Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48

Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,

2. Mab dyn, gosod dy wyneb tua mynyddoedd Israel, a phroffwyda yn eu herbyn;

3. A dywed, Mynyddoedd Israel, gwrandewch air yr Arglwydd Dduw: Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw wrth y mynyddoedd ac wrth y bryniau, wrth y nentydd ac wrth y dyffrynnoedd; Wele fi, ie, myfi yn dwyn cleddyf arnoch, a mi a ddinistriaf eich uchel leoedd.

4. Eich allorau hefyd a ddifwynir, a'ch haul‐ddelwau a ddryllir: a chwympaf eich archolledigion o flaen eich eilunod.

5. A rhoddaf gelanedd meibion Israel gerbron eu heilunod, a thaenaf eich esgyrn o amgylch eich allorau.

6. Yn eich holl drigfeydd y dinasoedd a anrheithir, a'r uchelfeydd a ddifwynir; fel yr anrheithier ac y difwyner eich allorau, ac y torrer ac y peidio eich eilunod, ac y torrer ymaith eich haul‐ddelwau, ac y dileer eich gweithredoedd.

7. Yr archolledig hefyd a syrth yn eich canol; a chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd.

8. Eto gadawaf weddill, fel y byddo i chwi rai wedi dianc gan y cleddyf ymysg y cenhedloedd, pan wasgarer chwi trwy y gwledydd.

9. A'ch rhai dihangol a'm cofiant i ymysg y cenhedloedd y rhai y caethgludir hwynt atynt, am fy nryllio â'u calon buteinllyd, yr hon a giliodd oddi wrthyf; ac â'u llygaid, y rhai a buteiniasant ar ôl eu heilunod: yna yr ymffieiddiant ynddynt eu hun am y drygioni a wnaethant yn eu holl ffieidd‐dra.

10. A chânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd, ac na leferais yn ofer am wneuthur iddynt y drwg hwn.

11. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Taro â'th law, a chur â'th droed, a dywed, O, rhag holl ffieidd‐dra drygioni tŷ Israel! canys trwy gleddyf, trwy newyn, a thrwy haint, y syrthiant.

12. Y pellennig a fydd farw o'r haint, a'r cyfagos a syrth gan y cleddyf; y gweddilledig hefyd a'r gwarchaeëdig a fydd farw o newyn: fel hyn y gorffennaf fy llidiowgrwydd arnynt.

13. A chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd, pan fyddo eu harcholledigion hwynt ymysg eu heilunod o amgylch eu hallorau, ar bob bryn uchel, ar holl bennau y mynyddoedd, a than bob pren ir, a than bob derwen gaeadfrig, lle y rhoddasant arogl peraidd i'w holl eilunod.

14. Felly yr estynnaf fy llaw arnynt, a gwnaf y tir yn anrhaith; ie, yn fwy anrheithiol na'r anialwch tua Diblath, trwy eu holl drigfeydd: a chânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd.