Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48

Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd,

2. Mab dyn, traetha ddychymyg, a diarheba ddihareb wrth dŷ Israel,

3. A dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Eryr mawr, mawr ei adenydd, hir ei asgell, llawn plu, yr hwn oedd iddo amryw liwiau, a ddaeth i Libanus, ac a gymerth frigyn uchaf y gedrwydden.

4. Torrodd frig ei blagur hi, ac a'i dug i dir marsiandïaeth: yn ninas marchnadyddion y gosododd efe ef.

5. A chymerth o had y tir, ac a'i bwriodd mewn maes ffrwythlon; efe a'i gosododd ef wrth ddyfroedd lawer, ac a'i plannodd fel helygen.

6. Ac efe a dyfodd, ac a aeth yn winwydden wasgarog, isel o dwf, a'i changau yn troi ato ef; a'i gwraidd oedd dano ef: felly yr aeth yn winwydden, ac y dug geinciau, ac y bwriodd frig.

7. Yr oedd hefyd ryw eryr mawr, mawr ei esgyll, ac â llawer o blu: ac wele y winwydden hon yn plygu ei gwraidd tuag ato ef, ac yn bwrw ei cheinciau tuag ato, i'w dyfrhau ar hyd rhigolau ei phlaniad.

8. Mewn maes da wrth ddyfroedd lawer y planasid hi, i fwrw brig, ac i ddwyn ffrwyth, fel y byddai yn winwydden hardd‐deg.

9. Dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw: A lwydda hi? oni thyn efe ei gwraidd hi? ac oni thyr efe ei ffrwyth hi, fel y gwywo? sych holl ddail ei brig, ac nid trwy fraich mawr, na thrwy bobl lawer, i'w thynnu hi o'i gwraidd.

10. Ie, wele, wedi ei phlannu, a lwydda hi? gan wywo oni wywa, pan gyffyrddo gwynt y dwyrain â hi? yn rhigolau ei thwf y gwywa.

11. Daeth hefyd air yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,

12. Dywed yr awr hon wrth y tŷ gwrthryfelgar, Oni wyddoch beth yw hyn? dywed, Wele, daeth brenin Babilon i Jerwsalem, ac efe a gymerodd ei brenin hi, a'i thywysogion, ac a'u dug hwynt gydag ef i Babilon:

13. Ac a gymerodd o'r had brenhinol, ac a wnaeth ag ef gyfamod, ac a'i dug ef dan lw; cymerodd hefyd gedyrn y wlad:

14. Fel y byddai y deyrnas yn isel, heb ymddyrchafu, eithr sefyll ohoni trwy gadw ei gyfamod ef.

15. Ond gwrthryfelodd i'w erbyn, gan anfon ei genhadau i'r Aifft, fel y rhoddid iddo feirch, a phobl lawer. A lwydda efe? a ddianc yr hwn a wnelo hyn? neu a ddiddyma efe y cyfamod, ac a waredir ef?

16. Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, yng nghartref y brenin yr hwn a'i gwnaeth ef yn frenin, yr hwn y diystyrodd efe ei lw, a'r hwn y diddymodd efe ei gyfamod, gydag ef y bydd efe farw yng nghanol Babilon.

17. Ac ni wna Pharo â'i lu mawr, ac â'i fintai luosog, ddim gydag ef mewn rhyfel, wrth godi clawdd, ac wrth adeiladu cestyll, i dorri ymaith lawer einioes.

18. Gan ddiystyru ohono y llw, gan ddiddymu y cynghrair, (canys wele, efe a roddasai ei law,) a gwneuthur ohono hynny oll, ni ddianc.

19. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Fel mai byw fi, fy llw yr hwn a ddiystyrodd efe, a'm cyfamod yr hwn a ddiddymodd efe, hwnnw a roddaf fi ar ei ben ef.

20. Canys taenaf fy rhwyd arno, ac efe a ddelir yn fy rhwyd, a dygaf ef i Babilon, ac yno yr ymddadleuaf ag ef am ei gamwedd a wnaeth i'm herbyn.

21. A'i holl ffoaduriaid ynghyd â'i holl fyddinoedd a syrthiant gan y cleddyf, a'r gweddill a wasgerir gyda phob gwynt; fel y gwypoch mai myfi yr Arglwydd a'i lleferais.

22. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Mi a gymeraf hefyd frig y gedrwydden uchel, ac a'i gosodaf: o frig ei blagur y torraf un tyner, a mi a'i plannaf ar fynydd uchel a dyrchafedig.

23. Ar fynydd uchelder Israel y plannaf ef: ac efe a fwrw frig, ac a ddwg ffrwyth, ac a fydd yn gedrwydden hardd‐deg: a phob aderyn o bob rhyw asgell a drig dani; dan gysgod ei changhennau y trigant.

24. A holl brennau y maes a gânt wybod mai myfi yr Arglwydd a ostyngais y pren uchel, ac a ddyrchefais y pren isel; a sychais y pren ir, ac a ireiddiais y pren crin: myfi yr Arglwydd a'i lleferais, ac a'i gwneuthum.