Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24

Hen Destament

Testament Newydd

Josua 1 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac wedi marwolaeth Moses, gwas yr Arglwydd, y llefarodd yr Arglwydd wrth Josua mab Nun, gweinidog Moses, gan ddywedyd,

2. Moses fy ngwas a fu farw: gan hynny cyfod yn awr, dos dros yr Iorddonen hon, ti, a'r holl bobl hyn, i'r wlad yr ydwyf fi yn ei rhoddi iddynt hwy, meibion Israel.

3. Pob man y sango gwadn eich troed chwi arno, a roddais i chwi; fel y lleferais wrth Moses.

4. O'r anialwch, a'r Libanus yma, hyd yr afon fawr, afon Ewffrates, holl wlad yr Hethiaid, hyd y môr mawr, tua machludiad yr haul, fydd eich terfyn chwi.

5. Ni saif neb o'th flaen di holl ddyddiau dy einioes: megis y bûm gyda Moses, y byddaf gyda thithau: ni'th adawaf, ac ni'th wrthodaf.

6. Ymgryfha, ac ymwrola: canys ti a wnei i'r bobl hyn etifeddu'r wlad yr hon a dyngais wrth eu tadau ar ei rhoddi iddynt.

7. Yn unig ymgryfha, ac ymwrola yn lew, i gadw ar wneuthur yn ôl yr holl gyfraith a orchmynnodd Moses fy ngwas i ti: na ogwydda oddi wrthi, ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy; fel y ffynnech i ba le bynnag yr elych.

8. Nac ymadawed llyfr y gyfraith hon o'th enau, eithr myfyria ynddo ddydd a nos; fel y cedwych ar wneuthur yn ôl yr hyn oll sydd ysgrifenedig ynddo: canys yna y llwyddi yn dy ffyrdd, ac yna y ffynni.

9. Oni orchmynnais i ti? Ymgryfha, ac ymwrola; nac arswyda, ac nac ofna: canys yr Arglwydd dy Dduw fydd gyda thi, i ba le bynnag yr elych.

10. Yna Josua a orchmynnodd i lywodraethwyr y bobl, gan ddywedyd,

11. Tramwywch trwy ganol y llu, a gorchmynnwch i'r bobl, gan ddywedyd, Paratowch i chwi luniaeth: canys o fewn tridiau y byddwch chwi yn myned dros yr Iorddonen hon, i ddyfod i feddiannu'r wlad y mae yr Arglwydd eich Duw yn ei rhoddi i chwi i'w meddiannu.

12. Wrth y Reubeniaid hefyd, ac wrth y Gadiaid, ac wrth hanner llwyth Manasse, y llefarodd Josua, gan ddywedyd,

13. Cofiwch y gair a orchmynnodd Moses gwas yr Arglwydd i chwi, gan ddywedyd, Yr Arglwydd eich Duw a esmwythaodd arnoch, ac a roddodd i chwi y wlad hon.

14. Eich gwragedd, eich plant, a'ch anifeiliaid, a drigant yn y wlad a roddodd Moses i chwi o'r tu yma i'r Iorddonen: ond chwychwi a ewch drosodd yn arfogion o flaen eich brodyr, y sawl ydych gedyrn o nerth, a chynorthwywch hwynt;

15. Nes rhoddi o'r Arglwydd lonyddwch i'ch brodyr, fel i chwithau, a meddiannu ohonynt hwythau y wlad y mae yr Arglwydd eich Duw yn ei rhoddi iddynt: yna dychwelwch i wlad eich etifeddiaeth, a meddiennwch hi, yr hon a roddodd Moses gwas yr Arglwydd i chwi, o'r tu yma i'r Iorddonen, tua chodiad yr haul.

16. Hwythau a atebasant Josua, gan ddywedyd, Ni a wnawn yr hyn oll a orchmynnaist i ni; awn hefyd i ba le bynnag yr anfonych ni.

17. Fel y gwrandawsom ar Moses ym mhob peth, felly y gwrandawn arnat tithau: yn unig bydded yr Arglwydd dy Dduw gyda thi, megis y bu gyda Moses.

18. Pwy bynnag a anufuddhao dy orchymyn, ac ni wrandawo ar dy ymadroddion, yn yr hyn oll a orchmynnych iddo, rhodder ef i farwolaeth: yn unig ymgryfha, ac ymwrola.