1. Yna y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,
2. Ha fab dyn, dwy wraig oedd ferched i'r un fam;
3. A phuteiniasant yn yr Aifft, yn eu hieuenctid y puteiniasant: yno y pwyswyd ar eu bronnau, ac yno yr ysigasant ddidennau eu morwyndod.
4. A'u henwau hwynt oedd, Ahola yr hynaf, ac Aholiba ei chwaer: ac yr oeddynt yn eiddof fi, a phlantasant feibion a merched. Dyma eu henwau; Samaria yw Ahola, a Jerwsalem Aholiba.
5. Ac Ahola a buteiniodd pan oedd eiddof fi, ac a ymserchodd yn ei chariadau, ei chymdogion yr Asyriaid;
6. Y rhai a wisgid â glas, yn ddugiaid ac yn dywysogion, o wŷr ieuainc dymunol i gyd, yn farchogion yn marchogaeth meirch.
7. Fel hyn y gwnaeth hi ei phuteindra â hwynt, â dewis feibion Assur oll, a chyda'r rhai oll yr ymserchodd ynddynt; â'u holl eilunod hwynt yr ymhalogodd hi.
8. Ac ni adawodd ei phuteindra a ddygasai hi o'r Aifft: canys gorweddasent gyda hi yn eu hieuenctid, a hwy a ysigasent fronnau ei morwyndod hi, ac a dywalltasent eu puteindra arni.
9. Am hynny y rhoddais hi yn llaw ei chariadau, sef yn llaw meibion Assur, y rhai yr ymserchodd hi ynddynt.
10. Y rhai hynny a ddatguddiasant ei noethni hi: hwy a gymerasant ei meibion hi a'i merched, ac a'i lladdasant hithau â'r cleddyf: a hi a aeth yn enwog ymysg gwragedd: canys gwnaethent farn arni.
11. A phan welodd ei chwaer Aholiba, hi a lygrodd ei thraserch yn fwy na hi, a'i phuteindra yn fwy na phuteindra ei chwaer.
12. Ymserchodd ym meibion Assur, y dugiaid a'r tywysogion o gymdogion, wedi eu gwisgo yn wych iawn, yn farchogion yn marchogaeth meirch, yn wŷr ieuainc dymunol i gyd.
13. Yna y gwelais ei halogi hi, a bod un ffordd ganddynt ill dwy,
14. Ac iddi hi chwanegu ar ei phuteindra: canys pan welodd wŷr wedi eu llunio ar y pared, delwau y Caldeaid wedi eu llunio â fermilion,
15. Wedi eu gwregysu â gwregys am eu llwynau, yn rhagori mewn lliwiau am eu pennau, mewn golwg yn dywysogion oll, o ddull meibion Babilon yn Caldea, tir eu genedigaeth:
16. Hi a ymserchodd ynddynt pan eu gwelodd â'i llygaid, ac a anfonodd genhadau atynt i Caldea.
17. A meibion Babilon a ddaethant ati i wely cariad, ac a'i halogasant hi â'u puteindra; a hi a ymhalogodd gyda hwynt, a'i meddwl a giliodd oddi wrthynt.
18. Felly y datguddiodd hi ei phuteindra, ac y datguddiodd ei noethni. Yna y ciliodd fy meddwl oddi wrthi, fel y ciliasai fy meddwl oddi wrth ei chwaer hi.
19. Eto hi a chwanegodd ei phuteindra, gan gofio dyddiau ei hieuenctid, yn y rhai y puteiniasai hi yn nhir yr Aifft.
20. Canys hi a ymserchodd yn ei gordderchwyr, y rhai yr oedd eu cnawd fel cnawd asynnod, a'u diferlif fel diferlif meirch.
21. Felly y cofiaist ysgelerder dy ieuenctid, pan ysigwyd dy ddidennau gan yr Eifftiaid, am fronnau dy ieuenctid.
22. Am hynny, Aholiba, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn cyfodi dy gariadau i'th erbyn, y rhai y ciliodd dy feddwl oddi wrthynt, a dygaf hwynt i'th erbyn o amgylch:
23. Meibion Babilon a'r holl Galdeaid, Pecod, a Soa, a Coa, a holl feibion Assur gyda hwynt; yn wŷr ieuainc dymunol, yn ddugiaid a thywysogion i gyd, yn benaethiaid ac yn enwog, yn marchogaeth meirch, bawb ohonynt.
24. A deuant i'th erbyn â menni, cerbydau, ac olwynion, ac â chynulleidfa o bobl; gosodant i'th erbyn oddi amgylch astalch, a tharian, a helm: a rhoddaf o'u blaen hwynt farnedigaeth, a hwy a'th farnant â'u barnedigaethau eu hun.
25. A mi a osodaf fy eiddigedd yn dy erbyn, a hwy a wnânt â thi yn llidiog: dy drwyn a'th glustiau a dynnant ymaith, a'th weddill a syrth gan y cleddyf: hwy a ddaliant dy feibion a'th ferched; a'th weddill a ysir gan y tân.
26. Diosgant hefyd dy ddillad, a dygant dy ddodrefn hyfryd.
27. Felly y gwnaf i'th ysgelerder, a'th buteindra o dir yr Aifft, beidio â thi; fel na chodech dy lygaid atynt, ac na chofiech yr Aifft mwy.
28. Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Wele fi yn dy roddi yn llaw y rhai a gaseaist, yn llaw y rhai y ciliodd dy feddwl oddi wrthynt.
29. A gwnânt â thi yn atgas, ac a gymerant dy holl lafur, ac a'th adawant di yn llom ac yn noeth: a datguddir noethni dy buteindra; ie, dy ysgelerder a'th buteindra.
30. Mi a wnaf hyn i ti, am buteinio ohonot ar ôl y cenhedloedd, am dy halogi gyda'u heilunod hwynt.
31. Ti a rodiaist yn ffordd dy chwaer; am hynny y rhoddaf finnau ei chwpan hi yn dy law di.
32. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Dwfn a helaeth gwpan dy chwaer a yfi: ti a fyddi i'th watwar ac i'th ddirmygu: y mae llawer yn genni ynddo.
33. Ti a lenwir â meddwdod ac â gofid, o gwpan syndod ac anrhaith, o gwpan dy chwaer Samaria.
34. Canys ti a yfi, ac a sugni ohono; drylli hefyd ei ddarnau ef, ac a dynni ymaith dy fronnau dy hun: canys myfi a'i lleferais, medd yr Arglwydd Dduw.
35. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Oherwydd i ti fy anghofio, a'm bwrw ohonot tu ôl i'th gefn; am hynny dwg dithau dy ysgelerder a'th buteindra.
36. Dywedodd yr Arglwydd hefyd wrthyf, A ferni di, fab dyn, Ahola ac Aholiba? ie, mynega iddynt eu ffieidd‐dra;
37. Iddynt dorri priodas, a bod gwaed yn eu dwylo; ie, gyda'u heilunod y puteiniasant; eu meibion hefyd y rhai a blantasant i mi, a dynasant trwy dân iddynt i'w hysu.
38. Gwnaethant hyn ychwaneg i mi; fy nghysegr a aflanhasant yn y dydd hwnnw, a'm Sabothau a halogasant.
39. Canys pan laddasant eu meibion i'w heilunod, yna y daethant i'm cysegr yn y dydd hwnnw, i'w halogi ef: ac wele, fel hyn y gwnaethant yng nghanol fy nhŷ.
40. A hefyd gan anfon ohonoch am wŷr i ddyfod o bell, y rhai yr anfonwyd cennad atynt, ac wele daethant: er mwyn y rhai yr ymolchaist, y lliwiaist dy lygaid, ac yr ymherddaist â harddwch.
41. Eisteddaist hefyd ar wely anrhydeddus, a bord drefnus o'i flaen, a gosodaist arno fy arogl‐darth a'm holew i.
42. A llais tyrfa heddychol oedd gyda hi: a chyda'r cyffredin y dygwyd y Sabeaid o'r anialwch, y rhai a roddasant freichledau am eu dwylo hwynt, a choronau hyfryd am eu pennau hwynt.
43. Yna y dywedais wrth yr hen ei phuteindra, A wnânt hwy yn awr buteindra gyda hi, a hithau gyda hwythau?
44. Eto aethant ati fel myned at buteinwraig; felly yr aethant at Ahola ac Aholiba, y gwragedd ysgeler.
45. A'r gwŷr cyfiawn hwythau a'u barnant hwy â barnedigaeth puteiniaid, ac â barnedigaeth rhai yn tywallt gwaed: canys puteinio y maent, a gwaed sydd yn eu dwylo.
46. Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Dygaf i fyny dyrfa arnynt hwy, a rhoddaf hwynt i'w mudo ac i'w hanrheithio.
47. A'r dyrfa a'u llabyddiant hwy â meini, ac a'u torrant hwy â'u cleddyfau: eu meibion a'u merched a laddant, a'u tai a losgant â thân.
48. Fel hyn y gwnaf finnau i ysgelerder beidio o'r wlad, fel y dysgir yr holl wragedd na wnelont yn ôl eich ysgelerder chwi.
49. A hwy a roddant eich ysgelerder i'ch erbyn, a chwi a ddygwch bechodau eich eilunod; ac a gewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd Dduw.