o flaen dyffryn Hinnom, tua'r gorllewin, yr hwn sydd yng nghwr glyn y cewri, tua'r gogledd.
9. A'r terfyn sydd yn cyrhaeddyd o ben y mynydd hyd ffynnon dyfroedd Nefftoa, ac sydd yn myned allan i ddinasoedd mynydd Effron: y terfyn hefyd sydd yn tueddu i Baala, honno yw Ciriath‐jearim.
10. A'r terfyn sydd yn amgylchu o Baala tua'r gorllewin, i fynydd Seir, ac sydd yn myned rhagddo at ystlys mynydd Jearim, o du y gogledd, honno yw Chesalon, ac y mae yn disgyn i Beth‐semes, ac yn myned i Timna.
11. A'r terfyn sydd yn myned i ystlys Ecron, tua'r gogledd: a'r terfyn sydd yn tueddu i Sicron, ac yn myned rhagddo i fynydd Baala, ac yn cyrhaeddyd i Jabneel; a chyrrau eithaf y terfyn sydd wrth y môr.
12. A therfyn y gorllewin yw y môr mawr a'i derfyn. Dyma derfyn meibion Jwda o amgylch, wrth eu teuluoedd.
13. Ac i Caleb mab Jeffunne y rhoddodd efe ran ymysg meibion Jwda, yn ôl gair yr Arglwydd wrth Josua; sef Caer‐Arba, tad yr Anaciaid, honno yw Hebron.
14. A Chaleb a yrrodd oddi yno dri mab Anac, Sesai, ac Ahiman, a Thalmai, meibion Anac.
15. Ac efe a aeth i fyny oddi yno at drigolion Debir; ac enw Debir o'r blaen oedd Ciriath‐Seffer.
16. A dywedodd Caleb, Pwy bynnag a drawo Ciriath‐Seffer, ac a'i henillo hi; iddo ef y rhoddaf Achsa fy merch yn wraig.
17. Ac Othniel mab Cenas, brawd Caleb, a'i henillodd hi. Yntau a roddodd Achsa ei ferch iddo ef yn wraig.
18. A phan ddaeth hi i mewn ato ef, yna hi a'i hanogodd ef i geisio gan ei thad faes: ac a ddisgynnodd oddi ar yr asyn. A dywedodd Caleb wrthi, Beth a fynni di?
19. A hi a ddywedodd, Dyro i mi rodd; canys gwlad y deau a roddaist i mi: dyro i mi hefyd ffynhonnau dyfroedd. Ac efe a roddodd iddi y ffynhonnau uchaf, a'r ffynhonnau isaf.
20. Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Jwda, wrth eu teuluoedd.
21. A'r dinasoedd o du eithaf i lwyth meibion Jwda, tua therfyn Edom, ar du y deau, oeddynt Cabseel, ac Eder, a Jagur,
22. Cina hefyd, a Dimona, ac Adada,
23. Cedes hefyd, a Hasor, ac Ithnan,
24. A Siff, a Thelem, a Bealoth,
25. A Hasor, Hadatta, a Cirioth, a Hesron, honno yw Hasor,
26. Ac Amam, a Sema, a Molada,
27. A Hasar‐Gada, a Hesmon, a Beth‐palet,
28. A Hasar‐sual, a Beer‐seba, a Bisiothia,
29. Baala, ac Iim, ac Asem,
30. Ac Eltolad, a Chesil, a Horma,
31. A Siclag, a Madmanna, a Sansanna,
32. A Lebaoth, a Silhim, ac Ain, a Rimmon: yr holl ddinasoedd oedd naw ar hugain, a'u pentrefydd.
33. Ac yn y dyffryn, Esthaol, a Sorea, ac Asna,
34. A Sanoa, ac En‐gannim, Tappua, ac Enam,
35. Jarmuth, ac Adulam, Socho, ac Aseca,
36. A Saraim, ac Adithaim, a Gedera, a Gederothaim; pedair ar ddeg o ddinasoedd, a'u pentrefydd.
37. Senan, a Hadasa, a Migdal‐Gad,
38. A Dilean, a Mispe, a Joctheel,
39. Lachis, a Boscath, ac Eglon,
40. Chabbon hefyd, a Lahmam, a Chithlis,
41. A Gederoth, Beth‐Dagon, a Naama, a Macceda; un ddinas ar bymtheg, a'u pentrefydd.
42. Libna, ac Ether, ac Asan,
43. A Jiffta, ac Asna, a Nesib,
44. Ceila hefyd, ac Achsib, a Maresa; naw o ddinasoedd, a'u pentrefi.
45. Ecron, a'i threfi, a'i phentrefydd:
46. O Ecron hyd y môr, yr hyn oll oedd gerllaw Asdod, a'u pentrefydd:
47. Asdod, a'i threfydd, a'i phentrefydd; Gasa, a'i threfydd, a'i phentrefydd, hyd afon yr Aifft; a'r môr mawr, a'i derfyn.
48. Ac yn y mynydd‐dir; Samir, a Jattir, a Socho,
49. A Danna, a Ciriath‐sannath, honno yw Debir,
50. Ac Anab, ac Astemo, ac Anim,
51. A Gosen, a Holon, a Gilo; un ddinas ar ddeg, a'u pentrefydd.
52. Arab, a Duma, ac Esean,
53. A Janum, a Beth‐tappua, ac Affeca,
54. A Humta, a Chaer‐Arba, honno yw Hebron, a Sïor; naw dinas, a'u trefydd.
55. Maon, Carmel, a Siff, a Jutta,
56. A Jesreel, a Jocdeam, a Sanoa,
57. Cain, Gibea, a Thimna; deg o ddinasoedd, a'u pentrefydd.
58. Halhul, Beth‐sur, a Gedor,
59. A Maarath, a Beth‐anoth, ac Eltecon; chwech o ddinasoedd, a'u pentrefydd.
60. Ciriath‐baal, honno yw Ciriath‐jearim, a Rabba; dwy ddinas, a'u pentrefydd.
61. Yn yr anialwch; Beth‐araba, Midin, a Sechacha,
62. A Nibsan, a dinas yr halen, ac En‐gedi; chwech o ddinasoedd, a'u pentrefydd.
63. Ond ni allodd meibion Jwda yrru allan y Jebusiaid, trigolion Jerwsalem: am hynny y trig y Jebusiaid gyda meibion Jwda yn Jerwsalem hyd y dydd hwn.