Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24

Hen Destament

Testament Newydd

Josua 8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Josua, Nac ofna, ac nac arswyda: cymer gyda thi yr holl bobl o ryfel, a chyfod, dos i fyny i Ai: gwêl, mi a roddais yn dy law di frenin Ai, a'i bobl, ei ddinas hefyd, a'i wlad.

2. A thi a wnei i Ai a'i brenin, megis y gwnaethost i Jericho ac i'w brenin: eto ei hanrhaith a'i hanifeiliaid a ysglyfaethwch i chwi eich hunain: gosod gynllwyn yn erbyn y ddinas, o'r tu cefn iddi.

3. Yna Josua a gyfododd, a'r holl bobl o ryfel, i fyned i fyny i Ai: a Josua a ddetholodd ddeng mil ar hugain o wŷr cedyrn nerthol, ac a'u hanfonodd ymaith liw nos:

4. Ac efe a orchmynnodd iddynt, gan ddywedyd, Gwelwch, chwi a gynllwynwch yn erbyn y ddinas, o'r tu cefn i'r ddinas: nac ewch ymhell iawn oddi wrth y ddinas, ond byddwch bawb oll yn barod.

5. Minnau hefyd, a'r holl bobl sydd gyda mi, a nesawn at y ddinas: a phan ddelont allan i'n cyfarfod ni, megis y waith gyntaf, yna ni a ffown o'u blaen hwynt,

6. (Canys hwy a ddeuant allan ar ein hôl ni,) nes i ni eu tynnu hwynt allan o'r ddinas; oblegid hwy a ddywedant, Ffoi y maent o'n blaen ni, fel y waith gyntaf: felly y ffown o'u blaen hwynt.

7. Yna chwi a godwch o'r cynllwyn, ac a oresgynnwch y ddinas: canys yr Arglwydd eich Duw a'i dyry hi yn eich llaw chwi.

8. A phan enilloch y ddinas, llosgwch y ddinas â thân: gwnewch yn ôl gair yr Arglwydd. Gwelwch, mi a orchmynnais i chwi.

9. Felly Josua a'u hanfonodd; a hwy a aethant i gynllwyn, ac a arosasant rhwng Bethel ac Ai, o du'r gorllewin i Ai: a Josua a letyodd y noson honno ymysg y bobl.

10. A Josua a gyfododd yn fore, ac a gyfrifodd y bobl; ac a aeth i fyny, efe a henuriaid Israel, o flaen y bobl, tuag at Ai.

11. A'r holl bobl o ryfel, y rhai oedd gydag ef, a aethant i fyny, ac a nesasant; daethant hefyd gyferbyn â'r ddinas, a gwersyllasant o du'r gogledd i Ai: a glyn oedd rhyngddynt hwy ac Ai.

12. Ac efe a gymerth ynghylch pum mil o wŷr, ac a'u gosododd hwynt i gynllwyn rhwng Bethel ac Ai, o du'r gorllewin i'r ddinas.

13. A'r bobl a osodasant yr holl wersyllau, y rhai oedd o du'r gogledd i'r ddinas, a'r cynllwynwyr o du'r gorllewin i'r ddinas: a Josua a aeth y noson honno i ganol y dyffryn.

14. A phan welodd brenin Ai hynny, yna gwŷr y ddinas a frysiasant, ac a foregodasant, ac a aethant allan i gyfarfod Israel i ryfel, efe a'i holl bobl, ar amser nodedig, ar hyd wyneb y gwastadedd: canys ni wyddai efe fod cynllwyn iddo, o'r tu cefn i'r ddinas.

15. A Josua a holl Israel, fel pe trawsid hwy o'u blaen hwynt, a ffoesant ar hyd yr anialwch.

16. A'r holl bobl, y rhai oedd yn y ddinas, a alwyd ynghyd, i erlid ar eu hôl hwynt: a hwy a erlidiasant ar ôl Josua, ac a dynnwyd oddi wrth y ddinas.

17. Ac ni adawyd gŵr yn Ai, nac yn Bethel, a'r nad aethant allan ar ôl Israel: a gadawsant y ddinas yn agored, ac erlidiasant ar ôl Israel.

18. A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Josua, Estyn y waywffon sydd yn dy law tuag at Ai: canys yn dy law di y rhoddaf hi. A Josua a estynnodd y waywffon oedd yn ei law tua'r ddinas.

19. A'r cynllwynwyr a gyfodasant yn ebrwydd o'u lle, ac a redasant, pan estynnodd efe ei law: daethant hefyd i'r ddinas, ac enillasant hi; ac a frysiasant, ac a losgasant y ddinas â thân.

20. A gwŷr Ai a droesant yn eu hôl, ac a edrychasant; ac wele, mwg y ddinas a ddyrchafodd hyd y nefoedd; ac nid oedd ganddynt hwy nerth i ffoi yma nac acw: canys y bobl y rhai a ffoesent i'r anialwch, a ddychwelodd yn erbyn y rhai oedd yn erlid.

21. A phan welodd Josua a holl Israel i'r cynllwynwyr ennill y ddinas, a dyrchafu o fwg y ddinas, yna hwy a ddychwelasant, ac a drawsant wŷr Ai.

22. A'r lleill a aethant allan o'r ddinas i'w cyfarfod; felly yr oeddynt yng nghanol Israel, y rhai hyn o'r tu yma, a'r lleill o'r tu acw: a thrawsant hwynt, fel na adawyd un yng ngweddill nac yn ddihangol ohonynt.

23. A brenin Ai a ddaliasant hwy yn fyw; a dygasant ef at Josua.

24. Pan ddarfu i Israel ladd holl breswylwyr Ai yn y maes, yn yr anialwch lle yr erlidiasent hwynt, a phan syrthiasent hwy oll gan fin y cleddyf, nes eu darfod; yna holl Israel a ddychwelasant i Ai, a thrawsant hi â min y cleddyf.

25. A chwbl a'r a syrthiasant y dwthwn hwnnw, yn wŷr ac yn wragedd, oeddynt ddeuddeng mil; sef holl wŷr Ai.

26. Canys ni thynnodd Josua ei law yn ei hôl, yr hon a estynasai efe gyda'r waywffon, nes difetha holl drigolion Ai.

27. Yn unig yr anifeiliaid, ac anrhaith y ddinas, a ysglyfaethodd yr Israeliaid iddynt eu hun; yn ôl gair yr Arglwydd, yr hwn a orchmynasai efe i Josua.

28. A Josua a losgodd Ai, ac a'i gwnaeth hi yn garnedd dragywydd, ac yn ddiffeithwch hyd y dydd hwn.

29. Ac efe a grogodd frenin Ai ar bren hyd yr hwyr: ac wedi machlud haul, y gorchmynnodd Josua iddynt ddisgyn ei gelain ef oddi ar y pren, a'i bwrw i ddrws porth y ddinas; a gosodasant garnedd fawr o gerrig arni hyd y dydd hwn.

30. Yna Josua a adeiladodd allor i Arglwydd Dduw Israel ym mynydd Ebal,

31. Megis y gorchmynasai Moses gwas yr Arglwydd i feibion Israel, fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr cyfraith Moses, allor o gerrig cyfain, y rhai ni ddyrchafasid haearn arnynt: a hwy a offrymasant arni boethoffrymau i'r Arglwydd, ac a aberthasant ebyrth hedd.

32. Ac efe a ysgrifennodd yno ar y meini o gyfraith Moses, yr hon a ysgrifenasai efe yng ngŵydd meibion Israel.

33. A holl Israel, a'u henuriaid, eu swyddogion hefyd, a'u barnwyr, oedd yn sefyll oddeutu yr arch, gerbron yr offeiriaid y Lefiaid, y rhai oedd yn dwyn arch cyfamod yr Arglwydd, yn gystal yr estron a'r priodor: eu hanner oedd ar gyfer mynydd Garisim, a'u hanner ar gyfer mynydd Ebal; fel y gorchmynasai Moses gwas yr Arglwydd o'r blaen fendithio pobl Israel.

34. Wedi hynny efe a ddarllenodd holl eiriau y gyfraith, y fendith a'r felltith, yn ôl y cwbl sydd ysgrifenedig yn llyfr y gyfraith.

35. Nid oedd air o'r hyn oll a orchmynasai Moses, a'r nas darllenodd Josua gerbron holl gynulleidfa Israel, a'r gwragedd, a'r plant, a'r dieithr yr hwn oedd yn rhodio yn eu mysg hwynt.