Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48

Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 31 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac yn y trydydd mis o'r unfed flwyddyn ar ddeg, ar y dydd cyntaf o'r mis, y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,

2. Dywed, fab dyn, wrth Pharo brenin yr Aifft, ac wrth ei liaws, I bwy yr ydwyt debyg yn dy fawredd?

3. Wele, Assur oedd gedrwydden yn Libanus, yn deg ei cheinciau, a'i brig yn cysgodi, ac yn uchel ei huchder, a'i brigyn oedd rhwng y tewfrig.

4. Dyfroedd a'i maethasai hi, y dyfnder a'i dyrchafasai, â'i hafonydd yn cerdded o amgylch ei phlanfa; bwriodd hefyd ei ffrydiau at holl goed y maes.

5. Am hynny yr ymddyrchafodd ei huchder hi goruwch holl goed y maes, a'i cheinciau a amlhasant, a'i changhennau a ymestynasant, oherwydd dyfroedd lawer, pan fwriodd hi allan.

6. Holl ehediaid y nefoedd a nythent yn ei cheinciau hi, a holl fwystfilod y maes a lydnent dan ei changhennau hi; ie, yr holl genhedloedd lluosog a eisteddent dan ei chysgod hi.

7. Felly teg ydoedd hi yn ei mawredd, yn hyd ei brig; oherwydd ei gwraidd ydoedd wrth ddyfroedd lawer.

8. Y cedrwydd yng ngardd Duw ni allent ei chuddio hi: y ffynidwydd nid oeddynt debyg i'w cheinciau hi, a'r ffawydd nid oeddynt fel ei changhennau hi; ac un pren yng ngardd yr Arglwydd nid ydoedd debyg iddi hi yn ei thegwch.

9. Gwnaethwn hi yn deg gan liaws ei changhennau: a holl goed Eden, y rhai oedd yng ngardd Duw, a genfigenasant wrthi hi.

10. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Oherwydd ymddyrchafu ohonot mewn uchder, a rhoddi ohoni ei brig ymysg y tewfrig, ac ymddyrchafu ei chalon yn ei huchder;

11. Am hynny y rhoddais hi yn llaw cadarn y cenhedloedd: gan wneuthur y gwna efe iddi; am ei drygioni y bwriais hi allan.

12. A dieithriaid, rhai ofnadwy y cenhedloedd, a'i torasant hi ymaith, ac a'i gadawsant hi: ar y mynyddoedd ac yn yr holl ddyffrynnoedd y syrthiodd ei brig hi, a'i changhennau a dorrwyd yn holl afonydd y ddaear; a holl bobloedd y tir a ddisgynasant o'i chysgod hi, ac a'i gadawsant hi.

13. Holl ehediaid y nefoedd a drigant ar ei chyff hi, a holl fwystfilod y maes a fyddant ar ei changhennau hi;

14. Fel nad ymddyrchafo holl goed y dyfroedd yn eu huchder, ac na roddont eu brigyn rhwng y tewfrig, ac na safo yr holl goed dyfradwy yn eu huchder: canys rhoddwyd hwynt oll i farwolaeth yn y tir isaf yng nghanol meibion dynion, gyda'r rhai a ddisgynnant i'r pwll.

15. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Yn y dydd y disgynnodd hi i'r bedd, gwneuthum alaru: toais y dyfnder amdani hi, ac ateliais ei hafonydd, fel yr ataliwyd dyfroedd lawer; gwneuthum i Libanus alaru amdani hi, ac yr ydoedd ar holl goed y maes lesmair amdani hi.

16. Gan sŵn ei chwymp hi y cynhyrfais y cenhedloedd, pan wneuthum iddi ddisgyn i uffern gyda'r rhai a ddisgynnant i'r pwll; a holl goed Eden, y dewis a'r gorau yn Libanus, y dyfradwy oll, a ymgysurant yn y tir isaf.

17. Hwythau hefyd gyda hi a ddisgynnant i uffern at laddedigion y cleddyf, a'r rhai oedd fraich iddi hi, y rhai a drigasant dan ei chysgod hi yng nghanol y cenhedloedd.

18. I bwy felly ymysg coed Eden yr oeddit debyg mewn gogoniant a mawredd? eto ti a ddisgynnir gyda choed Eden i'r tir isaf; gorweddi yng nghanol y rhai dienwaededig, gyda lladdedigion y cleddyf. Dyma Pharo a'i holl liaws, medd yr Arglwydd Dduw.