Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48

Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd,

2. Ha fab dyn, beth yw coed y winwydden fwy na phob coed arall, neu gainc yr hon sydd ymysg prennau y coed?

3. A gymerir ohoni goed i wneuthur gwaith? a gymerant ohoni hoel i grogi un offeryn arni?

4. Wele, yn ymborth i'r tân y rhoddir hi; difaodd y tân ei deuben hi, ei chanol a olosgwyd: a wasanaetha hi mewn gwaith?

5. Wele, pan oedd gyfan, nid oedd gymwys i ddim gwaith: pa faint llai, gan ei difa o dân a'i golosgi, y bydd hi eto gymwys i waith?

6. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Megis pren y winwydden ymysg prennau y coed, yr hon a roddais yn ymborth i'r tân, felly y rhoddaf drigolion Jerwsalem.

7. A gosodaf fy wyneb yn eu herbyn hwynt: o'r naill dân y deuant allan, a thân arall a'u difa hwynt; fel y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd, pan osodwyf fy wyneb i'w herbyn hwynt.

8. Gwnaf hefyd y wlad yn anrhaith, am wneuthur ohonynt gamwedd, medd yr Arglwydd Dduw.