Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24

Hen Destament

Testament Newydd

Josua 12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Dyma frenhinoedd y wlad, y rhai a drawodd meibion Israel, ac a feddianasant eu gwlad hwynt o'r tu hwnt i'r Iorddonen tua chodiad yr haul; o afon Arnon hyd fynydd Hermon, a'r holl wastadedd tua'r dwyrain:

2. Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon, ac yn arglwyddiaethu o Aroer, yr hon sydd ar fin yr afon Arnon, ac o ganol yr afon, ac o hanner Gilead hyd yr afon Jabboc, ym mro meibion Ammon;

3. Ac o'r gwastadedd hyd fôr Cinneroth o du y dwyrain, ac hyd fôr y gwastadedd, sef y môr heli, o du y dwyrain, tua Beth‐jesimoth; ac o du y deau, dan Asdoth‐Pisga:

4. A goror Og brenin Basan, yr hwn oedd o weddill y cewri, ac oedd yn trigo yn Astaroth ac yn Edrei;

5. Ac efe oedd yn arglwyddiaethu ym mynydd Hermon, ac yn Salcha, ac yn holl Basan, hyd derfyn y Gesuriaid, a'r Maachathiaid, a hanner Gilead, terfyn Sehon brenin Hesbon.

6. Moses gwas yr Arglwydd a meibion Israel a'u trawsant hwy: a Moses gwas yr Arglwydd a'i rhoddodd hi yn etifeddiaeth i'r Reubeniaid, ac i'r Gadiaid, ac i hanner llwyth Manasse.

7. Dyma hefyd frenhinoedd y wlad y rhai a drawodd Josua a meibion Israel o'r tu yma i'r Iorddonen o du y gorllewin, o Baal‐Gad, yng nglyn Libanus, hyd fynydd Halac, yr hwn sydd yn myned i fyny i Seir; a Josua a'i rhoddodd hi i lwythau Israel yn etifeddiaeth yn ôl eu rhannau;

8. Yn y mynydd, ac yn y dyffryn, ac yn y gwastadedd, ac yn y bronnydd, ac yn yr anialwch, ac yn y deau; yr Hethiaid, yr Amoriaid, a'r Canaaneaid, y Pheresiaid, yr Hefiaid, a'r Jebusiaid:

9. Brenin Jericho, yn un; brenin Ai, yr hwn oedd o ystlys Bethel, yn un;

10. Brenin Jerwsalem, yn un; brenin Hebron, yn un;

11. Brenin Jarmuth, yn un; brenin Lachis, yn un;

12. Brenin Eglon, yn un; brenin Geser, yn un;

13. Brenin Debir, yn un; brenin Geder, yn un;

14. Brenin Horma, yn un; brenin Arad, yn un;

15. Brenin Libna, yn un; brenin Adulam, yn un;

16. Brenin Macceda, yn un; brenin Bethel, yn un;

17. Brenin Tappua, yn un; brenin Heffer, yn un;

18. Brenin Affec, yn un; brenin Lasaron, yn un;

19. Brenin Madon, yn un; brenin Hasor, yn un;

20. Brenin Simron‐Meron, yn un; brenin Achsaff, yn un;

21. Brenin Taanach, yn un; brenin Megido, yn un;

22. Brenin Cades, yn un; brenin Jocneam o Carmel, yn un;

23. Brenin Dor yn ardal Dor, yn un; brenin y cenhedloedd o Gilgal, yn un;

24. Brenin Tirsa, yn un: yr holl frenhinoedd oedd un ar ddeg ar hugain.