Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48

Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yna y'm cyfododd yr ysbryd, ac y'm dug hyd borth dwyrain tŷ yr Arglwydd, yr hwn sydd yn edrych tua'r dwyrain: ac wele bumwr ar hugain yn nrws y porth; ac yn eu mysg y gwelwn Jaasaneia mab Asur, a Phelatia mab Benaia, tywysogion y bobl.

2. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ha fab dyn, dyma y gwŷr sydd yn dychmygu anwiredd, ac yn cynghori drwg gyngor yn y ddinas hon:

3. Y rhai a ddywedant, Nid yw yn agos; adeiladwn dai; hi yw y crochan, a ninnau y cig.

4. Am hynny proffwyda i'w herbyn hwynt, proffwyda, fab dyn.

5. Yna y syrthiodd ysbryd yr Arglwydd arnaf, ac a ddywedodd wrthyf, Dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Tŷ Israel, fel hyn y dywedasoch: canys mi a wn y pethau sydd yn dyfod i'ch meddwl chwi, bob un ohonynt.

6. Amlhasoch eich lladdedigion o fewn y ddinas hon, a llanwasoch ei heolydd hi â chelaneddau.

7. Am hynny, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Eich lladdedigion y rhai a osodasoch yn ei chanol hi, yw y cig; a hithau yw y crochan: chwithau a ddygaf allan o'i chanol.

8. Y cleddyf a ofnasoch, a'r cleddyf a ddygaf arnoch, medd yr Arglwydd Dduw.

9. Dygaf chwi hefyd allan o'i chanol hi, a rhoddaf chwi yn llaw dieithriaid, a gwnaf farn yn eich mysg.

10. Ar y cleddyf y syrthiwch, ar derfyn Israel y barnaf chwi: fel y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd.

11. Y ddinas hon ni bydd i chwi yn grochan, ni byddwch chwithau yn gig o'i mewn; ond ar derfyn Israel y barnaf chwi.

12. A chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd: canys ni rodiasoch yn fy neddfau, ac ni wnaethoch fy marnedigaethau; ond yn ôl defodau y cenhedloedd o'ch amgylch y gwnaethoch.

13. A phan broffwydais, bu farw Pelatia mab Benaia: yna syrthiais ar fy wyneb, a gwaeddais â llef uchel, a dywedais, O Arglwydd Dduw, a wnei di dranc ar weddill Israel?

14. A daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,

15. Ha fab dyn, dy frodyr, dy frodyr, dynion dy geraint, a holl dŷ Israel yn gwbl, ydyw y rhai y dywedodd preswylwyr Jerwsalem wrthynt, Ymbellhewch oddi wrth yr Arglwydd; i ni y rhodded y tir hwn yn etifeddiaeth.

16. Dywed am hynny, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Er gyrru ohonof hwynt ymhell ymysg y cenhedloedd, ac er gwasgaru ohonof hwynt trwy y gwledydd, eto byddaf yn gysegr bychan iddynt yn y gwledydd lle y deuant.

17. Dywed gan hynny, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Casglaf chwi hefyd o fysg y bobloedd, a chynullaf chwi o'r gwledydd y'ch gwasgarwyd ynddynt, a rhoddaf i chwi dir Israel.

18. A hwy a ddeuant yno, ac a symudant ei holl frynti hi a'i holl ffieidd‐dra allan ohoni hi.

19. A rhoddaf iddynt un galon, ac ysbryd newydd a roddaf ynoch; tynnaf hefyd y galon garreg ymaith o'u cnawd hwynt, a rhoddaf iddynt galon gig:

20. Fel y rhodiont yn fy neddfau, ac y cadwont fy marnedigaethau, ac y gwnelont hwynt: a hwy a fyddant yn bobl i mi, a minnau a fyddaf Dduw iddynt hwy.

21. Ond am y rhai y mae eu calon yn myned ar ôl meddwl eu brynti a'u ffeidd-dra, rhoddaf eu ffordd hwynt ar eu pennau eu hun, medd yr Arglwydd Dduw.

22. Yna y ceriwbiaid a gyfodasant eu hadenydd, a'r olwynion yn eu hymyl, a gogoniant Duw Israel oedd arnynt oddi arnodd.

23. A gogoniant yr Arglwydd a ymddyrchafodd oddi ar ganol y ddinas, ac a safodd ar y mynydd sydd o'r tu dwyrain i'r ddinas.

24. Yna yr ysbryd a'm cododd i, ac a'm dug hyd Caldea at y gaethglud mewn gweledigaeth trwy ysbryd Duw. A'r weledigaeth a welswn a ddyrchafodd oddi wrthyf.

25. Yna y lleferais wrth y rhai o'r gaethglud holl eiriau yr Arglwydd, y rhai a ddangosasai efe i mi.