Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48

Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Adaeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,

2. Gosod dy wyneb, fab dyn, tua Jerwsalem, a difera dy eiriau tua'r cysegroedd, a phroffwyda yn erbyn gwlad Israel,

3. A dywed wrth wlad Israel, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Wele fi i'th erbyn, tynnaf hefyd fy nghleddyf o'i wain, a thorraf ohonot gyfiawn ac anghyfiawn.

4. Oherwydd y torraf ohonot gyfiawn ac anghyfiawn, am hynny y daw fy nghleddyf allan o'i wain yn erbyn pob cnawd, o'r deau hyd y gogledd;

5. Fel y gwypo pob cnawd i mi yr Arglwydd dynnu fy nghleddyf allan o'i wain: ni ddychwel efe mwy.

6. Ochain dithau, fab dyn, gydag ysictod lwynau; ie, ochain yn chwerw yn eu golwg hwynt.

7. A bydd, pan ddywedant wrthyt, Am ba beth yr ydwyt yn ochain? yna ddywedyd ohonot, Am y chwedl newydd, am ei fod yn dyfod, fel y toddo pob calon, ac y llaeso y dwylo oll, ac y pallo pob ysbryd, a'r gliniau oll a ânt fel dwfr; wele efe yn dyfod, ac a fydd, medd yr Arglwydd Dduw.

8. A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd,

9. Proffwyda, fab dyn, a dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Dywed, Cleddyf, cleddyf a hogwyd, ac a loywyd.

10. Efe a hogwyd i ladd lladdfa, efe a loywyd fel y byddai ddisglair: a lawenychwn ni? y mae efe yn dirmygu gwialen fy mab, fel pob pren.

11. Ac efe a'i rhoddes i'w loywi, i'w ddal mewn llaw; y cleddyf hwn a hogwyd, ac a loywyd, i'w roddi yn llaw y lleiddiad.

12. Gwaedda ac uda, fab dyn; canys hwn fydd ar fy mhobl, hwn fydd yn erbyn holl dywysogion Israel; dychryn gan y cleddyf fydd ar fy mhobl: am hynny taro law ar forddwyd.

13. Canys profiad yw; a pheth os y cleddyf a ddiystyra y wialen? ni bydd efe mwy, medd yr Arglwydd Dduw.

14. Tithau, fab dyn, proffwyda, a tharo law wrth law, a dybler y cleddyf y drydedd waith: cleddyf y lladdedigion, cleddyf lladdedigaeth y gwŷr mawr ydyw, yn myned i'w hystafelloedd hwynt.

15. Rhoddais flaen y cleddyf yn erbyn eu holl byrth hwynt, i doddi eu calon, ac i amlhau eu tramgwyddiadau: O, gwnaed ef yn loyw, hogwyd ef i ladd!

16. Dos ryw ffordd, naill ai ar y llaw ddeau, ai ar y llaw aswy, lle y tueddo dy wyneb.

17. Minnau hefyd a drawaf y naill law yn y llall, ac a lonyddaf fy llid: myfi yr Arglwydd a'i lleferais.

18. A daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,

19. Tithau, fab dyn, gosod i ti ddwy ffordd, fel y delo cleddyf brenin Babilon; o un tir y deuant ill dwy: a dewis le, ym mhen ffordd y ddinas y dewisi ef.

20. Gosod ffordd i ddyfod o'r cleddyf tua Rabbath meibion Ammon, a thua Jwda yn erbyn Jerwsalem gaerog.

21. Canys safodd brenin Babilon ar y groesffordd, ym mhen y ddwyffordd, i ddewinio dewiniaeth: gloywodd ei saethau, ymofynnodd â delwau, edrychodd mewn afu.

22. Yn ei law ddeau yr oedd dewiniaeth Jerwsalem, am osod capteiniaid i agoryd safn mewn lladdedigaeth, i ddyrchafu llef gyda bloedd, i osod offer rhyfel yn erbyn y pyrth, i fwrw clawdd, i adeiladu amddiffynfa.

23. A hyn fydd ganddynt, fel dewinio dewiniaeth gwagedd yn eu golwg hwynt, i'r rhai a dyngasant lwon: ond efe a gofia yr anwiredd, i'w dal hwynt.

24. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Am beri ohonoch gofio eich anwiredd, gan amlygu eich camweddau, fel yr ymddengys eich pechodau yn eich holl weithredoedd; am beri ohonoch eich cofio, y'ch delir â llaw.

25. Tithau, halogedig annuwiol dywysog Israel, yr hwn y daeth ei ddydd, yn amser diwedd anwiredd,

26. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Symud y meitr, a thyn ymaith y goron; nid yr un fydd hon: cyfod yr isel, gostwng yr uchel.

27. Dymchwelaf, dymchwelaf, dymchwelaf hi; ac ni bydd mwyach hyd oni ddelo yr hwn y mae yn gyfiawn iddo; ac iddo ef y rhoddaf hi.

28. Proffwyda dithau, fab dyn, a dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw am feibion Ammon, ac am eu gwaradwydd hwynt; dywed di, Y cleddyf, y cleddyf a dynnwyd: i ladd y gloywyd ef, i ddifetha oherwydd y disgleirdeb:

29. Wrth weled gwagedd i ti, wrth ddewinio i ti gelwydd, i'th roddi ar yddfau y lladdedigion, y drygionus y rhai y daeth eu dydd, yn amser diwedd eu hanwiredd.

30. A ddychwelaf fi ef i'w wain? yn y lle y'th grewyd, yn nhir dy gynefin, y'th farnaf.

31. A thywalltaf fy nicllonedd arnat, â thân fy llidiowgrwydd y chwythaf arnat, a rhoddaf di yn llaw dynion poethion, cywraint i ddinistrio.

32. I'r tân y byddi yn ymborth; dy waed fydd yng nghanol y tir; ni'th gofir mwyach: canys myfi yr Arglwydd a'i dywedais.