A Josua a'u tynghedodd hwy y pryd hwnnw, gan ddywedyd, Melltigedig gerbron yr Arglwydd fyddo y gŵr a gyfyd ac a adeilado y ddinas hon Jericho: yn ei gyntaf‐anedig y seilia efe hi, ac yn ei fab ieuangaf y gesyd efe ei phyrth hi.