Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48

Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,

2. Tithau, fab dyn, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw wrth dir Israel; Diwedd, diwedd a ddaeth ar bedair congl y tir.

3. Daeth yr awr hon ddiwedd arnat, a mi a anfonaf fy nig arnat ti; barnaf di hefyd yn ôl dy ffyrdd, a rhoddaf dy holl ffieidd‐dra arnat.

4. Fy llygad hefyd ni'th arbed di, ac ni thosturiaf: eithr rhoddaf dy ffyrdd arnat ti, a'th ffieidd‐dra fydd yn dy ganol di: fel y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd.

5. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Drwg, drwg unig, wele, a ddaeth.

6. Diwedd a ddaeth, daeth diwedd: y mae yn gwylio amdanat; wele, efe a ddaeth.

7. Daeth y boregwaith atat, breswylydd y tir: daeth yr amser, agos yw y dydd terfysg, ac nid atsain mynyddoedd.

8. Weithian ar fyrder y tywalltaf fy llid arnat, ac y gorffennaf fy nig wrthyt: barnaf di hefyd yn ôl dy ffyrdd, a rhoddaf dy holl ffieidd‐dra arnat.

9. A'm llygad nid arbed, ac ni thosturiaf: rhoddaf arnat yn ôl dy ffyrdd, a'th ffieidd‐dra a fydd yn dy ganol di; a chewch wybod mai myfi yr Arglwydd sydd yn taro.

10. Wele y dydd, wele efe yn dyfod: y boregwaith a aeth allan; blodeuodd y wialen, blagurodd balchder.

11. Cyfododd traha yn wialen drygioni: ni bydd un ohonynt, nac o'u lliaws, nac o'r eiddynt, na galar drostynt.

12. Yr amser a ddaeth, y dydd a nesaodd: na lawenyched y prynwr, ac na thristaed y gwerthwr: canys mae dicllonedd ar ei holl liaws hi.

13. Canys y gwerthydd ni ddychwel at yr hyn a werthwyd, er eu bod eto yn fyw: oblegid y weledigaeth sydd am ei holl liaws, y rhai ni ddychwelant: ac nid ymgryfha neb yn anwiredd ei fuchedd.

14. Utganasant yr utgorn, i baratoi pawb: eto nid â neb i'r rhyfel; am fod fy nicllonedd yn erbyn eu holl liaws.

15. Y cleddyf fydd oddi allan, yr haint hefyd a'r newyn o fewn: yr hwn fyddo yn y maes, a fydd farw gan gleddyf; a'r hwn a fyddo yn y ddinas, newyn a haint a'i difa ef.

16. Eto eu rhai dihangol hwy a ddihangant, ac ar y mynyddoedd y byddant hwy i gyd fel colomennod y dyffryn, yn griddfan, bob un am ei anwiredd.

17. Yr holl ddwylo a laesant, a'r holl liniau a ânt yn ddwfr.

18. Ymwregysant hefyd mewn sachliain, ac arswyd a'u toa hwynt; a bydd cywilydd ar bob wyneb, a moelni ar eu holl bennau hwynt.

19. Eu harian a daflant i'r heolydd, a'u haur a roir heibio: eu harian na'u haur ni ddichon eu gwared hwynt yn nydd dicter yr Arglwydd: eu henaid ni ddiwallant, a'u coluddion ni lanwant: oherwydd tramgwydd eu hanwiredd ydyw.

20. A thegwch ei harddwch ef a osododd efe yn rhagoriaeth: ond gwnaethant ynddo ddelwau eu ffieidd‐dra a'u brynti: am hynny y rhoddais ef ymhell oddi wrthynt.

21. Ac mi a'i rhoddaf yn llaw dieithriaid yn ysbail, ac yn anrhaith i rai drygionus y tir; a hwy a'i halogant ef.

22. Troaf hefyd fy wyneb oddi wrthynt, a halogant fy nirgelfa: ie, anrheithwyr a ddaw iddi, ac a'i halogant.

23. Gwna gadwyn; canys llanwyd y tir o farn waedlyd, a'r ddinas sydd lawn o drais.

24. Am hynny y dygaf rai gwaethaf y cenhedloedd, fel y meddiannont eu tai hwynt: gwnaf hefyd i falchder y cedyrn beidio; a'u cysegroedd a halogir.

25. Y mae dinistr yn dyfod; a hwy a geisiant heddwch, ac nis cânt.

26. Daw trychineb ar drychineb, a bydd chwedl ar chwedl: yna y ceisiant weledigaeth gan y proffwyd; ond cyfraith a gyll gan yr offeiriad, a chyngor gan yr henuriaid.

27. Y brenin a alara, a'r tywysog a wisgir ag anrhaith, a dwylo pobl y tir a drallodir: gwnaf â hwynt yn ôl eu ffordd, ac â'u barnedigaethau y barnaf hwynt; fel y gwybyddont mai myfi yw yr Arglwydd.