Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24

Hen Destament

Testament Newydd

Josua 17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac yr oedd rhandir llwyth Manasse, (canys efe oedd gyntaf‐anedig Joseff,) i Machir, cyntaf‐anedig Manasse, tad Gilead: oherwydd ei fod efe yn rhyfelwr, yr oedd Gilead a Basan yn eiddo ef.

2. Ac yr oedd rhandir i'r rhan arall o feibion Manasse, yn ôl eu teuluoedd; sef i feibion Abieser, ac i feibion Helec, ac i feibion Asriel, ac i feibion Sichem, ac i feibion Heffer, ac i feibion Semida: dyma feibion Manasse mab Joseff, sef y gwrywiaid, yn ôl eu teuluoedd.

3. Ond Salffaad mab Heffer, mab Gilead, mab Machir, mab Manasse, nid oedd iddo feibion, ond merched: a dyma enwau ei ferched ef; Mala, a Noa, Hogla, Milca, a Thirsa:

4. Y rhai a ddaethant o flaen Eleasar yr offeiriad, ac o flaen Josua mab Nun, ac o flaen y tywysogion, gan ddywedyd, Yr Arglwydd a orchmynnodd i Moses roddi i ni etifeddiaeth ymysg ein brodyr: am hynny efe a roddodd iddynt etifeddiaeth, yn ôl gair yr Arglwydd, ymysg brodyr eu tad.

5. A deg rhandir a syrthiodd i Manasse, heblaw gwlad Gilead a Basan, y rhai sydd tu hwnt i'r Iorddonen;

6. Canys merched Manasse a etifeddasant etifeddiaeth ymysg ei feibion ef: a gwlad Gilead oedd i'r rhan arall o feibion Manasse.

7. A therfyn Manasse oedd o Aser i Michmethath, yr hon sydd gyferbyn â Sichem; a'r terfyn oedd yn myned ar y llaw ddeau, hyd breswylwyr Entappua.

8. Gwlad Tappua oedd eiddo Manasse: ond Tappua, yr hon oedd ar derfyn Manasse, oedd eiddo meibion Effraim.

9. A'r terfyn sydd yn myned i waered i afon Cana, o du deau yr afon. Y dinasoedd hyn, eiddo Effraim, oedd ymhlith dinasoedd Manasse: a therfyn Manasse sydd o du y gogledd i'r afon, a'i ddiwedd oedd y môr.

10. Y deau oedd eiddo Effraim, a'r gogledd eiddo Manasse; a'r môr oedd ei derfyn ef: ac yn Aser yr oeddynt yn cyfarfod, o'r gogledd; ac yn Issachar, o'r dwyrain.

11. Yn Issachar hefyd ac yn Aser yr oedd gan Manasse, Beth‐sean a'i threfydd, ac Ibleam a'i threfydd, a thrigolion Dor a'i threfydd, a thrigolion En‐dor a'i threfydd, a phreswylwyr Taanach a'i threfydd, a thrigolion Megido a'i threfydd; tair talaith.

12. Ond ni allodd meibion Manasse yrru ymaith drigolion y dinasoedd hynny; eithr mynnodd y Canaaneaid breswylio yn y wlad honno.

13. Eto pan gryfhaodd meibion Israel, hwy a osodasant y Canaaneaid dan dreth: ni yrasant hwynt ymaith yn llwyr.

14. A meibion Joseff a lefarasant wrth Josua, gan ddywedyd, Paham y rhoddaist i mi, yn etifeddiaeth, un afael ac un rhan, a minnau yn bobl aml, wedi i'r Arglwydd hyd yn hyn fy mendithio?

15. A Josua a ddywedodd wrthynt, Os pobl aml ydwyt, dos i fyny i'r coed, a thor goed i ti yno yng ngwlad y Pheresiaid, a'r cewri, od yw mynydd Effraim yn gyfyng i ti.

16. A meibion Joseff a ddywedasant, Ni bydd y mynydd ddigon i ni: hefyd y mae cerbydau heyrn gan yr holl Ganaaneaid sydd yn trigo yn y dyffryndir, gan y rhai sydd yn Beth‐sean a'i threfi, a chan y rhai sydd yng nglyn Jesreel.

17. A Josua a ddywedodd wrth dŷ Joseff, wrth Effraim ac wrth Manasse, gan ddywedyd, Pobl aml ydwyt, a nerth mawr sydd gennyt: ni fydd i ti un rhan yn unig:

18. Eithr bydd y mynydd eiddot ti: canys coediog yw, arloesa ef; a bydd ei eithafoedd ef eiddot ti: canys ti a yrri ymaith y Canaaneaid, er bod cerbydau heyrn ganddynt, ac er eu bod yn gryfion.